Ewch i’r prif gynnwys

Bwrsariaeth y GIG

Bydd cymorth ariannol y GIG ar gael i fyfyrwyr a fydd yn dechrau’r cyrsiau gofal iechyd canlynol rhwng mis Medi 2023 a mis Mawrth 2024.

Mae’r cymorth hwnnw’n amodol ar ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd (myfyrwyr gradd) neu 18 mis (myfyrwyr diploma) ar ôl ymgymhwyso.

Bydd Bwrsariaeth y GIG yn rhoi cymorth ar gyfer ffioedd a chostau byw.

Dim ond i fyfyrwyr mae’n eu hystyried yn rhai sy’n perthyn i’r Deyrnas Gyfunol y bydd y GIG yn rhoi cymorth ariannol ar gyfer costau byw.

Gwasanaeth Grantiau Myfyrwyr GIG Cymru sy’n gweinyddu’r ymrwymiadau i weithio yng Nghymru ar ôl ymgymhwyso.  Ar wefan y gwasanaeth, mae amodau a thelerau’r ymrwymo ynghyd â chwestiynau a ofynnir yn aml.  Argymhellir y dylech chi ddarllen yr wybodaeth honno a chysylltu â Gwasanaeth Grantiau Myfyrwyr GIG Cymru ynglŷn ag unrhyw ymholiadau.

Cyrsiau perthnasol

Caiff myfyrwyr y cyrsiau canlynol ofyn i’r GIG am gymorth ariannol ar yr amod eu bod yn ymrwymo i weithio yng Nghymru ar ôl ymgymhwyso:

  • Radiograffeg Ddiagnostig a Delweddu (BSc)
  • Therapi Galwedigaethol (BSc)
  • Nyrsio (BN)
  • Bydwreigiaeth (BMid)
  • Radiotherapi ac Oncoleg (BSc)
  • Ffisiotherapi (BSc)
  • Therapi Deintyddol a Hylendid Deintyddol (BSc)
  • Hylendid Deintyddol (DipHE)
  • Cyn-Gofrestru Ffisiotherapi (MSc)
  • Therapi Galwedigaethol Cyn-cofrestru (MSc)

Cyflwyno cais

Cewch chi gyflwyno cais trwy wefan Gwasanaeth Grantiau Myfyrwyr GIG Cymru ar ôl derbyn cynnig i astudio rhywle.

Bydd Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ac Ysgol Deintyddiaeth yn rhoi gwybod i Wasanaeth Grantiau Myfyrwyr GIG Cymru  am ymgeiswyr sydd wedi derbyn cynnig i astudio yno.

Wedyn, caiff ymgeiswyr ofyn i’r GIG am arian trwy system cyflwyno ceisiadau’r gwasanaeth hwnnw ar y we. Rhoddir i fyfyrwyr sy’n derbyn cynnig i astudio ganllawiau am gyflwyno cais.

Ble bynnag rydych chi yn y DU, rhaid ichi ymgeisio trwy Wasanaeth Grantiau Myfyrwyr GIG Cymru.

Yn rhan o'r cais, byddwch chi’n gofyn am gymorth ar gyfer ffioedd dysgu a threuliau byw.

Nodwch ar eich cais mai’r grant heb brawf modd rydych chi’n gofyn amdano o ran treuliau byw.

Mae'r fwrsariaeth yn cwmpasu'r canlynol:

Er y bydd y fwrsariaeth yn talu'r ffioedd dysgu i gyd, heb asesu’ch incwm, rhaid gofyn am hynny yn benodol yn rhan o’ch cais ar-lein.

Mae tair elfen o gyllid i helpu gyda chostau byw.

Grant y GIG heb asesu incwm

Gallwch wneud cais am Grant y GIG nad yw'n dibynnu ar brawf modd, o hyd at £1,000 y flwyddyn, i helpu gyda chostau byw. Nid oes rhaid ad-dalu Grant y GIG.

Bwrsariaeth wedi’i hasesu yn ôl incwm

Asesir hyn yn ôl incwm eich cartref. Os ydych chi’n bwriadu byw yng nghartref eich rhieni wrth astudio, bydd eich bwrsariaeth yn llai.

Mae uchafswm Bwrsariaeth sylfaenol y GIG fel a ganlyn:

Byw mewn llety myfyrwyr/eich cartref eich hunain  Byw yng nghartref eich rhieni
£2,643£2,207

Mae wythnosau ychwanegol yn ein cyrsiau gofal iechyd ac ychwanegir bwrsariaeth ychwanegol gan y GIG: £84 i bob wythnos ychwanegol os ydych chi'n byw mewn llety myfyrwyr neu eich cartref eich hunain neu £56 i bob wythnos ychwanegol os ydych chi'n byw yng nghartref eich rhieni.

