Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil ôl-raddedig

Ymunwch â’n cymuned ymchwil angerddol, amrywiol a mentrus er mwyn ystyried eich diddordebau mewn amgylchedd cefnogol sy’n canolbwyntio ar effaith.

Ni yw un o’r canolfannau ymchwil blaenaf ym maes y Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd eraill, ac rydym yn goruchwylio sawl myfyriwr PhD sy’n gweithio ar ieithoedd eraill a chyd-destunau rhyngwladol.

Mae ein diddordebau’n rhychwantu meysydd llenyddiaeth, ieithyddiaeth, gwleidyddiaeth, deddfwriaeth a diwylliant – rydym am ddeall yn well eu heffaith ffurfiannol ar y byd sydd ohoni a sut gallant lywio ein profiadau yn y dyfodol.

Mae gennym enw da rhyngwladol am ansawdd ac effaith ein hymchwil, ynghyd â chofnod cyson a balch o lywio newidiadau cadarnhaol, ymarferol, diwylliannol a deddfwriaethol er budd cymunedau yng Nghymru ac ar draws y byd.

Ein darpariaeth

Rydym yn cynnig tri llwybr ymchwil. Gan eu bod yn hyblyg ac wedi’u teilwra at eich dulliau gweithio a’ch amgylchiadau personol a phroffesiynol, gellir dilyn y rhain yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Gallwch gymryd y PhD fel opsiwn amser llawn (tair blynedd) neu ran amser (pum mlynedd) tra cynhelir ein MPhil am un flwyddyn i ddwy.

Mae gennym ystod eang iawn o arbenigeddau ymchwil yn yr Ysgol. Rydym yn siŵr y byddwch yn rhannu rhai diddordebau â’n staff, gan gynnwys:

  • llenyddiaeth ganoloesol Cymraeg a Saesneg
  • llenyddiaeth Gymraeg gan gynnwys llenyddiaeth i blant
  • astudiaethau cyfieithu
  • ysgrifennu creadigol a beirniadol
  • datblygiad hanesyddol yr iaith Gymraeg a thafodieitheg
  • amrywiaeth a newid ieithyddol
  • cynllunio a pholisïau iaith
  • dwyieithrwydd a chaffael ail iaith
  • cymdeithaseg ieithyddol.

Mae ein myfyrwyr PhD yn gweithio ar ystod o bynciau diddorol ac amrywiol. Ymhlith y pynciau ymchwil cyfredol mae:

  • Naratif Breuddwydion yng Nghymraeg y Canol Oesoedd
  • Lefelu Tafodieithol ym Machynlleth
  • Teirieithrwydd yng Nghymru
  • Hawliau, Iaith a’r Wladwriaeth
  • Y Berthynas rhwng Iaith, Delweddau ac Ystyr yn Llenyddiaeth Ddarluniadol Gymraeg i Blant
  • Amrywio a Newid Iaith yng Nghaerdydd
  • Cof a’r Genedl yn y Cyfnod Modern Cyfoes
  • Ymchwilio i Bolisïau ynghylch Iaith mewn Addysg o Safbwynt Cyfiawnder Cymdeithasol a Hawliau Dynol Ieithyddol yn Adrannau Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn Nhair o Brifysgolion Deheuol Algeria.

Profiad proffesiynol

Rydym yn cydnabod y gall cyfleoedd am brofiad gwaith ategu eich datblygiad proffesiynol, academaidd a phersonol.

Yn yr un modd, bydd cyfleoedd i ymgysylltu â’r gymuned academaidd genedlaethol a rhyngwladol sy’n gysylltiedig â maes eich pwnc yn eich galluogi i ddatblygu eich proffil a meithrin cysylltiadau gwerthfawr.

Bydd ein lleoliad yng nghanol y ddinas a’n cysylltiadau sefydledig â phartneriaid a sefydliadau allanol yn eich rhoi ar y blaen o ran dod o hyd i gyfleoedd am leoliadau. Hefyd, rydym yn cynnig cyfleoedd am gyflogaeth yn yr Ysgol.

Prosiectau ymchwil

O bryd i’w gilydd, mae cyfleoedd yn codi i fyfyrwyr weithio ar brosiect ymchwil o dan arweinyddiaeth aelod o staff yr Ysgol.

Dysgu i Addysgu

Byddwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi gynnal seminarau a sesiynau iaith drwy raglen y Brifysgol, Dysgu i Addysgu. Byddwch yn cael hyfforddiant penodol ar sut i addysgu ac asesu cyn ymgymryd ag unrhyw waith o’r fath.

Ymgysylltu academaidd

Rydym yn cynnig cefnogaeth ariannol a bugeiliol i annog eich presenoldeb mewn cynadleddau, seminarau a digwyddiadau perthnasol fydd yn ategu eich astudiaethau ac yn eich helpu i rwydweithio mewn cymunedau academaidd neu rai eraill, sy’n ymwneud â maes eich pwnc.

Cyllido

Mae ystod o wahanol opsiynau cyllido ar gael i ategu eich astudiaethau PhD, o fewn y Brifysgol a thrwy sefydliadau a phartneriaid allanol.

Cysylltu

Am ragor o wybodaeth ar yr MPhil/PhD cysylltwch gyda'r Athro Diarmait Mac Giolla Chríost neu i drafod ysgoloriaethau cysylltwch â'r Ysgol.

Yr Athro Diarmait Mac Giolla Chríost

Yr Athro Diarmait Mac Giolla Chríost

Cyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig

Siarad Cymraeg
Email
macgiollachriostd@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 9180

Ysgol y Gymraeg