Ewch i’r prif gynnwys

Adeilad Redwood

Adeilad Redwood
Adeilad Redwood

Rhodfa'r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NB

Ceir mynediad gwastad i'r Adeilad Redwood drwy gyfrwng rampiau bas o Rodfa'r Brenin Edward VII a mynedfa Heol Corbett, sydd yn agos i'r mannau parcio hygyrch.

Ceir toiled neillryw gyferbyn â'r ffreutur, yn agos i fynediad Heol Corbett.

Parcio

Mae meysydd parcio'r Brifysgol yn cael eu monitro gan camerâu adnabod rhifau car awtomatig (ANPR) a swyddogion patrol ar droed.

Rhaid i bob cerbyd modur sydd wedi'i barcio wneud cais i e-drwydded neu e-docyn talu wrth fynd dilys sy'n addas i'w ddefnyddio yn y lleoliad penodol.

Mae rhai meysydd parcio yn cynnig parcio Talu wrth fynd (PAYG) trwy RingGo, mae manylion y meysydd parcio hyn ar ein tudalen Parcio ar gyfer Ymwelwyr.

Mae ymwelwyr sy'n ddeiliaid Bathodyn Glas yn gymwys i barcio mewn man parcio hygyrch neu gyffredinol, yn rhad ac am ddim, ond mae'n ofynnol iddynt ddarparu eu rhif cofrestru i'r Tîm Gwasanaethau Teithio, Cludiant a Pharcio drwy anfon e-bost carparking@caerdydd.ac.uk dim hwyrach na 24 awr ar ôl iddynt gyrraedd.

Ar gyfer llefydd parcio eraill ar y stryd, ewch I caerdydd.gov.uk

Prin yw'r parcio ar y campws

Parcio ar gyfer beiciau

Ceir 22 o leoedd parcio beiciau ar gyfer yr adeilad hwn.

Parcio Car