Dr Angharad Wynne George
Gorolwg
Swydd:
Tiwtor Iaith
E-bost:
GeorgeAW@caerdydd.ac.ukFfôn: +44(0)29 208 75594
Ffacs: +44(0)29 208 74604
Estyniad: 75594
Lleoliad: Adeilad y Dyniaethau
Tiwtor iaith sy'n dysgu ar y Cynllun Sabothol Cenedlaethol yw Dr Angharad George. Mae Prifysgol Caerdydd yn un o dri lleoliad sydd yn cynnig y cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae'n rhoi cyfle i ymarferwyr sy'n dymuno dysgu, darlithio neu hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog dderbyn hyfforddiant dwys ynghyd â methodoleg mewn dysgu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
Dechreuodd Angharad ar ei chyfnod yn Ysgol y Gymraeg yn 2000 fel myfyrwraig israddedig. Ar ôl graddio, dilynodd gwrs MA yn yr Ysgol yn 2004 cyn cwblhau traethawd PhD ar Ddafydd ap Gwilym a damcaniaethau ôl-drefedigaethol yn 2009. Mae Angharad hefyd yn dysgu ar gyrsiau iaith a llenyddiaeth myfyrwyr israddedig yr Ysgol.
