Gloywi Iaith
"Dw i’n gallu siarad Cymraeg ond dw i ddim yn meddwl y byddwn yn gallu defnyddio’r iaith yn broffesiynol."
A yw hyn yn canu cloch? A ydych yn gobeithio dilyn gyrfa yng Nghymru? Tybed a ddylech feddwl am ddilyn modiwl gloywi iaith?
Hyd yn oed os nad ydych am astudio’r Gymraeg ar gyfer eich gradd, gallwch ddilyn y modiwlau canlynol yn rhan o’ch cynllun gradd mewn pwnc arall.
Modiwlau 20 Credyd
- CY1742 Cyflwyniad i'r Gymraeg
- CY1495 Sgiliau Cyfathrebu
- CY3117 Sgiliau Cyfathrebu Uwch
- CY1699 Gloywi Iaith
Modiwlau 10 Credyd
- CY2255 Cymraeg Cyfoes
Gloywi Iaith (ar gyfer myfyrwyr meddygol yn eu hail flwyddyn)
Prif nod y modiwl hwn yw rhoi hyder i fyfyrwyr ymdrin â’r byd meddygol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r modiwl yn gyfuniad o weithdai ymarferol a darlithoedd gan siaradwyr gwadd. Cewch gyfle hefyd i drafod eich pwnc ar lafar mewn sgyrsiau anffurfiol a chyflwyniadau ffurfiol.
Asesir y modiwl trwy gyfrwng prawf byr ar ddiwedd y modiwl.
Rhai o sylwadau’r myfyrwyr a fynychodd y cwrs:
"Yr oedd yn help i sgleinio’r iaith, oherwydd yr oeddwn heb ysgrifennu ac ati yn y Gymraeg ers hydoedd."
"Defnyddiol dros ben!"
"Mwynhad oedd dod."
"Mae gen i lawer fwy o hyder wrth siarad Cymraeg nawr (ac wrth ysgrifennu)."
Am fwy o fanylion cysylltwchâ:
