Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd - Cymraeg i ddechreuwyr
A ydych chi eisiau dysgu Cymraeg?
A ydych chi’n siarad ychydig o Gymraeg ond eisiau datblygu eich sgiliau ieithyddol?
Mae Ysgol y Gymraeg yn cynnig cyfres o fodiwlau 20 credyd ar gyfer myfyrwyr sydd am ddysgu’r Gymraeg neu am ddatblygu eu sgiliau ieithyddol. Mae’r modiwl cyntaf yn y gyfres, sef Welsh 1, ar gyfer dechreuwyr pur. Gall myfyrywyr ddilyn modiwlau hyd at Welsh 4, gan gyrraedd safon sydd yn cyfateb i Safon UG. Rydym hefyd yn cynnig modiwlau 10 credyd ar gyfer dechreuwyr pur.
Modiwlau 20 credyd
- Welsh 1 CY1774 CY3774
- Welsh 2 CY1775 CY3775
- Welsh 3 CY1776 CY3776
- Welsh 4 CY1777 CY3777
Modiwlau 10 credyd
- Introduction to Welsh 1 CY1092
- Introduction to Welsh 2 CY3775
Mae’r modiwlau hyn ar gael i fyfyrwyr Blwyddyn 1, 2 a 3.
Datblygwch eich sgiliau ieithyddol mewn awyrgylch gyfeillgar a bywiog.
Am fwy o fanylion cysylltwchâ:
Canolfan Cymraeg i Oedolion
I'r rheiny sydd am ddilyn cyrsiau dwys neu'r rheiny nad ydynt yn fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg yn Ganolfan o Ragoriaeth, gyda dros 25 mlynedd o brofiad yn dysgu Cymraeg i Oedolion. .
Os hoffech rhagor o wybodaeth cysylltwch:
Canolfan Cymraeg i Oedolion
Cyfeiriad:
Canolfan Cymraeg i Oedolion
Ysgol y Gymraeg
Prifysgol Caerdydd
Adeilad y Dyniaethau
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU
