Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom ni

Rydym yn ysgol groesawgar, lewyrchus a chartrefol.

Welsh flag behind held by two people

Er mai ni yw'r adran Gymraeg hynaf yng Nghymru, rydym yn edrych tua'r dyfodol ac ar ddatblygiad ein hiaith, ein cymdeithas a'n hunaniaeth yn y Gymru gyfoes.

Cyfunir astudiaethau ym maes iaith a llên â modiwlau unigryw sy’n ymwneud â’r Gymraeg yn y Gymru gyfoes. Rydym yn defnyddio dulliau arloesol a blaengar wrth addysgu ar ein holl fodiwlau. Mae'r amrywiaeth eang o fodiwlau ar gael i fyfyrwyr israddedig yn cynnwys astudiaethau cyfieithu, technoleg iaith mewn oes ddigidol, sosioieithyddiaeth, caffael iaith, ethnigrwydd ac amlddiwylliannedd, mapio’r Cymry, a diwylliant Cymraeg dinas Caerdydd, a llawer mwy.

Gyda staff academaidd blaenllaw a gweithgar yn eu meysydd, rydym yn dylanwadu ar fywyd cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol yng Nghymru a thu hwnt.

Rydym yn bwydo ein harbenigeddau ymchwil i’n dysgu ac yn awyddus i feithrin eich sgiliau a chyfrannu at eich llwyddiant mewn ffordd a fydd yn gwneud gwahaniaeth i'ch dyfodol. Cewch nifer o gyfleoedd hefyd i ddilyn cyfnod o brofiad gwaith mewn amrediad o sefydliadau.

Cewch hefyd ddod i adnabod staff yr ysgol yn ystod digwyddiadau cymdeithasol a gynhelir yn ystod y flwyddyn academaidd. Bydd hyn, yn ogystal â’r gefnogaeth a dderbyniwch gan staff yr ysgol, yn sicrhau y byddwch yn teimlo fel aelod o deulu Ysgol y Gymraeg ymhell ar ôl i chi orffen astudio gyda ni.

Y tu hwnt i raglenni gradd, rydym yn helpu sicrhau ffyniant yr iaith trwy wasanaethu'r gymuned leol. Mae Dysgu Cymraeg Caerdydd yn dysgu'r iaith i dros 1,700 o oedolion yng Nghaerdydd. Yn ogystal â hyn, rydym yn darparu’r Cynllun Sabothol Cenedlaethol dan nawdd Llywodraeth Cymru yng Nghanolbarth De Cymru a De-ddwyrain Cymru.