Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Yr Athro Sioned Davies

Gorolwg

Yr Athro Sioned Davies Swydd: Athro’r Gymraeg a Phennaeth yr Ysgol E-bost: DaviesSM@caerdydd.ac.uk
Ffôn: +44(0)29 208 75321
Ffacs: +44(0)29 208 74604
Estyniad: 75321
Lleoliad: Adeilad John Percival

Prif ddiddordebau ymchwil

Ei phrif ddiddordeb ymchwil yw traddodiad rhyddiaith yr Oesoedd Canol, ac yn arbennig chwedlau'r Mabinogion. Yn ei hymchwil y mae wedi canolbwyntio ar dechnegau naratif y cyfarwydd a'r berthynas gymhleth sydd i'w chanfod rhwng llythrennedd, llafaredd a chlywededd yn y cyfnod canol. Mae ei chyhoeddiadau’n cynnwys erthyglau arloesol yn y maes hwn, yn ogystal â chyfrolau megis Crefft y Cyfarwydd a Pedeir Keinc y Mabinogi (yn y gyfres Llên y Llenor). Yn 2007 cyhoeddodd Gwasg Prifysgol Rhydychen ei chyfieithiad newydd o chwedlau’r Mabinogion; bellach y mae fersiwn clawr meddal hefyd wedi ymddangos yn y gyfres World’s Classics.

Datblygiad o’r diddordeb mewn perfformio a chyfathrebu yw ei phrosiect cyfredol ar bregethwyr dramatig y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif, sef Perfformio o’r Pulpud. Mae hefyd yn gweithio ar olygiad newydd o Breuddwyd Rhonabwy ar gyfer y Dublin Institute for Advanced Studies.

Proffil Dysgu

BA yn y Gymraeg: Blwyddyn Un Iaith Gyntaf
  • CY1743 Llenyddiaeth Gymraeg (cyfrannwr)
  • CY1744 O Destun i Draethawd (cyfrannwr)
  • CY1745 Cymru a'i Diwylliant (cyfrannwr)
BA yn y Gymraeg: Yr Ail Flwyddyn a'r Flwyddyn Olaf
  • CY3562 Pedeir Keinc y Mabinogi
  • CY3404 Y Ferch yn yr Oesoedd Canol
  • CY3447 Y Chwedl Arthuraidd
  • CY2126 Blas ar Ymchwil
MA yn y Gymraeg
  • CYD036 Crefft y Cyfarwydd
  • CYD044 Arthur y Cymry
MA mewn Astudiaethau Gwerin
  • CYD050 Traddodiad Naratif Cymru
MA mewn Astudiaethau Celtaidd Cynnar
  • CYD733 Arthur y Cymry

Cyhoeddiadau

 

Ymchwil

Prosiectau Ymchwil

Myfyrwyr ôl-raddedig

Myfyrwyr PhD Cyfredol

Mari Deiniol: Scriptio (ar y cyd â Dr Llion Pryder Roberts)

Hanna Hopwood: 'Y Ferch ym Marddoniaeth Gymraeg y Cyfnod 1300-1600' (ar y cyd â Dr Dylan Foster Evans)

Bradford McMullen: 'An Examination of 'Y Celwydd Golau''' (ar y cyd â Dr Juliette Wood)

Ffion Pritchard: 'Cyfieithu Llenyddiaeth Plant i’r Gymraeg ' (ar y cyd â Dr Siwan Rosser)

Awen Schiavone: 'Deuoliaeth yn y stori antur Gymraeg i blant (1900-1999)' (ar y cyd â Dr Siwan Rosser)