Ewch i’r prif gynnwys

Darlithoedd coffa

Cynhelir dwy ddarlith flynyddol lle rydym yn croesawu academyddion ac ysgolheigion nodedig i'r Ysgol.

Mae'r darlithoedd yn cwmpasu ystod eang o bynciau sy'n berthnasol i Gymru a'r iaith Gymraeg, boed o safbwynt cymdeithasol, llenyddol, gwleidyddol neu ddiwylliannol.

Darlith Goffa Islwyn

Cyfres achlysurol o ddarlithoedd Cymraeg er cof am y bardd mawr o Went, William Thomas, neu Islwyn (1832-78).

Meysydd y Ddarlith Goffa yw bywyd a gwaith Islwyn ei hun, agweddau ar hanes llenyddol, crefyddol a chymdeithasol Gwent, a llenyddiaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Traddodwyd y Ddarlith Goffa gyntaf yn 1942 gan yr Athro W. J. Gruffydd.

Darlithoedd blaenorol

BlwyddynSiaradwrTeitl
2018Dr Cathryn Charnell-White‘Cadair Farddes Sir Fynwy’: Florence Jones a’r canu gan ferched
2017Marion LoefflerOlion Llenyddol Ymwelwyr â Llanofer
2016Mary-Ann ConstantineAnturiaethau Llydäwr yng Ngwlad Hud: La Villemarqué ymhlith Cymreigyddion y Fenni, 1838
2014Cynfael LakeDau o'r Deuheuwyr: Hywel Dafi a Lewys Morgannwg
2013Frank OldingTirwedd Lenyddol Gwent
2012Prys MorganIslwyn a Mynyddoedd Cymru
2011D. Densil MorganLlenor Nyth y Dryw: Edward Matthews, Ewenni (1813-92)

Darlith Goffa GJ Williams

Darlith a draddodwyd er cof am yr Athro Griffith John Williams (1892-1963), a fu’n darlithio yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd rhwng 1921 a’i ymddeoliad yn 1957.

Cofiwn yn arbennig am ei waith ar Iolo Morganwg a thraddodiad llenyddol Morgannwg; ond meistrolodd bob agwedd ar ddysg yr iaith Gymraeg a’i thraddodiad llenyddol.

Yn ôl Syr Thomas Parry, ef ‘oedd yr ysgolhaig Cymraeg mwyaf a welodd Cymru erioed’. Traddodwyd y Ddarlith Goffa gyntaf yn 1966 gan Saunders Lewis.

Darlithoedd blaenorol

BlwyddynSiaradwrTeitl
2017Ifor ap GlynSensoriaeth yr Iaith Gymraeg yn ystod y Rhyfel Mawr
2016Angharad PriceT.H. Parry-Williams, yr Almaen a’r Rhyfel Byd Cyntaf
2015M. Wynn ThomasBeriah Gwynfe Evans: Prif Gynhyrchydd Cymru Fydd
2014Bleddyn Owen HuwsNid nefoedd i gyd mo’r ddaear’: T.H. Parry-Williams a’r Rhyfel Mawr
2013Mererid Hopwood...pobun â'i lais, ... pobun â'i le': Waldo Williams Bardd Plant Cymru
2012Christine JamesLluniau Llên:  Morgannwg a’r Alegori Gymraeg
2011Dafydd JohnstonBardd yr Haf yng Nghysgod y Chwyldro: Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym 1789 a Jean-Jacques Rousseau
2010Patrick Sims WilliamsCeltic Continuity