Ewch i’r prif gynnwys

Iechyd, seilwaith a lles

Mae’r rhaglen ymchwil hon yn ychwanegu gwerth sylweddol i waith presennol trwy dynnu’r cryfderau methodolegol rhyng-ddisgyblaethol yn y Sefydliad ynghyd i fesur a nodweddu “lle” yn well.

Mae amrywiaeth o ddata ar gael ar bobl o fewn lleoedd, ond mae data gwrthrychol ar leoedd yn brin, ac yn dibynnu ar setiau data gweinyddol fel amddifadedd lluosog a nodweddion sy’n deillio o gyfrifiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Rydym yn llenwi’r bwlch gwybodaeth hwn, gan arwain at greu teipoleg aml-ddimensiwn yn ymwneud â phobl a lleoedd.

Bydd y fframwaith yn berthnasol i amrywiaeth o gwestiynau ymchwil o ran cynaliadwyedd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd, a bydd yn darparu gwerth ychwanegol sylweddol i gwestiynau pwysig wrth ddeall anghydraddoldebau yng Nghymru a datblygu ymyriadau cymhleth angenrheidiol er mwyn mynd i’r afael â’r rhain.

Tîm ymchwil

Dr Crispin Cooper

Dr Crispin Cooper

Research Associate

Email
cooperch@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44(0) 29 2087 6072
Yr Athro David Fone

Yr Athro David Fone

Email
foned@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2068 7241
Dr Yi Gong

Dr Yi Gong

Research Fellow

Email
gongy2@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44(0) 29 2087 0955