Ewch i’r prif gynnwys

Cymraeg a Cherddoriaeth (BA)

  • Meysydd pwnc: Cerddoriaeth, Cymraeg
  • Côd UCAS: QW53
  • Derbyniad nesaf: Medi 2024
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn
Welsh students

Pam astudio'r cwrs hwn

certificate

Yr offeryn o’ch dewis

Cyrhaeddwch eich llawn botensial drwy hyfforddiant offerynnol sydd wedi'i ariannu'n llawn.

structure

Cysylltiadau’r Brifddinas

Lleoliad delfrydol gyda chysylltiadau â sefydliadau diwylliannol, gwleidyddol, treftadaeth a chyfryngau i'ch helpu ar eich ffordd.

people

Cymuned lewyrchus

Gwnewch gysylltiadau drwy Undeb Myfyrwyr Cymru, neuaddau preswyl Cymraeg a'r Academi Gymraeg newydd.

people

Interniaethau yn y diwydiant cerddoriaeth

Cysylltwch â cherddorion drwy weithdai cyfansoddi; dosbarthiadau meistr perfformio, a chyfresi o gyngherddau.

structure

Lleoliad gwaith yn y diwydiant cerddoriaeth

Dysgwch am yr hyn sydd gan y diwydiant cerddoriaeth i'w gynnig gyda lleoliad gwaith.

Mae gradd Cydanrhydedd Cerddoriaeth a Chymraeg yn gyfle i arbenigo mewn dau bwnc anrhydedd yn y Brifysgol.

Drwy gyfuno Cymraeg a Cherddoriaeth, byddwch yn ennill cyfoeth o wybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy, gan agor drysau i amrywiaeth o yrfaoedd. Gallech brofi bod gradd gydanrhydedd yn eich symbylu ac yn rhoi boddhad i chi, wrth i chi sylwi ar nodweddion tebyg a gwahaniaethau rhwng y ddau bwnc. Yn aml, ceir materion a safbwyntiau ategol sy’n cysylltu’r pynciau, p’un a ydynt yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destun hanesyddol, neu’n ymchwil ddiweddar.

Mae’r cwrs Cymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei gyflwyno gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth academaidd ac ymarferol drylwyr o’r Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ysgrifenedig a llafar yn y Gymraeg, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern.

Mae rhaglenni israddedig yn yr Ysgol Cerddoriaeth yn hyblyg ac yn heriol, gan roi cyfle i chi arbenigo a datblygu eich diddordebau eich hun ochr yn ochr â chael eich trwytho ym meysydd estheteg cerddoriaeth, dadansoddi, cyfansoddi, ethnogerddoreg, hanes cerddoriaeth, a pherfformiad. Mae lleoliad yr ysgol yn ychwanegu’n fawr at ei apêl ar gyfer selogion cerddoriaeth, gan fod Caerdydd yn lleoliad gwych ar gyfer astudio cerddoriaeth yn y DU: mae gan y ddinas gwmni opera proffesiynol, Opera Cenedlaethol Cymru a Cherddorfa Symffoni broffesiynol, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae’r Ysgol Cerddoriaeth yn mwynhau perthynas gynhyrchiol gyda'r ddau sefydliad sy'n caniatáu, er enghraifft, i fyfyrwyr fynd i ymarferion gwisg a phrynu tocynnau rhad ar gyfer cyngherddau.

Maes pwnc: Cerddoriaeth

  • academic-schoolYr Ysgol Cerddoriaeth
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4392
  • Marker31 Heol Corbett, Cathays, Caerdydd, CF10 3EB

Maes pwnc: Cymraeg

  • academic-schoolYsgol y Gymraeg
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 5594
  • MarkerRhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

BBB-BBC. Rhaid cynnwys gradd B mewn Cerddoriaeth a Chymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

31-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd 6 mewn Mathemateg Lefel Uwch. Rhaid i chi hefyd feddu ar gymhwyster Cymraeg sy'n cyfateb i radd B ar lefel Safon Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

D mewn Tystysgrif BTEC mewn unrhyw bwnc, gradd B mewn Cerddoriaeth Safon Uwch, a gradd B mewn Cymraeg (Iaith Gyntaf neu Ail Iaith).

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,700 Dim
Blwyddyn dau £22,700 Dim
Blwyddyn tri £22,700 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Oni bai am eich prif offeryn astudio, ni fydd angen unrhyw offer penodol.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2024. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2024 i ddangos y newidiadau.

Mae hon yn radd tair blynedd amser llawn, sy’n cynnwys 120 o gredydau'r flwyddyn, wedi’u rhannu’n gyfartal rhwng 60 credyd mewn Cymraeg a 60 credyd mewn Cerddoriaeth.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Byddwch chi’n astudio 120 i gyd, 60 credyd Cymraeg a 60 credyd Cerddoriaeth.

