Nawdd Ariannol ac Ysgoloriaethau
Cliciwch yma am wybodaeth am y nawdd ariannol sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd ac am gyfleoedd pellach o nawdd allanol.
Ysgoloriaethau Ysgol y Gymraeg
Ysgoloriaethau Celia Thomas a Glyn a May Ashton
Dyfernir yr ysgoloriaethau hyn i fyfyrwyr MA ac MPhil/PhD sydd yn ymchwilio i unrhyw faes yn ymwneud â’r iaith Gymraeg. Mae gwerth yr ysgoloriaethau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, ond yn arferol maent hyd at £3000. Mae hawl gan fyfyrwyr o dramor i wneud cais am yr ysgoloriaethau hyn.
Ysgoloriaeth Islwyn
Dyfernir yr ysgoloriaeth hon i fyfyrwyr MA ac MPhil/PhD sydd yn ymchwilio i lenyddiaeth y 19eg ganrif, hanes llên neu hanes crefydd yng Ngwent, neu waith Islwyn. Mae gwerth yr ysgoloriaeth yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, ond yn arferol mae hyd at £3000. Mae hawl gan fyfyrwyr o dramor i wneud cais am yr ysgoloriaeth hon.
Ymgeiswyr
Bydd ymgeiswyr eisoes wedi cael eu derbyn ar gyfer astudio’n ôl-raddedig yn Ysgol y Gymraeg. Dylid cyflwyno ffurflen gais yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Gofynnir i ymgeiswyr MA amlinellu maes eu hastudiaethau ynghyd â’u cynlluniau ar gyfer y traethawd hir. Gofynnir i ymgeiswyr MPhil/PhD gyflwyno teitl y traethawd arfaethedig ac egluro cwmpas ac arwyddocâd yr ymchwil.
Dyddiad cau blynyddol ar gyfer ysgoloriaethau Ysgol y Gymraeg: 30 Mehefin
Ysgoloriaeth Ysgol y Gymraeg i Fyfyrwyr Rhyngwladol
Mae Ysgol y Gymraeg yn cynnig ysgoloriaeth o £1,000 i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n astudio'r MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd neu'n gwneud ymchwil ôl-raddedig. Mae'r ysgoloriaeth hon yn agored i fyfyrwyr o bob gwlad a chaiff ei dyfarnu ar sail eu cais ar gyfer y cwrs neu eu cynnig ymchwil.
Am ragor o fanylion cliciwch yma.
Ysgoloriaethau Allanol
Ysgoloriaethau Meistr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig ugain o ysgoloriaethau’r flwyddyn ar gyfer myfyrwyr sydd am astudio cyrsiau gradd meistr yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg.
£1,500 yw gwerth pob un o'r ysgoloriaethau yma.
Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.
Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen
Mae cymorth ar gael ar gyfer astudio ôl-raddedig ym mhob maes ond ar gyfer ymchwil yn bennaf. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais cliciwch yma
Am ragor o wybodaeth am ysgoloriaethau ôl-raddedig, cysylltwch â Ceren Roberts os gwelwch yn dda.
