Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil yn Ysgol y Gymraeg

Rydym yn gartref i waith ymchwil o’r safon uchaf.

Un o brif gryfderau staff yr ysgol yw traweffaith eu gwaith ymchwil ar y byd y tu hwnt i ffiniau academia. Rydym wedi dylanwadu ar brosesau deddfwriaethol yn ogystal â thorri tir newydd mewn amryw feysydd llenyddol a diwylliannol, a hynny drwy ddefnyddio’r technolegau diweddaraf.

Rydym yn gartref i amryw unedau a chanolfannau ymchwil a phrosiectau sy'n cyfrannu at ddiwylliant ymchwil bywiog drwy raglenni rheolaidd o seminarau, gweithdai, cynadleddau a chyhoeddiadau. Mae recordiadau o nifer o'n gweithgareddau ar gael ar sianel YouTube yr ysgol.