Mae'r pwyslais ym mlwyddyn un ar ddatblygu sgiliau allweddol (ieithyddol, dadansoddol, creadigol ac o ran cyflogadwyedd) ym meysydd iaith a llenyddiaeth, ac mae pob myfyriwr yn dilyn nifer benodol o fodiwlau gyda nifer briodol o oriau cyswllt. Bydd yr Ysgol hefyd yn gwneud trefniadau ychwanegol i fyfyrwyr ail iaith ddatblygu ac ymarfer eu sgiliau iaith.

Ar gyfer y llwybr iaith gyntaf y modiwlau craidd yw:

  • Iaith ac Ystyr
  • Awdur, Testun a Darllenydd
  • Y Gymraeg yn y Gymru Gyfoes

Ar gyfer y llwybr ail iaith y modiwlau craidd yw:

  • Sgiliau iaith
  • Sgiliau Astudio Llenyddiaeth
  • Yr Iaith Gymraeg heddiw

Mae blwyddyn gyntaf y cwrs Cerddoriaeth yn eich paratoi i fanteisio ar fuddion creadigol a deallusol addysg uwch. Mae’n cynnig hyfforddiant creiddiol mewn dadansoddi, harmoni a gwrthbwynt, hanes cerddoriaeth, cyfansoddi a gallu cerddorol ymarferol. Mae pob myfyriwr BA yn cael rhwydd hynt i ddewis o'r pynciau hyn, os ydynt r gael.

I ategu eich astudiaethau academaidd, rydych chi’n cael eich annog i ymuno â Chôr neu Gerddorfa’r Brifysgol ac ensembles eraill.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Sgiliau Astudio LlenyddiaethCY151320 Credydau
Sgiliau IaithCY151520 Credydau
Y Gymraeg HeddiwCY151620 Credydau
Iaith ac YstyrCY160020 Credydau
Awdur, Testun a DarllenyddCY160120 Credydau
Y Gymraeg yn y Gymru GyfoesCY160220 Credydau
Cyfansoddiad 1AMU111320 Credydau
Technegau mewn Cerddoriaeth Jazz a PhoblogaiddMU120120 Credydau
Cyfansoddiad 1BMU121320 Credydau
Elfennau o Theori TonalMU131120 Credydau
Ysgrifennu am GerddoriaethMU131220 Credydau
Cerddoriaeth fel DiwylliantMU132020 Credydau
Astudiaethau Achos mewn Hanes CerddoriaethMU132120 Credydau
Portffolio Ymarferol IMU132220 Credydau
Cerddor Ymarferol 1MU132520 Credydau

Blwyddyn dau

Byddwch chi’n astudio 60 credyd Cymraeg a 60 credyd Cerddoriaeth.

Ym mlwyddyn dau’r Gymraeg, byddwch yn adeiladu ar y sgiliau a'r wybodaeth a gawsoch ym mlwyddyn un. Ym mlwyddyn dau, mae elfennau ieithyddol craidd y cwrs yn canolbwyntio ar sgiliau iaith o fewn cyd-destun galwedigaethol ac academaidd, ac yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn feunyddiol.

Ochr yn ochr â’r elfennau craidd hyn, mae’r cwrs Cymraeg yn cynnig modiwlau dewisol ym mlwyddyn dau a blwyddyn tri yn iaith, llenyddiaeth a diwylliant y Gymraeg, gan gynnwys sawl un sy'n uniongyrchol berthnasol i feysydd cyflogaeth, fel cynllunio iaith, sgriptio a chyfieithu.

Mewn Cerddoriaeth, mae cyrsiau'n fwy datblygedig a byddwch yn canolbwyntio ar bynciau mwy arbenigol, gan ddewis o blith pedwar grŵp: astudiaethau cyfansoddi ac electroacwstig, cerddoriaeth ysgrifenedig ac ymarferol, sgiliau dadansoddol a beirniadol, ac astudiaethau hanesyddol. Lluniwyd ein modiwlau blwyddyn dau, Busnes Cerddoriaeth I/II, i’ch helpu i ddeall gwahanol ganghennau o’r proffesiwn cerddoriaeth yn well ac i roi cyfle i chi gael lleoliad byr mewn maes sy’n ymwneud â cherddoriaeth neu’r celfyddydau, naill ai mewn un bloc neu ar ffurf cyfres o ymweliadau rheolaidd â gweithle.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Yr Iaith ar WaithCY220520 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cymraeg ProffesiynolCY221520 Credydau
Myrddin a MerlinCY235020 Credydau
Rhyddiaith DdiweddarCY241020 Credydau
Cynllunio Ieithyddol a Pholisi IaithCY261020 Credydau
Tu Hwnt i'r TudalenCY270220 Credydau
Canu'r Gymru Newydd: Barddoniaeth er 1990CY281020 Credydau
Caffael IaithCY291020 Credydau
From Palaces to Proms: A History of Performance Practices (1700-1890)MU212420 Credydau
Cerddoriaeth 1MU214120 Credydau
Cyfansoddiad 2AMU214220 Credydau
Swyddogaethau Ffurfiol yn y Traddodiad ClasurolMU215720 Credydau
CerddorfaMU216120 Credydau
Darllen Sain FfilmMU218120 Credydau
Cerddoriaeth yn Ffrainc ers 1900MU221220 Credydau
Cyfansoddiad 2BMU223320 Credydau
Technegau Stiwdio 1MU223520 Credydau
Ethnogerddoleg 2: Cerddoriaeth mewn Persbectif Traws-DdiwylliannolMU227120 Credydau
Cerddoriaeth 2MU227220 Credydau
Dadansoddi Cerddoriaeth yr 20fed GanrifMU229120 Credydau
Portffolio Ymarferol 2MU230120 Credydau
Cerddor Ymarferol 2MU236120 Credydau

Blwyddyn tri

Byddwch chi’n astudio 60 credyd Cymraeg a 60 credyd Cerddoriaeth.

Yn Gymraeg, mae'n rhaid dewis un o'r modiwlau a ganlyn:

  • Blas ar Ymchwil
  • Ymchwilio Estynedig

Mae gennych ddewis o draethawd neu brosiect 5,000 gair (20 credyd) neu 9,000 gair (40 credyd), i’w gwblhau o dan arweiniad aelod o staff sy’n arbenigwr yn y maes perthnasol. Gall hyn arwain at ymchwil pellach neu ddarparu arddangosfa effeithiol amdanoch i gyflogwyr posibl. Byddwch hefyd yn dewis rhagor o fodiwlau dewisol.

O ran Cerddoriaeth, fe fyddwch chi unwaith eto’n dewis o blith y pedwar grŵp pwnc, a gallwch fynd ar drywydd un o'r tri phrosiect academaidd o bwys: Traethawd Hir, Prosiect mewn Ethnogerddoreg, neu Brosiect mewn Dadansoddi Cerddoriaeth.

Cewch gwblhau portffolio cyfansoddiadau byr (Cyfansoddi IV) a/neu ddatganiad 'agored' o flaen arholwyr a chynulleidfa a wahoddir (Dawn Gerddorol Ymarferol IV).

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Myrddin a MerlinCY335020 Credydau
Rhyddiaith DdiweddarCY341020 Credydau
Cynllunio Ieithyddol a Pholisi IaithCY361020 Credydau
Yr Ystafell DdosbarthCY366020 Credydau
Tu Hwnt i'r TudalenCY370220 Credydau
Cyfieithu ProffesiynolCY370520 Credydau
Canu'r Gymru Newydd: Barddoniaeth er 1990CY381020 Credydau
Blas ar YmchwilCY390020 Credydau
Ymchwilio EstynedigCY390540 Credydau
Caffael IaithCY391020 Credydau
Traddodiad Heriol: Gwrthbwynt o Bartok i BartschMU312020 Credydau
EnsembleMU313820 Credydau
Genedigaeth ModerniaethMU316520 Credydau
Jazz, Diwylliant a GwleidyddiaethMU317120 Credydau
Technegau Stiwdio 2MU317620 Credydau
Opera Eidalaidd o'r bedwaredd ganrif ar bymthegMU321420 Credydau
Beethoven: Arddull, Ffurf a DiwylliantMU321720 Credydau
Portffolio Ymarferol 3MU330120 Credydau
Cerddor Ymarferol 3MU330220 Credydau
Traethawd hirMU335140 Credydau
Cyfansoddiad 3MU335340 Credydau
Prosiect mewn Dadansoddi CerddoriaethMU335740 Credydau
Prosiect yn EthnomusicologyMU335840 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae’r radd wedi’i seilio ar ystod o fodiwlau craidd (gorfodol) a dewisol. Cefnogir pob modiwl gan ddeunyddiau addysgu electronig a rennir trwy wefan Dysgu Canolog, rhan o amgylchedd dysgu rhithiol y Brifysgol.

Rydym yn cynnig addysg gyffrous a heriol er mwyn eich helpu i lwyddo mewn amgylchedd cystadleuol. Ymchwil sy'n llywio ac yn arwain ein haddysgu, felly byddwch yn dysgu am y syniadau diweddaraf gan ysgolheigion sy’n cyfrannu at ddatblygiad eu meysydd arbenigol.

