Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Dr Siwan Rosser

Gorolwg

Dr Siwan Rosser Swydd: Darlithydd E-bost: RosserSM@caerdydd.ac.uk
Ffôn: +44(0)29 208 74843
Ffacs: +44(0)29 208 74604
Estyniad: 74843
Lleoliad: Adeilad y Dyniaethau

Prif ddiddordebau ymchwil

Mae fy ngwaith ymchwil yn ymwneud yn bennaf â llenyddiaeth boblogaidd, testunau ag iddynt apêl eang, ond a anwybyddid, i raddau helaeth, gan feirniadaeth lenyddol draddodiadol yng Nghymru. Bûm yn archwilio, er enghraifft, y modd y portreedir merched ym maledi’r ddeunawfed ganrif yn fy nghyfrol gyntaf:
Y Ferch ym Myd y Faled: Delweddau o'r Ferch ym Maledi'r Ddeunawfed Ganrif ac mewn ysgrifau eraill, canolbwyntiaf ar faledi a gyfansoddwyd gan ferched, baledi newyddiadurol Elis y Cowper, a dylanwad y ffin â Lloegr ar faledi’r ddeunawfed ganrif. Yn 2007 ymddangosodd fy ail gyfrol, sef golygiad o gerddi’r bardd gwlad Jonathan Hughes (1721-1805). Dyma’r astudiaeth gynhwysfawr gyntaf o waith y bardd sydd hefyd yn bwrw goleuni ar natur a swyddogaeth llenyddiaeth boblogaidd y cyfnod yn gyffredinol.

Yn ogystal â’m diddordeb yn y traddodiad baledol, rwyf hefyd yn ymddiddori mewn llên plant, ac yn archwilio delweddau benywaidd mewn ffuglen i blant, datblygiad delwedd y plentyn, a chysyniadau yn ymwneud â chenedligrwydd a hunaniaeth Gymreig mewn llenyddiaeth plant.

Proffil Dysgu

BA yn y Gymraeg: Blwyddyn Un Iaith Gyntaf
  • CY1743 Llenyddiaeth Gymraeg
BA yn y Gymraeg: Blynyddoedd 2 a 3/4
  • CY2349 I Fyd y Faled
  • CY3633 Llenyddiaeth Plant
  • CY2318 Dadeni a Diwygiad 1500-1900
  • CY2345 Cyflwyniad i Astudiaethau Gwerin
  • CY3617 Merched a Llên yn y Cyfnod Modern
  • CY2126 Blas ar Ymchwil
  • CY2255 Cymraeg Cyfoes
Cyfarwyddwr Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig
  • Am fanylion ynghylch ein graddau ymchwil ewch i'r dudalen hon

Darlithoedd Gwadd

20 Ebrill 2009

Cynhadledd Barddoniaeth a Phlentyndod, Y Llyfrgell Brydeinig: 'Rhyming the Nation: Welsh Poetry for Children'

4 Awst 2004

Darlith Goffa Amy Parry-Williams, Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru: ‘Baledi'r Ffin’ (dylanwad y ffin â Lloegr ar faledi’r 18fed ganrif)

10 Medi 2005

Cyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth: ‘Y Ferch ym Myd y Faled’

6 Awst 2007

Darlith Goffa T. H. Parry-Williams, Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion: ‘Ynom mae y Clawdd? Croesi Ffiniau Llenyddol’ (dadansoddiad o farddoniaeth Clawdd Offa a’r ffin)

27 Tachwedd 2007

Cynhadledd Flynyddol Canolfan Uwchefrydiau Cymry America: ‘‘Albert Maywood; neu Fywyd ymysg yr Indiaid’: Brodorion America, Thomas Levi a Dechreuadau’r Stori Antur i Blant’

Cyhoeddiadau

Detholiad o gyhoeddiadau

2012 'Language, culture and identity in Welsh children's literature: O.M. Edwards and Cymru'r Plant 1892-1920' yn Nic Congáil, Ríona (gol). Codladh Céad Bliain: Cnuasach Aistí ar Litríocht na nÓg. Baile Átha Cliath: LeabhairCOMHAR, tt. 223-251.ISBN 978–0–9557217–9–3.

