Ewch i’r prif gynnwys

Ein gweledigaeth

Gweledigaeth y Sefydliad Ymchwil yw rhoi sylfaen newydd ar gyfer gwyddor cynaliadwyedd. Bydd yn gwthio ffiniau gwaith ymchwil traddodiadol mewn cynaliadwyedd gan ddod o hyd i atebion i her adnoddau sy'n lleihau a her newid hinsawdd.

https://www.youtube.com/watch?v=zbWHeK6cpDc

Mae'r Sefydliad Ymchwil yn helpu i atgyfnerthu enw da Caerdydd fel arweinydd rhyngwladol unigryw ym maes newydd gwyddor cynaliadwyedd, a hynny drwy ddod ag ysgolheigion a chlystyrau ymchwil blaenllaw ar draws ystod o ddisgyblaethau academaidd at ei gilydd. Drwy wneud y cysylltiadau newydd hyn, mae'r Sefydliad yn mynd i'r afael â chwestiwn hollbwysig cynaliadwyedd a lleoedd cynaliadwy mewn modd cwbl newydd, gan chwilio am atebion i'r heriau amgylcheddol a chymdeithasol aruthrol sy'n wynebu'r ddynoliaeth.

Trwy ddulliau gwyddonol newydd mae'n gosod pwyslais cryfach ar fyw yn gynaliadwy mewn lleoedd cynaliadwy drwy astudio'r cydberthnasau cymhleth a deinamig rhwng ecoleg, cymdeithas ac economi. Drwy astudio'r cydadweithiau hyn ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, mae'r Sefydliad yn ei osod ei hun yng nghanol trafodaethau byd-eang. Mae'n defnyddio'r arbenigedd presennol ym meysydd gwyddonol cynllunio a'r gwyddorau cymdeithasol, seicolegol cymhwysol, busnes a'r gyfraith, gwyddorau biolegol a gwyddorau'r ddaear, peirianneg, pensaernïaeth ac iechyd.

Mae'r Sefydliad Ymchwil yn mynd i'r afael yn bendant â'r cwestiwn sut y gall dinasoedd a'u rhanbarthau - sydd i gyd yn datblygu o dan gyfuniadau gwahanol o drefniadau marchnad a llywodraethiant - addasu a chael eu harwain tuag at strategaethau gofodol mwy cynaliadwy. Fel 'man cyfarfod' gwyddonol newydd, mae'n helpu i roi gwell dealltwriaeth o'r cymhlethdodau, y trosiannau, yr addasiadau a'r mathau o wytnwch sy'n angenrheidiol wrth ddylunio, ail-ddylunio a chynllunio lleoedd.

O dan arweiniad Cyfarwyddwr y Sefydliad, yr Athro Terry Marsden, mae Lleoedd Cynaliadwy yn cael ei reoli gan dîm o academyddion blaenllaw o'r tri Choleg: