Ewch i’r prif gynnwys

Gwledydd yr UE

Efallai y bydd cyllid ar gael i fyfyrwyr newydd a pharhaus sy’n wladolion yr UE.

Cyllid Myfyrwyr i ddinasyddion yr UE yn dechrau cyrsiau newydd ym mis Medi 2024

Bydd y cyllid sydd ar gael yn dibynnu ar eich statws Preswylio’n Sefydlog yn yr UE, lle rydych chi’n preswylio fel arfer yn y DU, pa mor hir rydych chi wedi byw yn y DU a’r cwrs rydych chi’n dewis ei astudio.

Yn gyffredinol, gallwch wneud cais am gyllid myfyrwyr os ydych yn bodloni pob un o'r amodau canlynol:

  • os ydych yn wladolyn yr UE neu’n aelod perthnasol o deulu gwladolyn yr UE
  • mae gennych Statws Preswylydd Cyn-sefydlog neu Preswylydd Sefydlog
  • rydych wedi bod yn preswylio fel arfer yn y DU, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) a’r Swistir am y 3 blynedd yn union cyn 1 Medi ym mlwyddyn gyntaf eich cwrs
  • nid addysg amser llawn oedd eich prif reswm dros fod yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) a’r Swistir
  • mae eich cwrs yn gymwys

Os ydych yn bodloni’r amodau hyn, pennir ar ba gorff cyllido y gallwch wneud cais iddo a pha gyllid a allai fod ar gael i chi yn seiliedig ar lle’r ydych wedi bod yn preswylio fel arfer cyn dechrau eich cwrs:

Yn preswylio fel arfer yn:

Corff cyllido y dylid gwneud cais iddo:

Cymru

Cyllid Myfyrwyr Cymru

Lloegr

Cyllid Myfyrwyr Lloegr

Yr Alban

Asiantaeth Dyfarniadau Myfyrwyr yr Alban (SAAS)

Gogledd Iwerddon

Cyllid Myfyrwyr Gogledd Iwerddon (SFNI)

Rhai pwyntiau pwysig i'w nodi:

  • Os ydych yn symud i brifysgol yng Nghymru, byddech yn gwneud cais i’r corff cyllido sy’n berthnasol i’r man lle’r oeddech yn byw cyn 1 Medi yn y flwyddyn y dechreuoch ar eich cwrs.
  • Mae mynediad at gyllid myfyrwyr yn cael ei reoli gan reolau blaenorol ynghylch astudio. Felly, os ydych wedi astudio ym maes addysg uwch o'r blaen, cysylltwch â'r Tîm Ariannu a Chyngor ar gyfer Myfyrwyr i gael rhagor o wybodaeth.
  • Os ydych yn ddinesydd yr UE yn y DU a chithau’n weithiwr mudol, neu'n ddibynnydd gweithiwr mudol, cysylltwch â'r Tîm Ariannu a Chyngor ar gyfer Myfyrwyr i gael rhagor o wybodaeth.
  • Gallai absenoldebau o'r DU unwaith y byddwch wedi derbyn statws cyn-sefydlog neu sefydlog effeithio ar eich statws, neu'ch gallu i uwchraddio i statws sefydlog. Gofynnwch am gyngor gan Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.
  • Gall gymryd tua 6 wythnos i geisiadau am gyllid gael eu prosesu gan eich corff ariannu ond gall gymryd rhagor o amser ar adegau prysur. Os byddwch yn dibynnu ar gyllid myfyrwyr i dalu eich ffioedd dysgu, bydd y brifysgol yn disgwyl i chi wneud cais amdano cyn gynted â phosibl a bydd eich cyllid yn ei le pan fyddwch yn cofrestru. Os cewch unrhyw anawsterau o ran hyn, cysylltwch â'r Tîm Ariannu a Chyngor ar gyfer Myfyrwyr.
  • Os nad oes gennych statws preswylydd sefydlog neu cyn-sefydlog drwy Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE codir ffioedd dysgu rhyngwladol arnoch. Gweler ein tudalennau ariannu a ffioedd i gael rhagor o fanylion.

Myfyrwyr yr UE sy'n parhau

Os ydych yn ddinesydd yr UE ond yn fyfyriwr sy'n parhau, yna mae gwybodaeth benodol ar eich cyfer chi ar gael ar fewnrwyd y myfyrwyr.

Ad-dalu benthyciad ffioedd dysgu neu fenthyciad cynhaliaeth

Os ydych yn gymwys i gael benthyciad ffioedd dysgu neu gynhaliaeth y bwriad yw mai dim ond pan fyddwch wedi gorffen eich astudiaethau ac yn ennill mwy na throthwy penodol y byddwch yn dechrau ei ad-dalu. Pennir y trothwy gan y lle yr ydych yn preswylio yn arferol wedi’ch astudiaethau. Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch hyn ar wefan ad-dalu'r Cwmni Benthyciadau ar gyfer Myfyrwyr.

Costau byw yng Nghaerdydd

Ystyrir Caerdydd yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy'r DU i astudio ynddi o ran costau byw,. Defnyddiwch ein adnodd cyfrifo costau byw, a chewch wybod faint mae’n ei gostio ar gyfartaledd i fyfyriwr israddedig amser llawn fyw yng Nghaerdydd.

Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr