Adeilad Tenovus
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4XN
Mae Adeilad Tenovus wedi’i leoli ar Rodfa Academaidd ar Gampws Parc y Mynydd Bychan. Mae mynediad i’r adeilad drwy ramp a drysau awtomatig. Bydd angen i ymwelwyr roi gwybod i’r dderbynfa i gael mynediad i’r adeilad. Mae’r adeilad ar agor rhwng 8yb-5yh a gallwch gysylltu â’r dderbynfa ar +44 (0)29 2074 2570.
O’r fynedfa, ewch ar hyd y coridor i’r dde ac mae’r lifft hanner ffordd ar hyd y coridor ar y dde ac yn gwasanaethu pob llawr.
Mae yna doiled hygyrch gyferbyn â’r dderbynfa ar y llawr gwaelod.
Parcio
Mae yna faes parcio i staff tu ôl i Adeilad Tenovus lle mae yna ddau lle parcio hygyrch wedi’u neilltuo.
Mae meysydd parcio i ymwelwyr a chleifion (talu ac arddangos) wedi’u lleoli tu ôl i Adeilad yr Ysbyty Deintyddol, ar ‘The Gateway’ (gyferbyn ag uned argyfwng) ac ar Ffordd Parc y Mynydd Bychan, ac mae gan bob un lle parcio hygyrch wedi’i neilltuo.
Mae yna hefyd ardal parcio hygyrch yn agos i’r cyntedd.
Parcio ar gyfer beiciau
Mae yna 144 lle parcio beic a rannir rhwng dau leoliad o amgylch yr adeilad.
Parcio Car
Dewiswch adeilad o'r rhestr i ddod o hyd iddo ar y map.