Ewch i’r prif gynnwys

Ystafelloedd Uned 14

Ystafell Uned 14 WIMAT
Un o’n hystafelloedd uned 14 wedi’i osod ar gyfer cyfarfod bach.

Mae ein hystafelloedd Uned 14 yn ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd, cyfweliadau, sesiynau grŵp neu ddefnydd clinigol.

Mae ystafelloedd Uned 14 yn cynnwys:

  • ystafell seminar sydd â lle i hyd at 25 o gynrychiolwyr gyda thaflunydd LCD, taflunydd uwchben, teledu, sgrîn, bwrdd gwyn sych a siart troi
  • ystafell fwrdd sy’n gallu dal hyd at wyth o bobl ar gyfer naill ai cyfarfodydd neu gyfweliadau. Mae ganddi daflunydd LCD, sgrîn, bwrdd gwyn, siart troi a ffôn. Gellir hefyd ei defnyddio fel ystafell grŵp
  • labordy sgiliau bach sy’n gallu dal dwy weithfan labordy, neu gellir ei ddefnyddio’n ystafell gyfarfod fach i hyd at chwe pherson neu’n ystafell glinigol neu grŵp.

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Athrofa Therapïau Lleiaf Ymyrrol Cymru (WIMAT)