Ewch i’r prif gynnwys

Wi-Fi i ymwelwyr

Mae ein rhwydwaith di-wifr yn wasanaeth eduroam, felly gall myfyrwyr, ymchwilwyr a staff o sefydliadau partner gysylltu ag ef gydag enw defnyddiwr a chyfrinair o'u sefydliadau cartref.

Ymwelwyr tymor byr

Os ydych chi'n ymweld â Phrifysgol Caerdydd ac mae arnoch angen mynediad i Wi-Fi, efallai y gallwch gysylltu â'r gwasanaeth di-wifr i ymwelwyr: CU-Visitor Wi-Fi, fydd yn ymddangos ar eich rhestr o rwydweithiau sydd ar gael.

Gallwn roi mynediad i chi os ydych yn:

  • gynrychiolydd sy'n dod i gynadleddau a drefnir gan staff neu fyfyrwyr, yn unol â'n cylch gwaith a ariennir yn gyhoeddus
  • aelod o sefydliadau masnachol a chyrff cyhoeddus, sydd wedi eich gwahodd gan y Brifysgol.

Os yw ymwelwyr eduroam yn cael trafferth cael gafael ar y gwasanaeth di-wifr, mae'n bosibl y gallwn ddarparu cyfrif gwestai.

Ni allwn roi mynediad i'r bobl ganlynol ar hyn o bryd:

  • cynfyfyrwyr
  • darpar fyfyrwyr (cânt fynediad os byddant yn cofrestru'n gynnar)
  • defnyddwyr sy'n galw i mewn
  • cynrychiolwyr mewn cynadleddau a drefnir yn allanol, sydd heb unrhyw gysylltiad â'n cylch gwaith a ariennir yn gyhoeddus.

Gwneud cais am gyfrif gwestai

Mae cwponau ar gyfer y gwasanaeth di-wifr i westeion ar gael gan y Ddesg Gwasanaeth TG.

Desg Gwasanaethau TG

Gellir creu cwponau i'w defnyddio am hyd at 14 diwrnod, gan ddibynnu am ba hyd yr ydych yn ymweld â'r Brifysgol.

Rhaid i holl ddefnyddwyr y rhwydwaith di-wifr i ymwelwyr gydymffurfio â'r telerau defnyddio.

  • cewch fynediad at dudalennau gwe cyhoeddus ac ebost ar y we, ond mae'n bosibl na fydd gwasanaethau eraill yn gweithio
  • bydd eich cyfnod defnyddio ar gyfer y cyfrif yn dechrau pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf
  • bydd Prifysgol Caerdydd yn monitro sut caiff y cyfrifon hyn eu defnyddio
  • ni fydd y cyfrifon dros dro hyn yn caniatáu i chi fewngofnodi i orsaf waith a gaiff ei rheoli gan y Brifysgol.

Mynediad i Wi-Fi ar ddiwrnodau agored

Mae Prifysgol Caerdydd yn gampws di-wifr ac mae croeso i chi ddefnyddio ein rhwydwaith di-wifr pan ddewch i ddiwrnod agored.

Mynediad i Wi-Fi os ydych chi'n dod ar Ddiwrnod Agored:

  • dewiswch y rhwydwaith 'CU-Visitor' ar eich dyfais a chofrestrwch eich manylion
  • maes o law, cewch neges destun sy'n cynnwys manylion mewngofnodi unigryw
  • mewngofnodwch i ddechrau defnyddio Wi-Fi pan fyddwch ar y campws.

Mae canllawiau ar gyfer cael mynediad i Wi-Fi ar gael yn ystod y Diwrnod Agored ar y stondin Llyfrgelloedd a Chyfleusterau TG.

Ymwelwyr hirdymor (mwy na phythefnos)

Os ydych yn gynrychiolydd mewn cynhadledd neu'n westai a noddir, cysylltwch â threfnydd y gynhadledd neu eich noddwr ym Mhrifysgol Caerdydd yn yr Ysgol neu'r adran rydych yn ymweld â hi, i gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â chael mynediad i Wi-Fi.

Os nad ydych yn siŵr â phwy i gysylltu, neu os cewch unrhyw drafferth cysylltu â Wi-Fi, cysylltwch â'r Ddesg Gwasanaeth TG.

Desg Gwasanaethau TG