Ewch i’r prif gynnwys

Campws y De

Mae yna ddau opsiwn llety ar gampws y De: Neuadd Senghennydd a Llys Senghennydd.

Mae’r lleoliadau wedi’u leoli yn agos iawn i ganol y ddinas.

Mae’r 102 o ystafelloedd yn Neuadd Senghennydd yn ddeiliadaeth sengl gydag ensuite.

Mae ystafelloedd yn Llys Senghennydd yn ddeiliadaeth sengl gyda chyfleusterau ystafell ymolchi a rannir. Mae yna dros 600 o ystafelloedd, gyda 30 ar gael dros yr Haf.

Derbynfa

Mae derbynfa preswylfeydd Campws y De yn Llys Senghennydd:

Llys Senghennydd
Ffordd Senghennydd
Cathays
Caerdydd
CF24 4DS

Ffôn: +44 (0)29 2087 5709

Amseroedd agor

DyddOriau agor
Dydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc)

08:00–21:45

Dydd Sadwrn a dydd Sul

09:00–21:45

Cyrraedd a gadael

Mae allweddi ar gael i'w casglu ar ôl 15:00. Ar ddiwrnod yr ymadawiad dylid gadael ystafelloedd erbyn 10:00.

Cyrraedd y tu allan i oriau

Y tu allan i oriau agor y dderbynfa, mae'r tîm Diogelwch ar gael ar gyfer rheiny sydd wedi trefnu eu bod nhw'n cyrraedd yn hwyr neu ar gyfer unrhyw argyfyngau.

Ystafell Rheoli Diogelwch

Cyswllt

Llety unigol a grŵp