2011. Adolygiad ‘Detholiad o Faledi Huw Jones ‘Llymgi Penllwyd Llangwm’’, Llên Cymru 34, 259-61

2011. Adolygiad ‘Cerddi Jane Ellis’, Poetry Wales, 47:1, 70-71

2010. Adolygiad ‘Awstralia, Gwlad yr Aur: Teithiau i Awstralia drwy Lygad y Baledwyr Cymraeg’, Y Traethodydd, 165 (Ebrill), 120-121

2009. ‘“Albert Maywood”: Brodorion America, Thomas Levi a Dechreuadau’r Stori Antur i Blant’, Y Traethodydd(Gorffennaf), 34-46.

2009. Adolygiad ‘Y Rhyfel Cartrefol’, Taliesin, 137 (Haf), 148-150

2008. 'Thomas Jones, Dinbych, a'i Anrheg i Blentyn', Historical Journal: Historical Society of the Presbyterian Church of Wales, 32, 44-73.

2008. ''Ynom mae y Clawdd?' Croesi Ffiniau Llenyddol', Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 14, 188-212.

2008 ‘Baledi Newyddiadurol Elis y Cowper’, Cof Cenedl XXIII, 67-99.

2008. Adolygiad ‘James Hughes ‘Iago Trichrug’’ Cyfres Llên y Llenor, Cylchgrawn Hanes Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, 32, 196-97.

2007. ‘Lladron a beirniaid llên: astudio baledi’r ddeunawfed ganrif’, Studia Celtica XLI, 185-98.

2007. Bardd Pengwern: Detholiad o Gerddi Jonathan Hughes Llangollen, Cyhoeddiadau Barddas.

2007, ‘Cymwys yng nghwmni prydyddion’? Merched a diwydiant argraffu baledi’r ddeunawfed ganrif, Llên Cymru, 30, 161-177.

2005 (Gaeaf). Y Ferch ym Myd y Faled: Delweddau o'r Ferch ym Maledi'r Ddeunawfed Ganrif, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.

2005 (Haf). 'Baledi'r Ffin: Golwg ar ddylanwad y ffin ar faledi'r ddeunawfed ganrif', Canu Gwerin, 28, 3-19.

2005 (Haf). 'Adolygiad Ar Dafod Gwerin: Penillion Bob Dydd', Taliesin, 125, 151-153.

2003 (Haf). ‘Gweithgareddau gyda Barddoniaeth’, Y Tiwtor, 31-3.

2001 (Haf). ‘Adolygiad: Ar Lafar ei Wlad’, Taliesin, 119, 152-5.

2001. ‘Gwerthu Cerddi Saesneg’, Tu Chwith, 15, 88-91.

2001 (Autumn). ‘Jonathan Hughes a Gwerineiddio Llenyddiaeth Gymraeg y Ddeunawfed Ganrif’, Y Traethodydd, 235-44.

2001. ‘Cip ar Faledi Jonathan Hughes’, Canu Gwerin, 23, 25-45.

 

Ymchwil

Ar hyn o bryd, rwyf yn olrhain datblygiad llenyddiaeth plant o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen. Dehonglir ymgais y crefyddwyr cynnar i addysgu ac arwain plant Oes Victoria drwy gyfrwng y cylchgronau enwadol ac ymdrechion gwladgarwyr ddiwedd y 19ganrif i ysbrydoli teyrngarwch y Cymry ifainc drwy gyfrwng cân a stori. Ymchwilir hefyd i dwf genres penodol yn ystod yr 20ganrif, megis y stori antur a llenyddiaeth ar gyfer yr arddegau.

Myfyrwyr ôl-raddedig

Myfyrwyr PhD Cyfredol

Awen Schiavone: Deuoliaeth yn y stori antur Gymraeg i blant (1900-1999) (ar y cyd â'r Athro Sioned Davies)

Lisa Sheppard: MPhil Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol