Rhaglenni PhD
Rydym yn awyddus i ddenu’r myfyrwyr ymchwil gorau yn rhyngwladol yn ein chwe rhaglen ymchwil a meysydd rhyng-gysylltiedig:
- Cymunedau gwledig-trefol cynaliadwy
- Systemau rhyngweithiol sy’n cyd-esblygu
- Iechyd, seilwaith a lles
- Bwyd, tir a diogelwch
- Risg, lle a hunaniaeth
- Dinasoedd a Lleoedd Cynaliadwy.
Mae’r rhaglenni a chyfleoedd hyfforddiant yn cael eu cyflenwi gan staff ymchwil y Sefydliad a’n partneriaid allanol. Hefyd, mae cyfle i elwa ar hyfforddiant a gyflenwir gan Rwydwaith Hyfforddiant Arloesol Marie Curie SUSPLACE.
Mae pob un o’n myfyrwyr PhD yn cael cyfle i weithio gyda phartneriaid creu lleoedd cynaliadwy allanol, yn ogystal â bod yn rhan o’n rhwydweithiau academaidd rhyngwladol ehangach, a’n prosiectau ymchwil gweithredol, sy’n gweithio ar amrywiaeth o bynciau’n ymwneud â chynaliadwyedd.
Meysydd astudio
Mae gan ein staff ymchwil ddiddordeb mewn goruchwylio ymchwil ar ystod eang o bynciau rhyng-ddisgyblaethol, gan gynnwys, ymysg eraill:
- datblygiad cynaliadwy, gan gynnwys rôl prosesau a sefydliadau llywodraethu.
- gwaith sy’n mynd i’r afael â llywodraethu yng nghyd-destun newid amgylcheddol byd-eang (newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth)
- mae diddordeb penodol mewn astudio datblygiad cynaliadwy yn ymwneud â deall y rhyng-berthynas rhwng systemau ecolegol a phrosesau cymdeithasol, gan gynnwys astudio’r gwerth a roddir ar natur ym maes rheoli amgylcheddol trwy bolisïau a mentrau adfer.
- cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol
- masnach deg
- menter gymdeithasol
- marchnata cymdeithasol
- marchnata cynaliadwyedd
- datblygiad cefn gwlad
- y bio-economi
- systemau bwyd cynaliadwy
- bioamrywiaeth amaethyddol (geneteg a genomeg)
- cadwraeth drofannol (gwyddorau biolegol a systemau cymdeithasol-ecolegol cysylltiedig)
- bioleg cadwraeth a thystiolaeth o reoli rhywogaethau.
Gallwn gynnig amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddiant a rhaglenni mewn partneriaeth â’r Brifysgol, a phrifysgolion a sefydliadau cydweithredol rhyngwladol, gan gynnwys Prifysgol Leuven: Prifysgol y Cenhedloedd Unedig, Malaysia: Prifysgol Tongji, Tsieina.
I gael rhagor o wybodaeth neu drafod prosiectau PhD posibl, cysylltwch â’r: