Ewch i’r prif gynnwys

Adeilad Mathemateg ac Addysg

Yr Ysgol Mathemateg
Yr Ysgol Mathemateg, Ffordd Senghennydd

Ffordd Senghennydd
Caerdydd
CF24 4AG

Mae'r Adeilad Mathemateg ac Addysg wedi'i leoli ar Ffordd Senghennydd. Mae yna lwybr hygyrch o gwmpas yr adeilad gyferbyn â'r maes parcio, y gallwch gael mynediad iddo o'r heol ar ochr Ffordd Senghennydd. Mae yna ramp go serth yn arwain i'r llwybr hygyrch o gwmpas yr adeilad, ac efallai bydd angen cymorth ar rai unigolion. Mae yna fynediad â grisiau a chanllawiau yn arwain i'r brif fynedfa.

Mae'r lifft gyferbyn â'r brif fynedfa ac i'r chwith. Nid yw'r lifft yn addas i bob math o gadair olwyn, ond mae digon o le i gadair olwyn maint arferol. Mae yna ddrych yng nghefn y lifft a chanllawiau. Mae'r ddesg derbynfa i ochr dde'r brif fynedfa ac wedi'i osod â chylchwifren ar gyfer pobl â nam  ar y clyw.

Mae yna Gwe Gaffi yn yr Adeilad Mathemateg ac Addysg sydd wedi'i leoli ymlaen ac i ochr dde'r brif fynedfa. Mae yna siop, seddi a pheiriannau gwerthu bwyd a diod a chyfrifiaduron.

Ar y llawr gwaelod, ger y dderbynfa, mae yna doiled hygyrch i ddynion (rhif ystafell: M/0.03) a thoiled hygyrch i fenywod i ochr chwith y brif fynedfa ar ddiwedd y coridor (rhif ystafell E/0.19). Ar y llawr cyntaf ceir toiled hygyrch i fenywod yn agos i'r lifft (rhif ystafell M/1.01).

Parcio

Mae meysydd parcio'r Brifysgol yn cael eu monitro gan camerâu adnabod rhifau car awtomatig (ANPR) a swyddogion patrol ar droed.

Rhaid i bob cerbyd modur sydd wedi'i barcio wneud cais i e-drwydded neu e-docyn talu wrth fynd dilys sy'n addas i'w ddefnyddio yn y lleoliad penodol.

Mae rhai meysydd parcio yn cynnig parcio Talu wrth fynd (PAYG) trwy RingGo, mae manylion y meysydd parcio hyn ar ein tudalen Parcio ar gyfer Ymwelwyr.

Mae ymwelwyr sy'n ddeiliaid Bathodyn Glas yn gymwys i barcio mewn man parcio hygyrch neu gyffredinol, yn rhad ac am ddim, ond mae'n ofynnol iddynt ddarparu eu rhif cofrestru i'r Tîm Gwasanaethau Teithio, Cludiant a Pharcio drwy anfon e-bost carparking@caerdydd.ac.uk dim hwyrach na 24 awr ar ôl iddynt gyrraedd.

Mae yna ddau le parcio hygyrch tu ôl i'r Adeilad Addysg. Ceir parcio stryd ar Ffordd Senghennydd lle gall deiliaid Bathodyn Glas barcio'n rhad ac am ddim.

Ar gyfer llefydd parcio eraill ar y stryd, ewch I Caerdydd.gov.uk

Sylwer: Prin yw'r parcio ar y campws

Parcio Car

Parcio ar gyfer beiciau

Mae yna 44 o leoedd parcio i feiciau sy'n cael eu rhannu rhwng 3 lleoliad o gwmpas yr adeilad.