Dr Rhiannon Marks
Gorolwg
Swydd:
Tiwtor Iaith
E-bost:
MarksR@caerdydd.ac.ukFfôn: +44(0)29 208 75594
Ffacs: +44(0)29 208 74604
Estyniad: 75594
Lleoliad: Adeilad y Dyniaethau
Tiwtor iaith sy'n dysgu ar y Cynllun Sabothol Cenedlaethol yw Rhiannon Marks. Mae Prifysgol Caerdydd yn un o dri lleoliad sydd yn cynnig y cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae'n rhoi cyfle i ymarferwyr sy'n dymuno dysgu, darlithio neu hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog dderbyn hyfforddiant dwys ynghyd â methodoleg mewn dysgu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
Mae Rhiannon hefyd yn dysgu ar gyrsiau iaith a llenyddiaeth myfyrwyr israddedig yr Ysgol.
Daw Rhiannon yn wreiddiol o Gil-y-Cwm yn Sir Gaerfyrddin. Graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn cwblhau cwrs Meistr mewn Astudiaethau Menywod yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Dychwelodd i Aberystwyth i ysgrifennu traethawd PhD ar waith Menna Elfyn gan arbrofi â ffurf ‘beirniadaeth epistolaidd’. Ymddiddora Rhiannon mewn llenyddiaeth gyfoes, theori a beirniadaeth lenyddol, a chyfieithu llenyddol, a phan fydd cyfle mae hi’n hoff o ysgrifennu’n greadigol. Enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2007, ac mae hi newydd gael ei phenodi’n gydolygydd cylchgrawn Tu Chwith.
Cyhoeddiadau
Ymchwil
