Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Llywodraethiant Cymru

Rydyn ni’n cynnal ymchwil arloesol i bob agwedd ar gyfraith, gwleidyddiaeth, llywodraethu ac economi wleidyddol Cymru yn ogystal â chyd-destunau ehangach llywodraethu tiriogaeth y Deyrnas Gyfunol ac Ewrop.

Fe welwch chi ein canfyddiadau a’n sylwadau diweddaraf am bolisïau gwladol Cymru ac achlysuron byw trwy ddilyn @WalesGovernance ar Twitter.

Rydyn ni’n cynnig amryw gyrsiau rhan-amser ac amser llawn i ôl-raddedigion ynglŷn â’r gyfraith, llywodraethu a gwleidyddiaeth yn ogystal â llwybrau i astudiaethau israddedigion.

Mae’n hymchwil yn ymwneud â rhai o faterion cyfoes pwysicaf Cymru megis Brexit, datganoli, cyfiawnder, awdurdodaeth a dadansoddi ariannol.

Newyddion diweddaraf

The Plaid Cymru Senedd Member, Rhun ap Iorwerth

Gweledigaeth ar gyfer Uchelgais: Rhun ap Iorwerth i draddodi araith ar degwch ac adnewyddiad economaidd

8 Rhagfyr 2023

Bydd Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn cychwyn 2024 gyda anerchiad bwysig gan Arweinydd newydd Plaid Cymru

Cardiff City Aerial

Gordal Iechyd Mewnfudo: “Angen cymhelliad” ar gyfer mewnfudo sgiliau-uchel i Gymru

5 Rhagfyr 2023

Mae’r adroddiad yn nodi bod 215,429 o unigolion a aned dramor yn galw Cymru’n gartref, gan gyfrannu at yr economi a llywio demograffeg y dyfodol mewn gwlad sy’n heneiddio fel arall

Claire Hanna, Member of Parliament for South Belfast

Ailadeiladu Perthnasoedd trwy Iwerddon Newydd: Darlith Flynyddol CLlC 2023

30 Tachwedd 2023

Bydd dyfodol rhannu pŵer a datganoli yn cael ei drafod wrth i wleidydd blaenllaw o’r SDLP ymweld â Chaerdydd i draddodi Darlith Flynyddol Canolfan Llywodraethiant Cymru eleni

Digwyddiadau

Yn ein digwyddiadau, daw arbenigwyr blaenllaw ac amryw enwogion ynghyd i drafod polisïau gwladol, gwleidyddiaeth, llywodraethu a’r gyfraith.