Cyfleoedd i ymweld â ni
Rydym yn falch i groesawu grwpiau ysgol i gampws Parc Cathays drwy gydol y flwyddyn academaidd.
Ymweliadau â’r campws
Mae ymweliadau â’r campws yn ffordd wych i fyfyrwyr ddysgu amdano, dysgu rhagor am fywyd myfyrwyr a gofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt am yr brifysgol.
Yn ystod ymweliad â'r campws bydd myfyrwyr yn derbyn y canlynol:
- dau gyflwyniad yn cyffwrdd ag agweddau ar fywyd a phrofiadau myfyrwyr
- taith o amgylch y campws o dan arweiniad myfyrwyr
Mae ymweliadau â’r campws yn bosibl drwy gydol y tymor. Cewch opsiwn o sesiwn fore neu sesiwn brynhawn.
Ebostiwch ni drwy schools@caerdydd.ac.uk.
Diwrnodau Agored
Bydd ein Diwrnodau Agored nesaf yn cael eu cynnal ymlaen Dydd Gwener 5 Gorffennaf a Dydd Sadwrn 6 Gorffennaf.
Diwrnodau Agored yw’r cyfle perffaith i'ch disgyblion weld drostynt eu hunain sut beth yw bod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, siarad â staff y gwasanaethau academaidd a phroffesiynol a chael ateb i'w cwestiynau.
Ebostiwch openday@cardiff.ac.uk os oes gennych ddiddordeb mewn dod â grŵp ysgol.
Ysgolion academaidd
Pan fydd amgylchiadau'n caniatáu, mae ein hysgolion academaidd yn aml yn cynnal digwyddiadau ar y campws ar gyfer athrawon a disgyblion mewn gwahanol gyfnodau allweddol. Chwiliwch am ein gweithgareddau ymgysylltu ag ysgolion a cholegau.
Yn ogystal â Diwrnodau Agored y Brifysgol, mae’r Ysgol Meddygaeth yn cynnal digwyddiadau arbennig i roi gwybodaeth. Mae’r rhain yn rhoi’r cyfle i ddarpar fyfyrwyr, athrawon, ymgeiswyr a chynghorwyr gyrfaoedd gael dealltwriaeth fanylach o gyrsiau’r Ysgol a'r cyfleusterau sydd ar gael.
Taith rithwir
Eisiau rhagor o wybodaeth? Ewch ar daith rithwir o amgylch y campws a’r ddinas.
Tanysgrifiwch i dderbyn newyddion ar gyfer athrawon a chynghorwyr gyrfaoedd.