Ewch i’r prif gynnwys

Ariannu’ch cwrs gofal iechyd

Ceir dau lwybr cyllido i fyfyrwyr gofal iechyd: Cyllid y GIG i'r rheini sy'n ymrwymo i weithio yng Nghymru ar ôl ymgymhwyso, neu gyllid gan Gyllid Myfyrwyr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd Bwrsariaeth y GIG yn parhau i fod ar gael i fyfyrwyr newydd sy'n dechrau rhwng mis Medi 2023 a mis Mawrth 2024.

Cwrs dysgu cyfunol rhan amser Dychwelyd i Ymarfer (Nyrsio)

Mae'r cyllid ar gyfer y cwrs byr hwn yn wahanol i gyrsiau gofal iechyd eraill ac yn dibynnu ar le rydych yn byw cyn dechrau'r cwrs.

Gwybodaeth am gyllid i fyfyrwyr cartref sydd fel arfer yn byw yng Nghymru

Ar gyfer ymgeiswyr sydd fel arfer yn byw yng Nghymru, ac sy'n gymwys i gael cyllid ffioedd y DU dan y meini prawf hyn, mae'r ffioedd dysgu ar gyfer y cwrs hwn fel arfer yn cael eu talu gan GIG Cymru. Nid oes unrhyw ymrwymiad i weithio yng Nghymru i'r GIG yn dilyn y cwrs hwn.

Yn ogystal, mae bwrsariaeth y GIG o £1,000 nad oes rhaid ei had-dalu ar gael i helpu gyda chostau byw. Gall myfyrwyr sydd â phlant ifanc hefyd fod yn gymwys i gael cymorth drwy Grant Gofal Plant y GIG sy'n seiliedig ar brawf modd.

Trefnir y cyllid ar gyfer y cwrs hwn drwy Swyddfa Gyllid Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd. Am ymholiadau pellach am y cwrs Dychwelyd i Ymarfer hwn anfonwch e-bost i HCAREBursaries@caerdydd.ac.uk

Gwybodaeth am gyllid i fyfyrwyr nad ydynt fel arfer yn byw yng Nghymru gan gynnwys y rhai sy'n preswylio mewn mannau eraill yn y DU, o'r UE, AEE, y Swistir a phob myfyriwr rhyngwladol (tramor).

Os nad ydych fel arfer yn byw yng Nghymru a/neu os oes gennych statws ffioedd tramor, ni allwch wneud cais am y cwrs hwn.

Cael cymorth

Cysylltwch â'r Tîm Cynghori ac Arian ynglŷn ag unrhyw ymholiadau am ariannu’ch cwrs:

Tîm Cyngor a Chyllid Myfyrwyr