Ewch i’r prif gynnwys

Trawsnewid ac addasu mewn detholiad o ranbarthau dinesig-gwledig

Mae'r rhaglen waith yma yn ymwneud â thrafodaethau a damcaniaethau presennol ar drawsnewidiadau ac addasiadau mewn dinas-ranbarthau.

Ein diddordeb penodol yn hyn o beth yw'r gwahanol raddfeydd gofodol a sectorau gweithredol y gall y term 'creu lleoedd cynaliadwy' gael ei gymhwyso atyn nhw, sut mae cynaliadwyedd yn cael ei weld fel cysyniad gofodol, ei gynllunio a'i reoli, a chan bwy.

Mae'r pwyntiau i ganolbwyntio arnyn nhw'n cynnwys sut a pham y bydd rhanddeiliaid gwahanol yn cymryd rhan; sut mae tystiolaeth o drawsnewid ac addasu yn cael ei mesur ar hyn o bryd a goblygiadau hyn ar gyfer penderfyniadau polisi ac ymchwil academaidd.

Gan ddefnyddio amrediad o enghreifftiau, a chan weithio â chydweithwyr sydd o'r radd flaenaf yn y byd, mae'r rhaglen waith yn helpu'n uniongyrchol i ddatblygu canolfan ymchwil gymharol ym maes dinas-ranbarthau sy'n cyfuno theori, ymchwil empirig ac addasiadau polisi ynghylch detholiad o ddinas-ranbarthau.

Mae hyn yn cynnwys addasiadau a thrawsnewidiadau dinas-ranbarth yn Ninas-ranbarth Helsinki Fwyaf (y Ffindir) – cydweithredu â chydweithwyr o Ysgol Swedeg y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Helsinki; astudio cynlluniau a thrawsnewidiadau bwyd trefol yn Toronto, Ontario (Canada) – cydweithredu â chydweithwyr ym Phrifysgol Wilfred-Laurier a Phrifysgol Toronto; ac astudio camau cynaliadwyedd dan arweiniad llywodraeth leol a'r gymuned yn ninas-ranbarth Caerdydd – gan weithio ar y cyd ag aelodau o Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru.

Y prif gysylltiadau