Ewch i’r prif gynnwys

Astudio

Rydyn ni wedi ymrwymo i greu diwylliant ymchwil rhagorol a hyfforddi imiwnolegwyr arbrofol, clinigol a damcaniaethol.

Rhaglen MSc

Lluniwyd y rhaglen hon gan arbenigwyr rhyngwladol sy’n gweithio ym maes Heintiau, Imiwnedd a Llid.

Bydd y cwrs amser llawn hwn yn eich cyflwyno cymaint â phosibl i arbenigedd ymchwil yr Is-adran Heintiau ac Imiwnedd a Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau’r Brifysgol.

Byddwch chi’n elwa ar eu brwdfrydedd a’u hymrwymiad i arwain a chynnal gweithgareddau addysgu ar y rhaglen MSc hon sy’n seiliedig ar ymchwil o safon.

Mae’r rhaglen MSc yn trin ystod gynhwysfawr o ymchwil ar imiwnedd, gan roi trosolwg cyfannol ichi o ddatblygiad clefydau cronig, rheoli heintiau, a’r mecanweithiau sy’n effeithio ar ein gallu i greu ymateb effeithiol y system imiwnedd. Bydd hyn yn eich galluogi i werthuso effaith ymchwil ar gwrs bywyd y system imiwnedd o ran iechyd a chlefydau, ac i archwilio’r system imiwnedd yn fanylach, gan ddysgu sut y gellir ei addasu i drin canser, clefydau hunanimíwn a chlefydau llidiol.

Mae biodechnegau’n datblygu’n gyflym, ac mae dulliau newydd sy’n creu ac yn dadansoddi sympiau mawr o ddata yn cael eu defnyddio i fynd i’r afael â phroblemau imiwnolegol. Mae ymchwil imiwnoleg bellach yn defnyddio’r ystod lawn o’r ‘-omegau’, gan gynnwys genomeg, trawsgrifomeg, proteomeg, lipidomeg, a metafolomeg. Byddwch chi’n ymchwilio i ddulliau’r ‘-omegau’ ac yn eu defnyddio i ddatrys cwestiynau ymchwil ar sail haint, imiwnedd a llid drwy ddysgu’r dulliau cyfrifiadurol ac ystadegol y mae gwyddonwyr yn eu defnyddio i ddadansoddi a dehongli data’r profion.

Dyma gyfnod mwyaf cyffrous gwyddoniaeth fiofeddygol erioed ac mae’n llawn cyfleoedd. Byddwch chi’n mynd ar daith fydd yn cynnwys hanfodion gwyddoniaeth, ymchwil glinigol, ymchwil ar y gwasanaethau iechyd sy’n amlygu datblygiadau nodedig y degawdau diwethaf ac sy’n pwysleisio pa mor fregus yw iechyd pobl yn sgîl clefydau heintus newydd a’r rheini sy’n dychwelyd.

Mae’r ‘frwydr’ rhwng y lletywr a’r pathogen yn fygythiad newydd i iechyd y byd, felly mae’n bwysig eich bod hefyd yn dysgu am sut mae strategaethau osgoi systemau imiwnedd wedi datblygu yn ogystal â chyffuriau newydd sy’n atal pathogenau rhag dyblygu. Erbyn diwedd y rhaglen hon, byddwch chi’n deall beth yw rôl ganolog ymchwil o ran gwella dealltwriaeth wyddonol (er enghraifft, cynghori ar yr arferion gorau wrth gynllunio ar gyfer pandemig), a datblygiad brechlynnau a thriniaethau sy’n achub bywydau.

Dewch i weld ein MSc Imiwnoleg Glinigol Gymhwysol ac Arbrofol.