Ewch i’r prif gynnwys

Adeilad Morgannwg

Adeilad Morgannwg
Adeilad Morgannwg

Rhodfa'r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WT

Mae yna fynediad gwastad o’r heol i’r palmant o flaen yr adeilad, wrth bwyntiau mynediad i gwrt blaen yr adeilad. Mae ymylon palamant isel ar hyd Rhodfa’r Brenin Edward VII.

Mae’r brif fynedfa i Adeilad Morgannwg drwy stepiau gyda chanllawiau. Mae yna ddrws cylchdroeog i fynd i mewn i’r adeilad.

Mae’r mynediad hygyrch i Adeilad Morgannwg, wedi’i leoli i lawr llwybr byr i’r chwith o’r adeilad. Mae’r mynediad hwn yn gyfyngedig at ddibenion diogelwch, dim ond gyda cherdyn adnabod dilys y Brifysgol y bydd yn agor. Cysylltwch â’ch tiwtor, rheolwr neu'r Adran Diogelwch os ydych yn dymuno dilysu eich carden i ddefnyddio’r drws mynediad hwn.

Mae’r darllenydd cardiau yn hygyrch o ran uchder, mae’r drws yn agor yn awtomatig pan fydd y darllenydd yn gweithredu.

Mae yna esgynfa isel yn arwain at ddrws y fynedfa at y coridor.

Ymwelwyr a defnyddwyr achlysurol: defnyddiwch yr intercom ar ochr y drws er mwyn cysylltu â’r dderbynfa er mwyn agor y drws. Rydym yn awgrymu eich bod yn cysylltu â’r fynedfa cyn ymweld os nag oes gennych gerdyn adnabod dilys y Brifysgol.

Os ydych yn cynnal digwyddiad yn Adeilad Morgannwg, sicrhewch fod trefniadau wedi’u gwneud ar gyfer mynychwyr yn defnyddio’r fynedfa.

Parcio

Mae meysydd parcio'r Brifysgol yn cael eu monitro gan camerâu adnabod rhifau car awtomatig (ANPR) a swyddogion patrol ar droed.

Rhaid i bob cerbyd modur sydd wedi'i barcio wneud cais i e-drwydded neu e-docyn talu wrth fynd dilys sy'n addas i'w ddefnyddio yn y lleoliad penodol.

Mae rhai meysydd parcio yn cynnig parcio Talu wrth fynd (PAYG) trwy RingGo, mae manylion y meysydd parcio hyn ar ein tudalen Parcio ar gyfer Ymwelwyr.

Mae ymwelwyr sy'n ddeiliaid Bathodyn Glas yn gymwys i barcio mewn man parcio hygyrch neu gyffredinol, yn rhad ac am ddim, ond mae'n ofynnol iddynt ddarparu eu rhif cofrestru i'r Tîm Gwasanaethau Teithio, Cludiant a Pharcio drwy anfon e-bost carparking@caerdydd.ac.uk dim hwyrach na 24 awr ar ôl iddynt gyrraedd.

Ar gyfer llefydd parcio eraill ar y stryd, ewch I caerdydd.gov.uk

Prin yw'r parcio ar y campws

Parcio ar gyfer beiciau

Mae yna 41 o leoedd parcio beiciau a rannir rhwng tri lleoliad o amgylch yr adeilad.

Parcio Car