Ewch i’r prif gynnwys

DU, tu allan i Gymru

Gwiriwch y wybodaeth ar gyfer y wlad rydych chi fel arfer yn byw ynddi i gael gwybodaeth am gyllid.

Mae cyllid ar gael gan Gyllid Myfyrwyr Lloegr i ddechrau cwrs ym mis Medi 2024

Os ydych yn byw yn Lloegr gallwch wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Lloegr. Mae'r arian sydd ar gael gan Gyllid Myfyrwyr Lloegr yn cynnwys arian ar gyfer ffioedd dysgu ac arian i dalu costau byw.

Benthyciad ffioedd dysgu

Yn amodol ar delerau ac amodau, ni fydd rhaid i fyfyrwyr sy’n byw yn Lloegr ac yn astudio tuag at eu gradd gyntaf dalu eu ffioedd dysgu ymlaen llaw. Yn lle hynny, gallent fod yn gymwys am fenthyciad ffioedd dysgu ad-daladwy gwerth hyd at £9,250 y flwyddyn i dalu costau eu ffioedd dysgu. Byddai'r arian hwn yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'ch Prifysgol ar ôl i chi gofrestru.

Byddwch yn dechrau ad-dalu'r benthyciad pan fyddwch yn gorffen eich cwrs ac yn ennill mwy nag £25,000 y flwyddyn (yn amodol ar delerau ac amodau).

Cyllid ar gyfer costau byw

Gall pob myfyriwr cymwys sy'n gwneud cais i Gyllid Myfyrwyr Lloegr gael benthyciad cynhaliaeth i'w helpu i dalu ei gostau byw. Disgwylir i'r benthyciad hwn gyfrannu at gostau llety, bwyd, teithio a byw yn gyffredinol. Bydd y swm sydd ar gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol a ble rydych yn byw yn ystod eich astudiaethau.

Mae'r tabl canlynol yn dangos enghreifftiau o'r arian sydd ar gael yn ddibynnol incwm y cartref a ble mae'r myfyriwr yn byw yn ystod ei astudiaethau:

Cymorth cynhaliaeth ar gyfer myfyriwr israddedig amser llawn sy’n byw oddi cartref yn 2024/25

Incwm yr aelwyd

Benthyciad ar Gael – 2024/25 (Ffigurau yn dibynnu ar gymeradwyaeth seneddol)

£25,000 a llai

£10,227

£35,000

£8,766

£45,000

£7,304

£55,000

£5,842

£62,311 a throsodd

£4,767

Fel y gwelir uchod, bydd faint o arian cynhaliaeth sydd ar gael yn cael ei effeithio gan fanylion incwm yr aelwyd.

Os byddwch yn byw yng nghartref eich rhieni yn ystod eich astudiaethau, £8,610 yw cyfanswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael, ond mae manylion incwm y cartref yn gallu effeithio ar hynny o hyd.

Sylwer os bydd incwm y cartref yn uwch, mae’r Llywodraeth yn disgwyl i rieni gyfrannu tuag at gostau byw’r myfyriwr.

Bydd y benthyciad cynhaliaeth hwn yn cael ei dalu'n uniongyrchol i fyfyrwyr, fel arfer mewn tri thaliad; un ar ddechrau pob tymor. Fel arfer bydd y taliad cyntaf yn cael ei ryddhau i chi ymhen 3-5 diwrnod gwaith ar ôl i chi orffen ymrestru. Felly, mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod arian gennych ar gyfer o leiaf pythefnos pan fyddwch yn cyrraedd y Brifysgol.

Os byddwch yn newid unrhyw fanylion am eich cwrs neu fan astudio ar ôl i chi wneud cais am arian, dylech roi gwybod i Gyllid Myfyrwyr Lloegr cyn gynted ag y byddwch yn gwybod am newid neu gallai hyn achosi oedi cyn talu'r arian.

Arian ychwanegol gan Gyllid Myfyrwyr Lloegr

Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau personol, gallai arian ychwanegol fod ar gael i chi. Er enghraifft, os oes gennych anabledd, neu os oes gennych blant neu oedolyn sy'n ddibynnol arnoch. Ewch i Gyllid Myfyrwyr Lloegr i gael rhagor o wybodaeth.

Arian ychwanegol gan Brifysgol Caerdydd

Yn ogystal â'r arian uchod gallech fod yn gymwys am Fwrsariaeth gan Brifysgol Caerdydd.

Costau byw yng Nghaerdydd

Mae Caerdydd yn cael ei ystyried yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy'r DU o ran costau byw yn ystod eich astudiaethau. Defnyddiwch ein teclyn cyfrifo costau byw i weld faint mae’n ei gostio i fyw yng Nghaerdydd ar gyfartaledd fel myfyriwr israddedig amser llawn.

Ad-dalu benthyciadau

Bydd y rheini sy’n cymryd benthyciad ffioedd dysgu israddedig neu fenthyciad cynhaliaeth drwy Student Finance England ym mlwyddyn academaidd 24/25 yn ad-dalu eu benthyciad yn unol â Chynllun Ad-dalu 5.

Sut i wneud cais am gyllid

Bydd myfyrwyr sydd fel arfer yn byw yn Lloegr yn gwneud cais i Gyllid Myfyrwyr Lloegr am eu cyllid. Rydyn ni’n rhagweld y bydd y broses ymgeisio i fyfyrwyr sy’n bwriadu dechrau cwrs ym mis Medi 2024 yn agor ym mis Mawrth/Ebrill

Os ydych yn byw yn yr Alban byddwch yn gallu gwneud cais am arian i Asiantaeth Cyllid Myfyrwyr yr Alban. Ewch i’w gwefan i gael gwybodaeth am yr arian fydd ar gael ar gyfer 2024/25 a sut i wneud cais.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon byddwch yn gallu gwneud cais am arian i Gyllid Myfyrwyr Gogledd Iwerddon. Ewch i’w gwefan i gael gwybodaeth am yr arian fydd ar gael ar gyfer 2024/25 a sut i wneud cais.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr.

Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr