Ewch i’r prif gynnwys

Llywodraethiant ymaddasol ar gyfer trawsnewidiadau cymdeithasol ac ecolegol

Mae llywodraethiant lleoedd cynaliadwy yn gwneud llawer mwy na hybu ymddygiad sy'n gyfrifol o safbwynt yr amgylchedd ac yn cynnwys arferion mwy atblygol. Mae'r rhain yn cymryd i ystyriaeth y cydadwaith cymhleth rhwng systemau cymdeithasol, economaidd ac ecolegol.

Mae llywodraethiant yn cynnwys y cydadwaith rhwng llywodraeth, cyrff eraill, y sector preifat a phawb yn y gymdeithas ddinesig sy'n mynd i'r afael â materion polisi cyhoeddus.

Mae hyn yn gofyn am arferion llywodraethu sy'n rhagweld, sydd ar fwy nag un lefel, sy'n gogwyddo at y tymor hir, ac sy'n agored i ddysgu, i ystyried yn fwy cynhwysol, i arloesi ac i addasu. Mae hyn yn golygu symud oddi wrth y mathau traddodiadol o lywodraethiant sy'n gofyn am sicrwydd a nodau clir, a goresgyn problemau integreiddio polisïau ar draws pob sector a phob gofod hefyd.

Mae'r rhaglen ymchwil hon yn ystyried, o ran theori a thrwy ymarfer sydd wedi'i seilio ar dystiolaeth, lywodraethiant ymaddasol ac atblygol ar gyfer rheoli lleoedd cynaliadwy. Mae hefyd yn ceisio nodi atebion cynaliadwy, gan fynd i'r afael â phroblemau integreiddio polisïau drwy ddefnyddio data a thystiolaeth gymaradwy o'r arferion gorau a'r arferion 'lleiaf gwael'.

Yn ychwanegol, mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar gyd-destun llywodraethiant Cymru; ac yn gwneud cyfraniad pendant at waith WISERD a Chanolfan Llywodraethiant Cymru.

Ceir arbenigedd sylweddol o Ysgolion Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr, Ieithoedd  Ewropeaidd, Cyfieithu a Gwleidyddiaeth, Cynllunio a Daearyddiaeth a Gwyddorau Cymdeithasol. Rhoddir pwyslais yn benodol ar rôl arferion llywodraethiant wrth hybu arloesed cymdeithasol a byw'n gynaliadwy, yn ogystal ag addasu at newid yn yr hinsawdd.

Prif gysylltiadau

Nodwch, mae'r tudalennau isod ar gael yn Saesneg yn unig.