Ewch i’r prif gynnwys

Prosiectau

Rydym wedi cynhyrchu nifer o bapurau ymchwil, adroddiadau prosiect a gwefannau sy’n ymwneud â’n hymchwil ym meysydd iaith, llenyddiaeth a diwylliant. Dyma ambell enghraifft o brosiectau cyfredol.

Swyddfa’r Comisynydd Iaith yng Nghymru, Iwerddon a Chanada

Diben yr astudiaeth arloesol hon o weithrediad polisi ieithoedd swyddogol yng Nghymru, Iwerddon a Chymru oedd gwneud cyfraniad ar sail tystiolaeth i bolisi cyhoeddus, a hynny o fewn endid wleidyddol ranbarthol sy’n graddol esblygu.

Darllen Hunaniaethau

Ymchwilio i bedagogeg dehongli llenyddiaeth yng nghyd-destun amrywiaeth a chynhwysiant yw nod prosiect arloesol Dr Rhiannon Marks a Dr Siwan Rosser. Cam nesaf y prosiect fydd datblygu cyfres o adnoddau a chynlluniau gwers a fydd maes o law yn sail i becyn cymorth electronig i’w rannu ag athrawon Cymraeg yn genedlaethol.

Golygiad o Farddoniaeth Myrddin

Mae Dr Dylan Foster Evans a Dr David Callander yn arwain prosiect tair blynedd newydd i baratoi golygiad digidol a chyfieithiad o’r farddoniaeth Gymraeg sy’n ymwneud â chymeriad Myrddin.

Allbynnau

Addysg

Cyfrol ‘Beth yw’r Gymraeg?’

Mae’r gyfrol hon yn rhoi blas ar y cyffro, y cyfleoedd, yr heriau a’r peryglon sy’n rhan annatod o astudio’r iaith Gymraeg – rhywbeth byw a chyfnewidiol nad ydym yn gallu ei reoli, hyd yn oed pe baem yn dymuno gwneud hynny. Nod yr e-lyfr hwn yw rhannu’r brwdfrydedd sy’n tanio ymchwilwyr yn y maes, gan roi cyfle iddynt ddangos yn eu harddull a’u dull eu hunain pam y maent wrth eu boddau yn astudio’r iaith Gymraeg.

Gwylia dy dafod

Mae gan y Gymraeg rai seiniau a phatrymau ynganu sy’n anghyffredin yn y Saesneg ac mewn ieithoedd eraill. Gall y rhain felly achosi anawsterau i ddysgwyr yr iaith.

Mae’r adnodd hwn yn taflu goleuni newydd ar ynganiad amrywiadau o’r Gymraeg drwy ddefnyddio’r dechnoleg MRI ddiweddaraf.

Prawf Darllen Cymraeg Safonedig Consortiwm Canolbarth y De

Nod y prosiect hwn oedd creu prawf darllen hwylus ar gyfer monitro cywirdeb darllen
plant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Comisiynwyd y prawf gan Gonsortiwm Canolbarth
y De ac fe’i lluniwyd gan dîm o ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd.

Ieithyddiaeth

Adnodd Creu Crynodebau

Mae Adnodd Creu Crynodebau (ACC) yn adnodd sy’n llunio crynodebau o destunau Cymraeg yn awtomatig. Mae ACC yn gyfraniad pellach at yr adnoddau awtomataidd sydd ar gael yn Gymraeg ac mae’n hwyluso gwaith y rhai sy’n ymwneud â pharatoi dogfennau.

Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes (CorCenCC)

Mae CorCenCC yn adnodd iaith i siaradwyr Cymraeg, dysgwyr Cymraeg, ymchwilwyr yr iaith Gymraeg ac, yn wir, unrhyw un sydd â diddordeb yn yr iaith Gymraeg. Mae CorCenCC yn gasgliad hygyrch o samplau iaith niferus, wedi’u casglu o gyfathrebu go iawn.

Thesawrws

Prif nod y prosiect hwn oedd datblygu thesawrws mynediad agored ar-lein, sydd ar gael am ddim, ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dysgwyr fel ei gilydd.

Llenyddiaeth

Astudio Bywyd a Gwaith Ann Griffiths

Gwefan ddwyieithog gan Brifysgol Caerdydd ar gyfer astudio bywyd a gwaith Ann Griffiths (1776-1805), un o feirdd mwyaf Cymru ac un o feirdd crefyddol mawr Ewrop.

Baledi Cymru

Mae Baledi Cymru Arlein yn cynnwys tua 4,000 o faledi wedi’u digido, yn dyddio yn bennaf o’r ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a hynny o gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol a Llyfrgell Prifysgol Caerdydd.

Dafydd ap Gwilym

Nod y prosiect hwn, a noddwyd gan yr AHRC ac a arweinwyd gan yr Athro Dafydd Johnston o Brifysgol Abertawe, oedd cynhyrchu golygiad electronig o waith Dafydd ap Gwilym, bardd pwysicaf Cymru yn yr Oesoedd Canol.

Guto’r Glyn Project

Guto’r Glyn oedd bardd pwysicaf y bymthegfed ganrif, a bu Dr Dylan Foster Evans yn un o dîm o ysgolheigion a luniodd olygiad ac astudiaeth newydd o’i farddoniaeth.

Rhyddiaith Gymraeg 1300-1425

Mae rhyddiaith y cyfnod canol wedi goroesi mewn dros bedwar ugain o lawysgrifau a luniwyd rhwng tua 1250 a 1450. Mae’r corff hwn yn cynnwys y cyfreithiau, gweithiau hanesyddol, crefyddol, meddygol, a gramadegol, chwedlau wedi eu cyfieithu o’r Lladin a’r Ffrangeg, ac, wrth gwrs, chwedlau’r Mabinogion.