Y Cynllun Sabothol ar gyfer Hyfforddiant Iaith Gymraeg
Nod y Cynllun Sabothol yw cynyddu’r cyflenwad o ymarferwyr sy’n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Mae’r ddarpariaeth yn rhad ac am ddim – Llywodraeth Cymru sydd yn talu costau cyflenwi yn ogystal â chostau teithio a llety. Darperir cyrsiau ar sawl lefel ieithyddol ac mewn sawl lleoliad ar draws Cymru gan gynnwys Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Bydd Ysgol y Gymraeg yn cynnig darpariaeth ar lefel Uwch, Mynediad a Sylfaen.
Bu Ysgol y Gymraeg yn rhan o’r cynllun peilot a gychwynnodd yn 2005, gyda thîm o diwtoriaid iaith profiadol yn cynnal cyrsiau ieithyddol i athrawon uwchradd a chynradd. Bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno mewn rhagor o leoliadau ar draws Cymru a chydag amrywiaeth ehangach o gyrsiau a’r rheini ar sawl lefel. Y gobaith yw y bydd 648 o ddarlithwyr, athrawon a hyfforddwyr yn cael manteisio ar gyfnod sabothol o’r gweithle er mwyn mireinio eu Cymraeg llafar ac ysgrifenedig, dysgu defnyddio terminoleg pwnc yn effeithiol yn ogystal â dysgu dulliau dysgu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn hyderus.
Dyma farn rai o gynymarferwyr y Cwrs Uwch a'r Cwrs Sylfaen:
‘Rydw i’n teimlo’n hyderus iawn i gael swydd trwy gyfrwng y Gymraeg nawr’
Athrawes Gynradd
'O bell ffordd, dyma’r profiad o ddatblygiad proffesiynol gorau i mi ei gael erioed’
Athro Uwchradd
'Yn wirioneddol, y cwrs gorau o’r safon uchaf rwyf erioed wedi ei fynychu'
Darlithydd Addysg Bellach
Manylion Cyrsiau 2011/12
Cwrs |
Pryd | Strwythur |
Pwy | Dalgylch |
|---|---|---|---|---|
| Cwrs Uwch Byr | 23 Ebrill — 20 Gorffennaf 2012 |
12 diwrnod (yn y Brifysgol) a hanner diwrnod yr wythnos yn yr ysgol |
Athrawon ysgolion uwchradd a chynradd cyfrwng Cymraeg darlithwyr addysg bellach | Merthyr, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg, Caerffili, Torfaen, Casnewydd, Blaenau Gwent, Sir Fynwy, Caerdydd |
Manylion Cyrsiau 2012/13
| Cwrs | Pryd | Strwythur | Pwy | Dalgylch |
|---|---|---|---|---|
| Cwrs Uwch Bloc | 17 Medi — 14 Rhagfyr 2012 | 60 diwrnod (yn y Brifysgol) | Siaradwyr rhugl sector cynradd, uwchradd ac addysg bellach |
Merthyr, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg, Caerffili, Torfaen, Casnewydd, Blaenau Gwent, Sir Fynwy, Caerdydd |
| Cwrs Sylfaen Bloc | 7 Ionawr — 22 Mawrth 2013 |
50 diwrnod (yn y Brifysgol) | Dysgwyr newydd sector cynradd (ysgolion Saesneg neu ddwyieithog) |
Caerdydd a Bro Morgannwg |
| Cwrs Mynediad | 18 Chwefror — 15 Mawrth 2013 | Mis o hyd (yn y Brifysgol) | Cynorthwywyr dosbarth (ysgolion cyfrwng Saesneg a dwyieithog) | Caerdydd a Bro Morgannwg |
| Cwrs Uwch Byr | 15 Ebrill — 12 Gorffennaf 2012 |
12 diwrnod (yn y Brifysgol) a hanner diwrnod yr wythnos yn yr ysgol |
Athrawon ysgolion uwchradd a chynradd cyfrwng Cymraeg darlithwyr addysg bellach | Merthyr, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg, Caerffili, Torfaen, Casnewydd, Blaenau Gwent, Sir Fynwy, Caerdydd |
Cynhelir cyrsiau hefyd yn 2013/14.
Am ragor o fanylion cysylltwch â:
Lois Roberts, Gweinyddydd y Cwrs
Cynllunsabothol@caerdydd.ac.uk029 2087 0637
Ceisiadau ac ymholiadau cyllidol:
Paula Manship, Rheolwr Sabothol, Uned Datblygu’r Iaith, Llywodraeth Cymru
Paula.manship@wales.gsi.gov.uk 01443 663770
