Adeiladau'r Frenhines
5 The Parade
Caerdydd
CF24 3AA
Mae Adeiladau’r Frenhines yn hygyrch o The Parade, O Lwyn y Gorllewin. Mae yna balmentydd llydan ac ymylon palmant isel ar hyd Llwyn y Gorllewin.
Mae Adeilad Trevithick wedi’i leoli ar y dde, ar ôl rhwystr y maes parcio. Mae’r fynedfa yn hygyrch.
Mae Adeilad y Gogledd wedi’i leoli i’r chwith, ar ôl rhwystr y maes parcio (mynedfa risiog). Mae yna fynedfa hygyrch ar ochr yr adeilad. Dilynwch yr arwyddion at y fynedfa hygyrch.
I gael mynediad i’r Adeilad Canolog, ewch ar hyd yr heol/palmant o’r fynedfa ymlaen ac yna i’r chwith. Mae’r Adeilad Canolog i’r chwith eto a syth ymlaen. Mae’r fynedfa yn hygyrch.
Gallwch gael fynediad i Adeilad y Dwyrain drwy’r Adeilad Canolog.
I gael mynediad i Adeilad y De, ewch ar hyd yr heol/palmant o’r fynedfa ymlaen ac yna i’r chwith. Mae Adeilad y De yn syth ymlaen. Gallwch gael mynediad drwy 2 ris. Mae mynediad gwastad i Adeilad y De trwy fynedfeydd Adeilad y Gorllewin neu Ganolog.
I gael mynediad i Adeilad y Gorllewin, ewch ar hyd yr heol/palmant o’r fynedfa ymlaen ac yna i’r chwith. Mae Adeilad y Gorllewin wedi’i leoli yn syth ymlaen ac ar y dde. Mae’r fynedfa yn hygyrch.
Mae Estyniad Adeilad y Gorllewin wedi’i leoli yn syth ymlaen o rwystr y maes parcio. Mae’r fynedfa yn hygyrch.
Parcio
Mae meysydd parcio'r Brifysgol yn cael eu monitro gan camerâu adnabod rhifau car awtomatig (ANPR) a swyddogion patrol ar droed.
Rhaid i bob cerbyd modur sydd wedi'i barcio wneud cais i e-drwydded neu e-docyn talu wrth fynd dilys sy'n addas i'w ddefnyddio yn y lleoliad penodol.
Mae rhai meysydd parcio yn cynnig parcio Talu wrth fynd (PAYG) trwy RingGo, mae manylion y meysydd parcio hyn ar ein tudalen Parcio ar gyfer Ymwelwyr.
Mae ymwelwyr sy'n ddeiliaid Bathodyn Glas yn gymwys i barcio mewn man parcio hygyrch neu gyffredinol, yn rhad ac am ddim, ond mae'n ofynnol iddynt ddarparu eu rhif cofrestru i'r Tîm Gwasanaethau Teithio, Cludiant a Pharcio drwy anfon e-bost carparking@caerdydd.ac.uk dim hwyrach na 24 awr ar ôl iddynt gyrraedd.
Ar gyfer llefydd parcio eraill ar y stryd, ewch I caerdydd.gov.uk
Prin yw'r parcio ar y campws
Parcio Car
Dewiswch adeilad o'r rhestr i ddod o hyd iddo ar y map.