Ewch i’r prif gynnwys

Cynllunio a Datblygu Trefol (BSc)

Pam astudio'r cwrs hwn

microchip

Gwella eich sgiliau

Datblygwch eich sgiliau technegol ac ymarferol gyda meddalwedd gan gynnwys GIS (System Gwybodaeth Ddaearyddol) a mapio Edina digimap.

certificate

Cydnabyddiaeth broffesiynol

Achrededig gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) a Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS).

notepad

Astudiaethau maes

Ymweliadau maes a modiwlau astudio maes i gymhwyso dysgu i gyd-destunau'r byd go iawn a datblygu sgiliau ymarferol.

structure

Diffinio'r dyfodol

Gwella ansawdd mannau trefol drwy roi cynaladwyedd cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd wrth wraidd cynllunio.

briefcase

Cyfleoedd am leoliad gwaith

Datblygwch y sgiliau, yr hyder a’r cysylltiadau i gyflymu eich gyrfa.

Beth allai fod yn fwy cyffrous na’r her a’r cyfrifoldeb o lunio’r lleoedd rydym yn byw, yn gweithio ac yn chwarae ynddynt?

Mae’r rhaglen hon, a achredir gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) a’i chydnabod gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) fel cymhwyster gofodol, yn canolbwyntio ar heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol creu gwell lleoedd i fyw.

Mae gwaith cynllunio yn effeithio ar ein realiti bob dydd mewn sawl ffordd, gan ddylanwadu ar y cartrefi rydym yn byw ynddynt ac ansawdd ac argaeledd cyfleoedd a all hybu ein hiechyd, ein cyfoeth a’n llesiant. Gall effeithio ar ein mannau cyhoeddus a chymunedol a’n mannau proffesiynol a hamdden, yn ogystal ag ar sut rydym yn teithio ac yn symud rhyngddynt. Byddwch yn archwilio sut a pham mae lleoedd, megis dinasoedd, trefi a chefn gwlad, yn newid a sut y gellir eu gwella trwy ymarfer cynllunio ac ymchwil.

Mae'r rhaglen hon yn agor ystod eang o gyfleoedd gyrfa cyffrous ym maes cynllunio, datblygu a thirfesur. Mae gan raddedigion hanes da o sicrhau cyflogaeth yn y sectorau hyn yn ogystal ag ym meysydd trafnidiaeth, datblygu economaidd, polisi amgylcheddol, ac adfywio tai a threfi.

Gyda modiwlau sy’n cynnwys ymarferwyr, cewch gyfle hefyd i ddeall sut mae’r hyn rydych yn ei ddysgu’n berthnasol i’r byd go iawn ac i ystyried y ffyrdd y gallwch ddatblygu eich cyflogadwyedd a’ch proffil proffesiynol.

Mae gwaith maes a dysgu drwy brofiad yn agweddau allweddol yn natblygiad gwybodaeth a sgiliau israddedig yn y ddisgyblaeth Cynllunio. Mae'r rhaglen hon yn cynnig ystod o gyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu'r set wybodaeth a sgiliau hon, gan gynnwys ymweliadau maes 1 neu 1/2 ddiwrnod yn ystod modiwlau; asesiadau casglu a dadansoddi data grŵp; a modiwlau astudiaethau maes pwrpasol ym Mlwyddyn 2 a’r Flwyddyn Olaf.

Mae gan y radd hon achrediad RTPI rhannol (gofodol). I gael achrediad RTPI llawn, ar ôl i chi gwblhau eich gradd israddedig achrededig gofodol, mae angen i chi gwblhau gradd Meistr achrededig RTPI.

Achrediadau

Maes pwnc: Daearyddiaeth ddynol a chynllunio

  • academic-schoolYr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4022
  • MarkerRhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3WA

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

ABB-BBB

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc HL.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Haen 4 arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C/4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae amodau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnydd o'r rhyngrwyd ac offer/dyfeisiau cyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Teithio a Thwristiaeth. Byddwn yn ystyried BTECs mewn pynciau amgen ochr yn ochr â chymwysterau academaidd eraill ac unrhyw brofiad gwaith neu wirfoddolwr perthnasol.

Lefel T

M mewn Dylunio Lefel T, arolygu a chynllunio ar gyfer adeiladu.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,950 Dim
Blwyddyn dau £22,950 Dim
Blwyddyn tri £22,950 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Mae profiad astudio maes preswyl blwyddyn 2 yn cael ei ariannu’n rhannol.

Ar hyn o bryd, mae ymweliadau astudiaethau maes y flwyddyn olaf yn cael cymhorthdal (tua dwy ran o dair o'r gost) gan yr Ysgol, ond chi fydd yn gyfrifol am weddill y costau.

Dylech ddisgwyl talu costau teithio lleol a chynhaliaeth ar bob ymweliad astudiaeth faes.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Gradd tair blynedd amser llawn yw hon. Mae modiwlau blwyddyn un yn orfodol. Mae blwyddyn dau a thri yn cynnwys modiwlau gorfodol a dewisol. Bydd angen i chi ennill 120 o gredydau bob blwyddyn. Mae modiwlau’n werth 20 credyd fel arfer.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Mae lleoliadau blwyddyn un yn rhoi pwyslais ar brosiectau ymarferol a chymhwysol wrth gyflwyno blociau adeiladu allweddol gradd cynllunio a datblygu.

