Ewch i’r prif gynnwys

Bywyd Cymraeg yng Nghaerdydd

Mae miloedd o siaradwyr Cymraeg yn byw yng Nghaerdydd sydd yn golygu bod yna gymuned fywiog a gweithgar yn aros i’ch croesawu.

Efallai na chewch chi gyfle i gwrdd â phob un o siaradwyr Cymraeg Caerdydd, ond pa fath o brofiad cymdeithasol a diwylliannol gallwch chi ddisgwyl yn y brifddinas?

Mae’r ysgol yn hynod gartrefol a hwyliog gyda sawl gweithgaredd allgyrsiol megis cwisiau, stomp a dawnsiau haf yn cael eu cynnal er mwyn i ni gymdeithasu gyda chydfyfyrwyr a staff y tu allan i’r ystafell ddosbarth.
Elliw Lois Williams

Bywyd Cymraeg ein myfyrwyr

Fel myfyriwr Cymraeg gyda ni, a phreswylwyr yn byw yn un o’r fflatiau ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn Llys Senghennydd neu Gogledd Talybont byddwch yn bendant yn clywed Cymraeg yn cael ei defnyddio trwy’r dydd. Byddwch yn ei chlywed hi dros frecwast yn y bore, yn eich darlithoedd a’ch seminarau, ac wrth gael paned cyn mynd i noswylio. Ond beth am du hwnt i’r amgylcheddau dysgu a byw?

zpdmpmBxTAM

Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd cyfle i chi gyfrannu at waith Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd. Mae UMCC yma i gynrychioli myfyrwyr Cymraeg Caerdydd a sicrhau eu bod yn mwynhau pob agwedd ar fywyd yn y brifysgol.

Yn ogystal, mae gan y brifysgol Is-Lywydd Iaith, Cymuned a Diwylliant Cymru. Rôl o fewn Undeb Myfyrwyr Caerdydd yw hon sydd yn cynrychioli pawb sydd yn defnyddio’r Gymraeg. Gall y gynrychiolaeth fod ar faterion academaidd ac allgyrsiol o fewn y brifysgol, yr undeb neu y tu hwnt i’r rhain.

Bywyd cymdeithasol

Y Gym Gym

https://www.youtube.com/watch?v=aKNqaQQEnns

Ffordd arall o fwynhau bywyd cymdeithasol bywiog yw drwy ymaelodi â’r gymdeithas Gymraeg – yr enwog Gym Gym. Gallwch ymuno ag un o’u timau chwaraeon, mynychu digwyddiadau cymdeithasol neu hyd yn oed mynd ar daith i Ddulyn neu Gaeredin i gefnogi Cymru’n chwarae rygbi. Efallai byddwch yn llwyddo i weld y gêm, hyd yn oed!

Cymdeithas Iolo

https://www.youtube.com/watch?v=aHT9Po5E8us

Cymdeithas Iolo yw cymdeithas Ysgol y Gymraeg sy’n rhoi mwy o sylw i bethau diwylliannol, ac mae croeso mawr i bawb ddod i’w digwyddiadau, p’un ai bod chi’n fyfyriwr yr ysgol ai peidio. Uchafbwynt y flwyddyn yw’r stomp farddonol rhwng Cymdeithas Iolo a staff yr ysgol. Tybed a fyddwch chi maes o law yn cyfrannu at fuddugoliaeth arall i griw Iolo?

Côr Aelwyd y Waun Ddyfal

https://www.youtube.com/watch?v=A4So-5vHL1g

Neu tybed ai canu sy’n mynd â’ch bryd? Os felly, côr Aelwyd y Waun Ddyfal amdani. Bydd llawer o’ch cyd-fyfyrwyr yn aelodau o’r côr cymdeithasol ond llwyddiannus hwn. Byddwch yn siŵr o glywed am eu buddugoliaethau yn Eisteddfod yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, yr Ŵyl Gerdd Dant, a chystadleuaeth Côr Ieuenctid Côr Cymru.

Y tu hwnt i’r brifysgol

Tra bod yna lawer o opsiynau ar y campws, fe welwch hefyd fod yna ddigonedd yn digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws y ddinas.

Mae’r sîn celfyddydol yn ffynnu, sydd yn golygu bod dramâu Cymraeg i’w gweld yn gyson mewn lleoliadau megis Theatr y Sherman a chanolfan Chapter. Os mai cerddoriaeth fyw sy’n mynd â’ch bryd, mae Caerdydd yn gartref i Glwb Ifor Bach a gwyliau megis Tafwyl.

Mae’r ddinas yn cynnig nifer o dimau chwaraeon Cymraeg eu hiaith (pêl-droed, hoci, rygbi, a chriced) tra bod Menter Caerdydd yn gallu cynnig gwybodaeth am lu o weithgareddau eraill i’w cael. Fe synnech at beth sy’n cael ei gynnig trwy’r Gymraeg — o fandiau ukulele i’r gynghanedd, o ioga i pilates!

Rhwng popeth, ni fu amser gwell i fod yn fyfyriwr Cymraeg ym mhrifddinas Cymru!