Ewch i’r prif gynnwys

Adeilad Cochrane

Adeilad Cochrane
Mae Adeilad Cochrane yn cynnwys Llyfrgell Iechyd tair llawr, labordai a man seminar.

Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4YU

Mae yna ddau lwybr ar gyfer mynediad i gerddwyr i Adeilad Cochrane o’r cyntedd, Tŷ Dewi Sant, ac ardaloedd Maes Parcio 17. Mae mynediad grisiog i’r brif fynedfa Adeilad Cochrane. Mae yna 10 gris, landin ac yna 8 gris. Mae yna ganllawiau ar y ddau ochr ac yn y canol. Mae yna farciau cyffyrddol ar ddechrau a diwedd y grisiau. Mae yna feinciau gorffwys yn agos i’r grisiau ac Adeilad Cochrane.

Mae’r llwybr mynediad gwastad trwy Adeilad Michael Griffith. Ewch yn y lifft o’r llawr gwaelod isaf i’r llawr gwaelod, trowch i’r dde allan o’r lifft, yn syth ymlaen ac i’r dde allan o ddrws yr allanfa. Ewch ar hyd yr ardal balmantog i’r dde o’r maes parcio o amgylch i fynedfa Adeilad Cochrane.

Mae yna fynediad gwastad i brif fynedfa Adeilad Cochrane. Mae yna ramp isel iawn i’r dde o’r fynedfa, graddiant o 1/23. Mae yna nifer o feinciau gorffwys yn agos i’r brif fynedfa. Mae drws y brif fynedfa yn ddrws tynnu a gwthio a gall fod angen cymorth ar rai pobl i agor y drws hwn.

Mae yna fynediad gwastad i brif fynedfa Adeilad Cochrane. Mae yna ramp isel iawn i’r dde o’r fynedfa, graddiant o 1/23. Mae yna nifer o feinciau gorffwys yn agos i’r brif fynedfa. Mae drws y brif fynedfa yn ddrws tynnu a gwthio a gall fod angen cymorth ar rai pobl i agor y drws hwn.

Mae desg y dderbynfa gyda staff yn ystod oriau agor rhwng 7yb a 5yh. Mae yna adran isel ar y chwith i’r ddesg dderbynfa. Rhif ffôn desg y dderbynfa yw +44 (0)29 2068 8200.

Mae yna doiled hygyrch ar bob llawr. Mae yna 2 doiled hygyrch ar y trydydd llawr.

Mae yna ddau brif lifft sy’n gwasanaethu'r 5 llawr yn yr adeilad. Mae’r botwm galw am lifft 105mm o’r llawr. Mae lled y drysau agor yn 900mm. Mae cerbyd y lifft yn 2100mm x 1100mm. Mae yna ddrych yng nghefn y lifft a chanllaw. Mae’r botymau yn y lifft wedi’i lleoli rhwng 890mm a 1100mm o’r llawr. Mae gan y lifft botymau cyffyrddol. Mae yna wybodaeth weledol a sain ar lefel gwastad.

Ar y llawr gwaelod, mae yna ardal gorffwys yn agos i’r lifftiau. Mae yna hefyd ardaloedd gorffwys o fewn y Llyfrgell Iechyd ar y llawr gwaelod yn y mannau dysgu cymdeithasol. Mae yna ardal gorffwys ar yr ail lawr yn agos i’r lifftiau.

Parcio

Y meysydd parcio i Adeilad Cochrane yw meysydd parcio 16, 17 ac 18.

Mae yna dri lle parcio hygyrch ym maes parcio 17.

Parcio ar gyfer beiciau

Mae yna 10 lle parcio beic ar gael ar gyfer yr adeilad hwn.

Parcio Car

Bicycle parking

There are 10 bicycle parking spaces for this building.