Ewch i’r prif gynnwys

Risg, lle, hunaniaeth a chynaliadwyedd

Mae risg yn rhan gynyddol ganolog o amrywiaeth o ddisgyblaethau academaidd a meysydd bywyd cyhoeddus a diwydiannol. Efallai mai dyma’r brif safbwynt y mae gwyddonwyr, diwydianwyr, gwneuthurwyr polisi a’r cyhoedd yn ei ddefnyddio i nodweddu a dadlau ynghylch materion yn ymwneud â chynaliadwyedd, o newid hinsawdd i golli bioamrywiaeth.

Mae’r rhaglen ymchwil hon yn darparu dwy swyddogaeth::

  • Mae’n darparu set integreiddiol o gysyniadau, dulliau a ffyrdd dadansoddol o glymu’r gwaith a gynhelir ar draws y sefydliad ynghyd.
  • Mae’n cynnal gwaith ymchwil cychwynnol ar ddealltwriaeth y cyhoedd ac arbenigwyr ar faterion yn ymwneud â chynaliadwyedd a sut maen nhw’n llywio llywodraethiant.

Un elfen ganolog o’r gwaith hwn yw ymchwil ar y safle ac, ynghyd â hyn, mae’r un mor bwysig i beidio â cholli cysylltiad â’r heriau cynaliadwyedd byd-eang sylfaenol sy’n ein hwynebu. Mae naratifau mawr moderniaeth a datblygiadau technolegol, a sut maen nhw’n cyd-fynd ag arferion anghynaladwy a llunio hunaniaeth, yn faterion sylfaenol o’r ‘gymdeithas risg’, ac nid ydynt yn diflannu.

Mae ein hymchwil yn archwilio ystyr y cysyniad o le wrth nodweddu problemau iechyd y cyhoedd ac amgylcheddol, sut mae ein dulliau presennol yn ystyried hyn (yn enwedig modelau ffurfiol), a sut gallwn wneud pethau’n well.

Tîm ymchwil

Dr Brian MacGillivray

Dr Brian MacGillivray

Research Fellow

Email
macgillivraybh@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44(0) 29 2087 6132
Yr Athro Nick Pidgeon

Yr Athro Nick Pidgeon

Athro Seicoleg Amgylcheddol, Cyfarwyddwr Grŵp Ymchwil Deall Risg.

Email
pidgeonn@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 4567