Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Yr Athro Diarmait Mac Giolla Chríost

Gorolwg

Dr Diarmait Mac Giolla Chríost Swydd: Athro E-bost: MacGiollaChriostD@caerdydd.ac.uk
Ffôn: +44(0)29 208 79180
Ffacs: +44(0)29 208 74604
Estyniad: 79180
Lleoliad: Adeilad John Percival

Prif ddiddordebau ymchwil

Mae'r Athro Diarmait Mac Giolla Chríost, a benodwyd yn Ddarlithydd yn yr Ysgol yn 2004 ac yna yn Uwch Ddarlithydd yn 2007, yn aelod o Uned Ymchwil yr Ysgol ar Iaith, Polisi a Chynllunio. Mae yn frodor o Iwerddon ac yn awdurdod ar leiafrifoedd ieithyddol a chynllunio ieithyddol, ac yn arbenigwr ar sefyllfa'r iaith Wyddeleg. Mae ei ddiddordebau ymchwil eraill yn cwmpasu nifer o feysydd, gan gynnwys natur y berthynas rhwng iaith a gwrthdaro, o berspectif cymharol, Ewropeaidd, ac, yn ogystal, iaith yng nghyd-destun y ddinas, a hynny o berspectif cymharol a rhyngwladol. Mae ganddo nifer o gyhoeddiadau ym mesydd y gwyddorau cymdeithasol, daearyddiaeth a chymdeithaseg iaith. Mae'n Gymrawd o'r Gymdeithas Ddaearyddiaeth Frenhinol ac yn Gymrawd o'r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol. Mae'n aelod o'r grwp ymchwil EGIPP (European Governance, Identity and Public Policy), yn ogystal â’r rhwydweithiau ymchwil ‘Cymru-Iwerddon [Wales-Ireland]’ a Naratifau Trosedd [Crime Narratives].

Yr Athro Diarmait Mac Giolla Chríost yw prif ymchwilydd ar brosiect sylweddol ar y Gymraeg fel ail iaith ymhlith oedolion. Mae'r prosiect yn cael ei noddi gan APADGOS ac mae ymchwilwyr eraill o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Rhydychen a Phrifysgol Abertawe yn gweithio ar y prosiect. Am fwy o wybodaeth am y prosiect dilynwch y ddolen yma.

Proffil Dysgu

BA yn y Gymraeg: Blwyddyn 1
  • CY1745 Cymru a’i Diwylliant
BA yn y Gymraeg: Blwyddyn 2 a 3/4
  • CY2166 Cyflwyniad i Hanes yr Iaith
  • CY3595 Cymdeithaseg yr Wyddeleg
  • CY3591 Iaith, y Ddinas a Chymdeithas
  • CY3593 Iaith, Gwleidyddiaeth a Gwrthdaro
  • CY3598 Sosioieithyddiaeth
MA yn y Gymraeg/MA mewn Astudiaethau Gwerin
  • CYD030 Sgiliau Ymchwil
Rhaglen i fyfyrwyr preswyl o Brifysgol Colgate
  • 'Wales and the Welsh Language' (Cyfrannwr)

Cyhoeddiadau

 

(2008) ‘Irish gets out of jail' The Linguist [Journal of the Chartered Institute of Linguists] 47.4 Awst / Medi 2008 tt.22-23.

(2008) ‘A language of our own’ Overseas [Journal of the Royal Over-seas League] 3 Medi / Tachwedd 2008 tt.12-13.

(2007) Language and the City (Houndmills & New York: Palgrave Macmillan).

(2007) ‘Marketing and the Welsh Language’, Contemporary Wales 20 tt.71-81.

(2007) ‘Globalisation and Transformation: Language Planning in New Contexts’. Yn M.Nic Craith (gol.) Language, Power and Identity Politics (Houndmills & New York: Palgrave Macmillan) tt.21-42.

(2007) ‘Dinasyddiaeth, Bwrdd yr Iaith a Marchnata'r Gymraeg’, Gwerddon 1.1 tt.47-57.

(2006) ‘Micro-Level Language Planning in Ireland’, Current Issues in Language Planning 7.2 & 3 tt.230-250.

(2005) The Irish Language in Ireland: from Goídel to Globalisation (London & New York: Routledge).

(2003) Language, Identity and Conflict: a Comparative Study of Language in Ethnic Conflict in Europe and Eurasia (London & New York: Routledge).

(2003a) ‘Languages: Modern Irish’. Yn Loades, D. (gol.) Reader’s Guide to British History (London: Fitzroy Dearborn).

(2003b) ‘National Identities: Irish’. Yn Loades, D. (gol.) Reader’s Guide to British History (London: Fitzroy Dearborn).

(2003c) ‘Local Councils and the Welsh Experience’. Yn Cearta Teanga agus an Chomhairle Áitiúil. Language Rights and the Local Council (Foras na Gaeilege/Pobal: Belfast) tt.30-36.

Ymchwil

Prosiectau Ymchwil

Amrywiaeth ieithyddol a chynaladwyedd

Amrywiaeth ieithyddol a chynaladwyedd

Ymchwiliodd yr Athro Diarmait Mac Giolla Chríost y thema hon fel Ysgolhaig ar Ymweliad ym Mhrifysgolion Sydney a Melbourne yn Awstralia yn ystod 2008.

Bu hefyd yn darlithio yn y Sorbonne ym Mharis yn y Groupe de Recherche en Études Irlandaises de l'Université Sorbonne Nouvelle Paris 3 (Grŵp Ymchwil ar Astudiaethau Gwyddeleg Prifysgol y Sorbonne) ar:  ‘The Turn to Rights in the Language Question in Ireland and Wales’ ddiwedd 2008.

Y Jailtacht

Mae'r Athro Diarmait Mac Giolla Chríost eisoes wedi treulio peth amser yn ymchwilio’r ffenomen ieithyddol hon. Mae wedi gwneud cyflwyniadau ar ffrwyth ei ymchwil ym Mrifysgol Harvard yn Hydref 2007 ac fel rhan o seminarau ymchwil Cymru-Iwerddon (Prifysgol Caerdydd), dan nawdd yr AHRC.

Bu hefyd yn darlithio ar y 'Jailtacht' - Adfywiad yr Wyddeleg yng ngharchardai Gogledd Iwerddon' yng Nghymdeithas Carnhuanawc yn 2008.

 

Myfyrwyr ôl-raddedig

Myfyrwyr Ymchwil Cyfredol

Sonia Benghida: ‘Language and Spatial Planning’, Ysgoloriaeth PhD Rhyng-ddisgyblaethol Richard Whipp (ar y cyd â’r Dr Neil Harris, Ysgol Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol)

Robert Bevan: 'Monmouth and Berwick-Upon-Tweed local and national identities across the Celtic borders - A contextual and methodological development'

John Caulfield: 'iGaeltacht: replicating a rural linguistic community in an online and cross-platform world'

Lucy Morrow: 'Language and Celtic Ethnicity in Contemporary Ireland and Wales' (ar y cyd â’r Athro Colin H Williams)

Seán Ó Conaill: ‘The Irish language and the Law’, Ysgoloriaeth PhD Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon (ar y cyd â’r Athro Colin H Williams)

Manuel Urrutia: 'The foreign perception of the Catalan language' (ar y cyd â Dr Andrew Dowling, Ysgol Astudiaethau Ewropeaidd)

Caroline Walters: Cyfalaf Iaith, Ysgoloriaeth PhD Bwrdd yr Iaith Gymraeg (gyda’r Athro Colin H Williams)

Sarah Williams: Ffin y Lansker (ar y cyd â’r Athro Colin H Williams)