O ran radd yn y Gymraeg, bydd yr addysgu’n digwydd drwy gyfrwng darlithoedd a seminarau fel arfer. Mae hyn yn rhoi cyfle ichi drafod y pwnc o dan sylw yn fanwl mewn grwpiau, gyda’r holl fodiwlau yn yn cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Fodd bynnag, mae rôl allweddol i sesiynau tiwtorial un-i-un, gweithdai a dosbarthiadau iaith hefyd (yn enwedig ar gyfer y myfyrwyr sy'n dilyn y llwybr ail iaith).

Mae dulliau addysgu yn y modiwlau Cerddoriaeth yn cynnwys darlithoedd, seminarau, sesiynau ymarferol, tiwtorialau un i un, ymarferion a hyfforddiant offerynnol. Byddwch hefyd yn ymgymryd ag astudiaeth a gwaith ymchwil annibynnol, dan arweiniad tiwtoriaid.

Sut y caf fy nghefnogi?

Yn ogystal â chael adborth rheolaidd gan eich tiwtor personol ym mhob cwrs, bydd gennych wythnos ddarllen bob semester ar gyfer astudio dan arweiniad a chyfle i ddal i fyny ar waith a asesir, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor.

Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, adborth mewn darlithoedd a seminarau, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.

Bydd y gwaith cwrs yn cael ei farcio gan diwtor eich modiwl fel arfer ac fe gewch adborth ysgrifenedig ar eich gwaith. Byddwch hefyd yn cael dosbarth adborth ar ôl pob asesiad. Bydd myfyrwyr yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun hunan asesu myfyrwyr sy’n cael ei fonitro.

Sut caf fy asesu?

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, portffolios, ac aseiniadau creadigol.

Mae traethodau ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid yn unig at ddibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu eich galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o amrywiol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol. Mae gweithdai pwrpasol ar draethodau a chyngor unigol yn eich galluogi chi i greu eich gwaith gorau, ac mae adborth ysgrifenedig ar draethodau’n cyfrannu at waith y dyfodol, gan eich galluogi chi i ddatblygu eich cryfderau a mynd i’r afael ag unrhyw feysydd y dylid eu cryfhau.

Mae traethawd hir dewisol y flwyddyn olaf yn rhoi cyfle ichi ymchwilio’n drylwyr i bwnc penodol sydd o ddiddordeb i chi, gan ennyn gwybodaeth fanwl am faes astudio penodol; defnyddio eich menter wrth gasglu a chyflwyno deunydd; ynghyd â chyflwyno dadl glir a chadarn a llunio casgliadau priodol.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd i chi:

  • deall pynciau cymhleth gyda hyder
  • gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth
  • cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
  • nodi a defnyddio data perthnasol
  • datblygu sgiliau ymchwil ymarferol
  • cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
  • cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • gweithio yn ôl terfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • dysgu yn sgîl beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau
  • gweithio’n rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
  • Cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Mae'r radd yn arbennig o addas ar gyfer y rhai sydd am gael gyrfa ym myd addysg neu academia, neu’r celfyddydau, ond gall arwain yr un mor effeithiol at fathau eraill o gyflogaeth i raddedigion neu ddarparu sylfaen ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig.

Yn sgil y galw am bobl sy’n medru’r Gymraeg, mae gradd yn y Gymraeg yn gallu bod yn gymhwyster hynod werthfawr ar gyfer rolau sy’n gofyn am siaradwyr dwyieithog. Mae llawer o’n graddedigion bellach yn dilyn gyrfaoedd mewn meysydd megis y gyfraith, gwleidyddiaeth, y cyfryngau, y celfyddydau perfformio, gweinyddiaeth ac addysg ar bob lefel.

Mae sgiliau cyflogadwyedd yn rhan o'r modiwlau yn yr Ysgol Cerddoriaeth fel eich bod yn dysgu sgiliau sy'n benodol i gerddoriaeth a sgiliau academaidd hefyd y mae modd eu trosglwyddo i feysydd eraill, yn enwedig i'r gweithle. Mae'r sgiliau sy'n cael eu datblygu drwy ddilyn gradd mewn Cerddoriaeth yn helpu'n myfyrwyr i symud ymlaen i amrywiaeth o yrfaoedd, yn y proffesiwn cerddoriaeth a thu hwnt.

Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i gael gyrfa gyda’r BBC, Cynghorau Celfyddydau, Glyndebourne Opera, Opera Cenedlaethol Lloegr, prifysgolion, Oxford University Press, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a’r London Symphony Orchestra, ynghyd ag amrywiaeth o sefydliadau diwydiannol, masnachol ac elusennol eraill.

Lleoliadau

Mae blwyddyn dau yn cynnwys cyfnod o brofiad gwaith mewn gweithle lle defnyddir y Gymraeg yn feunyddiol. Mae'r cyfnod hwn o brofiad gwaith yn rhan o raglen o ddigwyddiadau wedi'u cynllunio i ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a gyrfa.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 50% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.