Ewch i’r prif gynnwys

Graddau Meistr

Gyda blwyddyn arall yn ychwanegol i'ch gradd Baglor, bydd gradd meistr yn rhoi cyfle i chi fynd dan groen eich pwnc.

Rydym yn cynnig nifer o raddau meistr gwahanol. Nodwch y gall eich ysgol academaidd gynnig mwy nag un math o radd:

MArch

Mae gradd Meistr mewn Pensaernïaeth yn cael ei dyfarnu i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau eu hastudiaethau pellach yn y pwnc. Mae'r graddau'n cael eu dyfarnu gan Ysgol Pensaernïaeth Cymru

MChem

Mae gradd Meistr mewn Cemeg yn cael ei dyfarnu i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau eu hastudiaethau pellach mewn cemeg. Mae'r graddau'n cael eu dyfarnu gan yr Ysgol Cemeg.

MEng

Mae gradd Meistr mewn Peirianneg yn cael ei dyfarnu i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau eu hastudiaethau pellach mewn peirianneg. Mae'r graddau'n cael eu dyfarnu gan yr Ysgol Peirianneg

MESci

Mae gradd Meistr yn y Gwyddorau Daear yn cael ei dyfarnu i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau eu hastudiaethau pellach mewn gwyddorau'r ddaear. Mae'r graddau'n cael eu dyfarnu gan Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd.

MMath

Mae gradd Meistr mewn Mathemateg yn cael ei dyfarnu i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau eu hastudiaethau pellach mewn mathemateg. Mae'r graddau'n cael eu dyfarnu gan yr  Ysgol Mathemateg.

MPharm

Mae gradd Meistr mewn Fferylliaeth yn cael ei dyfarnu i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau eu hastudiaethau pellach mewn fferylliaeth. Mae'r graddau'n cael eu dyfarnu gan yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol 

MPhys

Mae gradd Meistr mewn Ffiseg yn cael ei dyfarnu i fyfyrwyr sy'n cwblhau eu hastudiaethau pellach mewn Ffiseg. Mae'r graddau'n cael eu dyfarnu gan yr  Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth