Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogwch ni

Bydd Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy yn mynd i'r afael ag un o faterion cymdeithasol ac amgylcheddol pwysicaf y byd. Rydym yn ffocysu ar sut i adeiladu ac ail-ddylunio dinasoedd a rhanbarthau a fydd yn ffynnu wrth i'r hinsawdd newid ac wrth i adnoddau leihau.

Mae'n trefi a'n dinasoedd, ein cludiant a'r adeiladu rydyn ni'n byw ac yn gweithio ynddyn nhw, i gyd yn cael effaith fawr ar ein hamgylchedd. Mae'n rhaid eu gweddnewid os ydyn ni am sicrhau dyfodol cynaliadwy.

Mae'r sefydliad unigryw yma'n dod ag arbenigwyr sy'n adnabyddus yn rhyngwladol at ei gilydd o ddeg o'n hysgolion academaidd. Gyda'ch cefnogaeth chi gall fod yn fodd inni ddod o hyd i atebion cynaliadwy sy'n addas at eu diben. Mae hyn yn ein galluogi i hyfforddi gwyddonwyr cynaliadwyedd yfory, a fydd yn cefnogi cenedlaethau'r dyfodol mewn adeiladu a chynnal lleoedd cynaliadwy yn lleol, cenedlaethol ac yn rhyngwladol.

Cysylltwch â ni heddiw i gael gwybod sut y gallwch chi gefnogi ymchwil sydd wrth galon datblygu dyfodol cynaliadwy i bawb.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch helpu i'n cefnogi neu am gyfleoedd noddi eraill, mae croeso ichi gysyltu â Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr.