Ewch i’r prif gynnwys

Cyrsiau Rhagarweiniol neu Gyrsiau Sylfaen

Mae amryw o gyrsiau rhagarweiniol ar gael i fyfyrwyr sydd heb gael y canlyniadau angenrheidiol i lwyddo yn eu pynciau Lefel A neu AS i ymuno â blwyddyn gyntaf cynllun gradd.

Blwyddyn mynediad

CwrsCod UCASFfurf
Optometreg Blwyddyn Ragarweiniol (MOptom) B514 Amser llawn
Peirianneg gyda Blwyddyn Sylfaen (BEng) H101 Amser llawn

Ymholiadau ynghylch cael eich derbyn

Os ydych yn cyflwyno cais i wneud rhaglen radd sy’n cynnwys Blwyddyn Ragarweiniol neu Sylfaen, dylech wneud cais drwy UCAS. Rhaid i chi fodloni’r Tiwtor Derbyn priodol eich bod yn gymwys i ddilyn rhaglen radd. Nid yw’r Flwyddyn Ragarweiniol yn llwybr fel rheol i fyfyrwyr sydd wedi methu â sicrhau’r graddau angenrheidiol yn eu pynciau Safon Uwch.

Ar gyfer manylion am ofynion mynediad i’ch rhaglen astudio ddewisol, cysylltwch â’r tiwtor derbyn berthnasol- gallwch weld gwybodaeth cysylltu ar dudalennau’r Ysgol academaidd berthnasol.

Blwyddyn Sylfaen Peirianneg

Mae'r Ysgol Peirianneg yn cynnig rhaglen Blwyddyn Sylfaen sydd wedi'i chynllunio i roi digon o'r wybodaeth sylfaenol angenrheidiol i'r myfyrwyr iddyn nhw allu ymdopi â chynllun gradd mewn peirianneg. Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn cynnwys yr agweddau ar fathemateg, ffiseg a thechnoleg gwybodaeth sy'n berthnasol i beirianneg.

Cysylltu

Os oes gennych chi ymholiad cyffredinol ynghylch Blwyddyn Sylfaen Peirianneg, cysylltwch â:

Swyddfa derbyn myfyrwyr yr Ysgol Peirianneg