Ewch i’r prif gynnwys

Neuadd Aberdâr

Mae Neuadd Aberdâr wedi’i lleoli ar Heol Corbett sy’n daith gerdded o tua 10 i 15 munud o ganol y ddinas.

Mae’r llety yn cynnwys 132 o ystafelloedd, 60 ohonynt fydd ar gael yn ystod gwyliau’r haf. Mae ystafelloedd yn ddeiliadaeth sengl gyda chyfleusterau ystafell ymolchi a rannir. Mae pob ystafell mewn fflatiau o niferoedd amrywiol.

Neuadd Aberdâr
Neuadd Aberdâr

Derbynfa

Dyma gyfeiriad derbynfa Neuadd Aberdâr:

Neuadd Aberdâr
Heol Corbett
Caerdydd
CF10 3UP

Ffôn: +44 (0)29 2087 6476

Amseroedd agor

Diwrnod Oriau agor
Dydd Llun–dydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc) 08:00–21:45
Dydd Sadwrn a dydd Sul 09:00–21.45

Cyrraedd a gadael

Mae allweddi ar gael i'w casglu ar ôl 15:00. Ar ddiwrnod yr ymadawiad dylid gadael ystafelloedd erbyn 10:00.

Cyrraedd y tu allan i oriau

Y tu allan i oriau agor y dderbynfa, mae'r tîm Diogelwch ar gael ar gyfer rheiny sydd wedi trefnu eu bod nhw'n cyrraedd yn hwyr neu ar gyfer unrhyw argyfyngau.

Ystafell Rheoli Diogelwch

Cyswllt

Llety unigol a grŵp