Ewch i’r prif gynnwys

Rhaglen Astudio Saesneg ar gyfer Prifysgol

Mae'r rhaglen hon yn gwrs amser-llawn mewn Saesneg academaidd i fyfyrwyr rhyngwladol a rhai o'r UE sydd angen dod yn fwy rhugl yn y Saesneg er mwyn astudio mewn prifysgol yn y DU.

Cynhelir y rhaglen o fis Medi i fis Mehefin, ac mae modd dechrau ym mis Medi, mis Ionawr neu fis Mai, felly gall myfyrwyr ymuno â'r rhaglen ar y lefel sydd fwyaf addas ar gyfer eu sgiliau Saesneg.

Mae myfyrwyr sy'n astudio'r rhaglen yn elwa ar gwrs iaith Saesneg dwys sy'n canolbwyntio ar y byd academaidd, a fydd yn eu helpu i baratoi i bontio'n ddidrafferth i'w hastudiaethau academaidd ar lefel sylfaen, israddedig neu ôl-raddedig gyda ni neu sefydliad arall yn y DU.

Rhagor o wybodaeth a lawrlwytho ffurflen gais.