Ewch i’r prif gynnwys

Gweithio gyda ni

Gyda'n gilydd, gallwn fynd i'r afael â materion dŵr mwyaf brys y byd.

Yn y Sefydliad Ymchwil Dŵr, rydym yn gwerthfawrogi partneriaethau sy'n meithrin atebion arloesol i heriau dŵr byd-eang. Mae cydweithio â ni yn cynnig mynediad at ymchwil o'r radd flaenaf, technoleg flaengar, ac arbenigedd rhyngddisgyblaethol i bartneriaid allanol, uwch ymchwilwyr a rhai ar ddechrau eu gyrfa, myfyrwyr a dinasyddion-wyddonwyr.

Mae ein hymrwymiad i reoli dŵr yn gynaliadwy o fudd i bobl ac ecosystemau ledled y byd, ac rydym yn ymdrechu i gyd-ddylunio atebion sy'n grymuso cymunedau lleol.

Landscape showing Llyn Brianne reservior in autumn

Cyfleusterau

Mae gan y Sefydliad gyfleusterau o'r radd flaenaf sy'n hygyrch i ymchwilwyr cyswllt, rhanddeiliaid a chydweithwyr.

MeetingFAO

Partneriaethau

Mae gennym berthnasau hirdymor gyda phartneriaid diwydiannol, academaidd, o'r llywodraeth a rheoleiddio, a'r trydydd sector.

aerialriver

Hyfforddiant

Mae ein Sefydliad yn darparu cyfleoedd i ddod ynghyd ag ymchwilwyr rhyngddisgyblaethol a phartneriaid allweddol i ddysgu, hyfforddi a chydweithio.

Cysylltwch â ni

Sefydliad Ymchwil Dŵr

Sefydliad Ymchwil Dŵr

Prifysgol Caerdydd

Adeilad Syr Martin Evans

Rhodfa’r Amgueddfa

Caerdydd

CF10 3AX