Ewch i’r prif gynnwys

Amdanom

Rydym yn cynnig cyrsiau sylfaenol, canolradd ac uwch mewn ystod o arbenigeddau meddygol a llawfeddygol
Rydym yn cynnig cyrsiau sylfaenol, canolradd ac uwch mewn ystod o arbenigeddau meddygol a llawfeddygol.

Ym Medicentre Caerdydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru, rydym yn cynnal cyrsiau hyfforddiant amlddisgyblaethol ar draws ystod o arbenigeddau llawfeddygol a meddygol.

Agoron ni am y tro cyntaf ym 1994 ac rydym bellach yn rhan o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.

Rydym yn sefydliad ôl-raddedig o'r radd flaenaf sy'n goruchwylio hyfforddiant ynghylch therapi lleiaf ymyrrol a’i ddatblygiad yng Nghymru. Ni yw un o ganolfannau hyfforddiant laparosgopig cyntaf y DU ac rydym yn un o'r rhai â'r cyfleusterau gorau. Rydym bellach ymysg y canolfannau hyfforddiant amlddisgyblaethol prysuraf yn y wlad.

Yr hyn a ddarparwn

Ar hyn o bryd, rydym ar flaen y gad o ran cynnig ystod eang o addysg a hyfforddiant ar gyfer hyfforddeion craidd, hyfforddeion ac ymgynghorwyr arbenigedd. Mae’r rhain yn cynnwys cyrsiau canolradd ac uwch mewn ystod o arbenigeddau meddygol a llawfeddygol, gan gynnwys Llawfeddygaeth Gardiothorasig, Endosgopi, Clust-Trwyn-Gwddf (ENT), Llawfeddygaeth Gyffredinol, Orthopaedeg, Wroleg a Nyrsio. Mae croeso i gynrychiolwyr o ledled y DU a’r byd.

Rydym yn gyfleuster Cymru gyfan, gyda chyrsiau’n cael eu cynnig ar y cyd â chanolfannau ôl-raddedig a labordai sgiliau clinigol ledled Cymru. Mae gweithdai ynghylch sgiliau ymarferol yn cael eu cynnal yn rheolaidd mewn canolfannau eilaidd fel Ysbyty Singleton, Abertawe, Uned Hyfforddiant Endoscopi Gogledd Cymru, Wrecsam ac Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd.

Rydym yn ganolfan weinyddol ar gyfer y Cynllun Hyfforddiant Laparosgopig i’r Colon a’r Rhefr, a ni yw'r ganolfan graidd ranbarthol ar gyfer cyrsiau hyfforddiant mewn endoscopi a gymeradwyir gan y Grŵp Cyd-ymgynghorol yng Nghymru.

Cysylltwch â ni