Bydd Bwrsariaeth y GIG yn llai os yw eich incwm dros £24,279 yn ôl yr asesiad. I bob £5,000 dros y trothwy hwnnw, gostyngir Bwrsariaeth y GIG o £526 y flwyddyn.

Incwm eich rhieni neu’ch cymar sydd i’w asesu, yn ôl eich amgylchiadau.  Fydd eich enillion cyn dechrau’r cwrs nac unrhyw arian a gewch chi trwy weithio wrth astudio ddim yn cael eu hasesu.

Fydd incwm eich rhieni ddim yn cael ei asesu os ydych chi’n rhiant sengl, os ydych chi a’ch rhieni wedi ymddieithrio neu os ydych chi’n gallu dangos eich bod wedi’ch cynnal eich hun yn ariannol am dair blynedd cyn dechrau’r cwrs.

Bydd hawl gan fyfyrwyr sy’n rhieni sengl i dderbyn uchafswm Bwrsariaeth y GIG, fel arfer.

Gall wythnosau ychwanegol pob cwrs amrywio o flwyddyn i flwyddyn.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am gyllid y GIG, cysylltwch â’r Tîm Cyngor ac Arian.

Benthyciad i fyfyrwyr ar gyfer treuliau byw

Cewch chi gyflwyno cais ar y we am Fenthyciad Cynhaliaeth trwy Wasanaeth Cyllid y Myfyrwyr yn eich rhan chi o’r deyrnas, hefyd.  Fydd eich incwm ddim yn cael ei asesu ar gyfer y benthyciad. Mae’r tabl isod yn dangos ffigyrau ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022/23. Nid yw ffigyrau 2023/24 wedi eu cadarnhau eto. Unwaith y byddent, byddwn yn diweddaru y dudalen hon.

Myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru cyn y cwrs

Myfyrwyr sy'n byw yn Lloegr cyn y cwrs

Byw oddi cartref eich rhieni

£5,360£2,605

Byw yng nghartref eich rhieni

£4,475 £1,955
 

Ymgeisio trwy Gyllid Myfyrwyr Cymru

Ymgeisio trwy Student Finance England

Bydd y benthyciad yn llai yn ystod y flwyddyn olaf.

Nid yw astudiaethau blaenorol ar lefel addysg uwch ar gwrs nad yw'n cael ei ariannu gan y GIG yn effeithio ar fod yn gymwys ar gyfer Bwrsariaeth y GIG, Grant GIG neu gymorth GIG ar gyfer ffioedd dysgu lle bynnag rydych yn byw yn y DU.

Mae myfyrwyr o Gymru neu o Loegr sydd wedi astudio’n flaenorol sy'n dilyn cwrs gofal iechyd BSc fel y'u rhestrir yn y cyflwyniad, neu'r Diploma mewn Hylendid Deintyddol, yn gymwys i wneud cais gyllid gan y GIG sy’n cynnwys y Benthyciad Cynhaliaeth gostyngol drwy Cyllid Myfyrwyr.  Yr eithriad i hyn yw myfyrwyr o Gymru sy’n astudio Therapi Galwedigaethol Cyn-cofrestru (MSc) a Cyn-Gofrestru Ffisiotherapi (MSc)

nad ydynt yn gymwys ar hyn o bryd i wneud cais am y Benthyciad Cynhaliaeth gostyngol.

Gall myfyrwyr o Loegr sydd â gradd eisoes ddewis ariannu eu cwrs a'u costau cynhaliaeth trwy Gyllid Myfyrwyr NEU gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru.  Ar hyn o bryd, dim ond trwy gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru y gall myfyrwyr o Gymru sydd â gradd eisoes ariannu eu cwrs.

Os ydych yn dod o Ogledd Iwerddon neu'r Alban a'ch bod wedi astudio mewn addysg uwch o'r blaen, holwch eich awdurdod ariannu a ydych yn gymwys ar gyfer y Benthyciad Cynhaliaeth gostyngol.

Mae Caerdydd yn cael ei hystyried yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy'r DU o ran costau byw yn ystod eich astudiaethau. Defnyddiwch ein teclyn cyfrifo costau byw i weld faint mae’n ei gostio i fyw yng Nghaerdydd ar gyfartaledd fel myfyriwr israddedig amser llawn.

Cysylltwch â Swyddfa’r Derbyn Myfyrwyr i holi am unrhyw gymorth allai fod ar gael ynglŷn â threuliau megis lleoliadau a gwisg unffurf yn ystod eich cwrs.

Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd

Ysgol Deintyddiaeth

Cewch chi gyflwyno cais am gymorth ar gyfer treuliau lleoliad trwy’ch ysgol. Gan gynnwys, o ran cyrsiau Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, myfyrwyr o Undeb Ewrop sydd wedi derbyn cymorth ar gyfer ffioedd dysgu yn unig.

Mae cymorth ar gyfer treuliau teithio i leoliad i’w bennu yn ôl pris taith o’ch cartref (lle rydych chi’n byw yn ystod y tymor) i’r fan lle y byddwch chi’n bwrw cyfnod ac yn ôl LLAI pris y daith o’ch cartref (lle rydych chi’n byw yn ystod y tymor) i Brifysgol Caerdydd ac yn ôl (eich taith arferol i’r Brifysgol).

Os bydd rhaid ichi dalu am lety wrth fwrw cyfnod, cewch chi ofyn am gymorth ar yr amod eich bod yn talu am lety lle rydych chi’n byw fel arfer yn ystod y tymor, hefyd.

Cewch chi ganllawiau am gyflwyno cais ar ôl ichi gofrestru.

Mae’r GIG yn cynnig Lwfans Gofal Plant ar gyfer costau gofal plant cofrestredig. Mae’n cynnig 85% o wir gostau gofal plant hyd at uchafswm o £128.78 yr wythnos i un plentyn a £209.95 yr wythnos i ddau o blant neu ragor.  Asesir eich incwm i ddibenion y lwfans hwnnw.

Mae Lwfans Dibynyddion i blant (£2,448* i’r plentyn hynaf a £549 i bob plentyn arall) a Lwfans Dysgu Rhieni (£1,204) ar gael trwy’r GIG hefyd, i roi peth cymorth ychwanegol i fyfyrwyr sy’n rhieni.

Gall incwm net cymar ostwng pob lwfans i blant bunt am bunt ar ôl cymryd i ystyriaeth unrhyw ran o’r incwm sydd i’w diystyru.

Bydd hawl gan fyfyrwyr sy’n rhieni sengl i dderbyn uchafswm y cymorth ychwanegol, fel arfer.

(*Os oes hawl gyda chi i gael Grant Dibynyddion o Oedolion, £549 i bob plentyn fydd Lwfansau’r Dibynyddion ynglŷn â phlant.)

Cewch chi ofyn am Grant Dibynyddion o Oedolion os oes gyda chi gymar neu oedolyn arall, megis rhywun rydych chi’n gofalu amdano, sy’n dibynnu arnoch chi yn ariannol.  Pennir y swm yn ôl asesiad o incwm eich cartref.

Os oes angen cymorth dysgu arnoch chi ynglŷn ag anabledd, cyflwr iechyd corfforol neu feddyliol tymor hir neu anhawster dysgu penodol, mae lwfans ar gyfer costau cysylltiedig cymorth o’r fath (heb ofyn i asesu’ch incwm na gofyn i’w ad-dalu).

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'n tîm Anabledd a Dyslecsia - studentconnect@caerdydd.ac.uk.

Dylech chi ofyn am y lwfans hwnnw yn rhan o’ch cais trwy wefan Gwasanaeth Grantiau Myfyrwyr GIG Cymru.

Fydd dim hawl gan fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel i dderbyn cymorth ariannol o’r GIG, fel arfer.  Mae gan Ynysoedd y Sianel eu trefn ariannu eu hunain.  Argymhellir y dylech chi gysylltu â swyddfeydd derbyn myfyrwyr Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd neu Ysgol Deintyddiaeth i ymholi ynghylch proses cyflwyno’r cais am eich cwrs ac unrhyw gymorth y gallai’r ysgol ei gynnig ar gyfer costau perthnasol megis lleoliadau a gwisg unffurf.

Rhaid i fyfyrwyr yr UE sy'n dechrau cyrsiau ar 1 Awst 2021 neu ar ôl hynny feddu ar statws sefydlog neu cyn dod yn breswylydd yn y DU o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE i fod yn gymwys i gael statws ffioedd dysgu cartref y DU a gwneud cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer ffioedd dysgu.

Mae dinasyddion Gwyddelig yn gymwys i gael statws ffioedd dysgu gartref yn y DU ac yn cael gwneud cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer ffioedd dysgu o dan drefniant yr Ardal Deithio Gyffredin.

Rhaid i ddinasyddion Gwyddelig a myfyrwyr yr UE sy'n gymwys i gael cyllid Bwrsariaeth y GIG ymrwymo cyn y cwrs i weithio yng Nghymru ar ôl ymgymhwyso. Gweler Telerau ac Amodau'r ymrwymiad hwn ar wefan Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr GIG Cymru.

Cael cymorth

Cysylltwch â'r Tîm dros Gynghori ac Arian ynglŷn ag unrhyw ymholiadau am ariannu’ch cwrs:

Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr