Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Ceri Elen

Gorolwg

Ceri Elen Swydd: Tiwtor Ysgrifennu Creadigol a Sgriptio E-bost: MorrisCE1@caerdydd.ac.uk
Ffn: +44(0)29 208 74843
Ffacs: +44(0)29 208 74604
Estyniad: N/A
Lleoliad: Adeilad John Percival

Tiwtor ar y modiwlau Sgriptio, Ysgrifennu Creadigol a Drama Gyfoes yw Ceri Elen. Fe raddiodd gyda dosbarth cyntaf o Brifysgol Caerdydd mewn Cymraeg a Saesneg yn 2006, cyn dychwelyd i gwblhau cwrs MA mewn Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol y Gymraeg yn 2007. Yna fe aeth i hyfforddi fel actor yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru cyn dychwelyd i Brifysgol Caerdydd, lle mae hi’n astudio ar gyfer gradd PhD (gydag Ysgoloriaeth AHRC). Yn ogystal â gweithio yn y Brifysgol, mae Ceri Elen yn gweithio fel awdur, dramodydd ac atores. Enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2006, a’r Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr 2007. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf ‘Pentre’ Saith’ restr fer gwobrau Tir na n-Og yn 2013.

Cynhyrchiadau a chyhoeddiadau yn cynnwys:

  • Pianissimo ar gyfer S4C;
    Cynhyrchydd: Paul Jones, Teledu Apollo,
    Cyfarwyddwr: Tim Lyn,
  • Y Bont, (cyd-ysgrifennu gyda Catrin Dafydd ac Angharad Tomos)
    Ar gyfer S4C a Theatr Genedlaethol Cymru
    Cynhyrchwyr: Theatr Genedlaethol Cymru a Greenbay Media
    Cyfarwyddwyr: Arwel Gruffydd / Dylan Richards
  • Pentre Saith ar gyfer Gwasg y Lolfa
  • Encore for BBC Radio Cymru
    Cynhyrchydd / Cyfarwyddwr: Ffion Emlyn
  • 27 munud ar gyfer BBC Radio Cymru
    Cynhyrchydd / Cyfarwyddwr: Ffion Emlyn
  • Aros Mae ar gyfer BBC Radio Cymru
    Cynhyrchydd / Cyfarwyddwr: Ffion Emlyn

Cynhyrchiadau fel actor yn cynnwys:

  • Dim Diolch – Cwmni’r Fran Wen – Cyfarwyddwr: Ffion Haf Jones
  • Blodyn – Theatr Genedlaethol Cymru – Cyfarwyddwyr: Bethan Marlow, Sara Lloyd
  • Here be Monsters – Theatr Iolo – Cyfarwyddwr: Kevin Lewis
  • Grimm Tales(Off West End Award Nomination) – Theatr Iolo – Cyfarwyddwr: Kevin Lewis
  • Visiting Katt and Fredda – Theatr Iolo – Cyfarwyddwr: Kevin Lewis