Ewch i’r prif gynnwys

Adeilad Julian Hodge

Adeilad Julian Hodge
Adeilad Julian Hodge

Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU

Mae mynediad i gerbydau i Adeilad Julian Hodge drwy Rodfa Colum, drwy fynedfa rhwystr a weithredir gyda cherdyn Prifysgol Caerdydd. Yr adeilad yw’r un cyntaf ar yr heol i’r dde. Gallwch hefyd gael mynediad drwy lwybr o Heol Corbett, heibio Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol ac Adeilad y Dyniaethau.

Mae yna fynedfa wastad i Adeilad Julian Hodge o faes parcio’r Dyniaethau drwy ddrws awtomatig. Mae yna fynediad goleddf a drws awtomatig drwy fynediad Rhodfa Colum.

Mae’r lifft wedi’i lleoli i’r dde o fynedfa maes parcio'r Dyniaethau ac yn mynd i bob llawr.

Gallwch gael fynediad i’r ddarlithfa o fynedfa maes parcio’r Dyniaethau a mynedfa â goleddf Rhodfa Colum, mae’r ddarlithfa yn syth ymlaen ac i’r dde.

Mae yna fynediad gwastad i blaen Darlithfa Julian Hodge. Mae yna 5 le i gadeiriau olwyn yn y blaen, 2 sefydlog, 3 gellir eu symud a 2 ddesg hygyrch. Mae’r ddarlithfa wedi’i osod â goleuadau adlewyrchol a chylchwifren ar gyfer pobl â nam ar y clyw.

Mae Lolfa Adeilad Julian Hodge yn ardal fwyta hygyrch ar y llawr gwaelod sy’n gweini bwyd poeth. Mae Oriel Dolce Vita ar y llawr cyntaf, sef bar byrbryd hygyrch gyda lleoedd eistedd.

Mae yna doiled neillryw hygyrch ar y llawr gwaelod (rhif ystafell 0.17) a’r ail lawr (2.03).

Parcio

Mae meysydd parcio'r Brifysgol yn cael eu monitro gan camerâu adnabod rhifau car awtomatig (ANPR) a swyddogion patrol ar droed.

Rhaid i bob cerbyd modur sydd wedi'i barcio wneud cais i e-drwydded neu e-docyn talu wrth fynd dilys sy'n addas i'w ddefnyddio yn y lleoliad penodol.

Mae rhai meysydd parcio yn cynnig parcio Talu wrth fynd (PAYG) trwy RingGo, mae manylion y meysydd parcio hyn ar ein tudalen Parcio ar gyfer Ymwelwyr.

Mae ymwelwyr sy'n ddeiliaid Bathodyn Glas yn gymwys i barcio mewn man parcio hygyrch neu gyffredinol, yn rhad ac am ddim, ond mae'n ofynnol iddynt ddarparu eu rhif cofrestru i'r Tîm Gwasanaethau Teithio, Cludiant a Pharcio drwy anfon e-bost carparking@caerdydd.ac.uk dim hwyrach na 24 awr ar ôl iddynt gyrraedd.

Ar gyfer llefydd parcio eraill ar y stryd, ewch I caerdydd.gov.uk

Prin yw'r parcio ar y campws

Parcio Car