Byddwch yn dewis chwe modiwl craidd, â’r nod o ddatblygu dealltwriaeth o’r prosesau cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a naturiol sydd ar waith wrth ffurfio dinasoedd, rhanbarthau a chefn gwlad.

Cewch gyflwyniad i’r sgiliau dadansoddol a chreadigol angenrheidiol mewn ymarfer proffesiynol a byddwch yn elwa ar waith maes a phrosiectau ar safleoedd i weithio ar broblemau cynllunio ‘byw.’ Mae arbenigwyr o ymarfer proffesiynol hefyd yn ymwneud â’r gwaith o gyflwyno llawer o fodiwlau.

Er y bydd angen i chi ennill 120 o gredydau, blwyddyn gyflwyniadol yw blwyddyn un ac nid yw’r modiwlau’n cyfrif tuag at radd eich gradd derfynol.

Blwyddyn dau

Mae blwyddyn dau’n adeiladu ar y wybodaeth graidd a ddysgwyd yn y flwyddyn gyntaf ac yn eich annog i gymhwyso eich sgiliau i gyfres o broblemau ymarferol sy’n ymwneud â chynllunio a datblygu. Rhoddir pwyslais parhaus ar gymysgedd o fathau o asesu, gan gynnwys gwaith prosiect ac aseiniadau sy'n gofyn ichi gynhyrchu datrysiadau ac allbynnau proffesiynol.

Cewch gyflwyniad i gynlluniau, polisïau a rheoli datblygu, cynllunio amgylcheddol, cynllunio a’i weithredu mewn cyd-destunau marchnad, gweithrediad llywodraeth leol, dadansoddiad gofodol, sgiliau ymchwil a chydrannau hanfodol cyfraith cynllunio.

Ym mlwyddyn dau, fe'ch cefnogir gydag arweiniad a chyngor ar yr opsiwn i ymgymryd â blwyddyn ar leoliad gwaith fel rhan o'ch gradd, a wneir fel arfer yn y drydedd flwyddyn. Dyma ran hynod werthfawr o’r cwrs ac mae’n rhoi ystod eang o sgiliau ymarferol a phrofiad proffesiynol i chi. Gallwch newid i’r rhaglen pedair blynedd, gyda chymeradwyaeth.

Blwyddyn tri

Mae eich blwyddyn olaf yn gyfle gwerthfawr i fyfyrio ar yr hyn a ddysgwyd hyd yn hyn, ac yn eich galluogi i ddechrau datblygu arbenigedd mewn is-bwnc cynllunio penodol. Mae’n rhan bwysig o’r cwrs wrth bontio’r bydoedd ymarfer ac astudiaeth academaidd.

Rhoddir pwyslais ar ddatblygu rhinweddau ymarferydd beirniadol a myfyriol a’ch annog chi i feddwl yn ofalus am natur, offer ac effeithiau cynllunio.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae ein hymagwedd yn seiliedig ar ymrwymiad i ddarparu addysg o’r ansawdd uchaf. Cyn belled ag y bo modd, ein nod yw dysgu mewn grwpiau bach gan ein bod yn credu bod hyn yn annog amgylchedd dysgu mwy cadarnhaol rhwng staff a myfyrwyr ac ymysg myfyrwyr eu hunain. Fel arfer, byddwch yn astudio chwe modiwl bob blwyddyn ac yn cael 15 awr o astudio dan arweiniad bob wythnos.

Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill sgiliau amrywiol a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Rydym hefyd yn eich helpu i ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.

Sut y caf fy nghefnogi?

Yn ogystal â chael adborth rheolaidd gan eich tiwtor personol ym mhob cwrs, bydd gennych wythnos ddarllen bob semester ar gyfer astudio dan arweiniad a chyfle i ddal i fyny ar waith a asesir, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor.

Trwy’r wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn darparu adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, darlithoedd adborth, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.

Bydd y gwaith cwrs yn cael ei farcio gan eich tiwtor modiwl a bydd eich tiwtor yn rhoi adborth ysgrifenedig i chi ar eich gwaith. Byddwch hefyd yn cael dosbarth adborth ar ôl pob asesiad. Bydd myfyrwyr yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun hunan asesu myfyrwyr sy’n cael ei fonitro.

Sut caf fy asesu?

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, portffolios ac aseiniadau creadigol.

Rydym yn annog arloesi a chreadigrwydd wrth ddarparu ac asesu’r dysgu ac addysgu – er enghraifft, y defnydd o systemau gwybodaeth ddaearyddol, cyfarpar cartograffig, cyfryngau digidol ac ymweliadau astudiaethau maes. Byddwch yn cael hyfforddiant sgiliau trwy gyflwyno meddwl yn feirniadol drwy asesiadau seiliedig ar ffilm.

Mae traethodau ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid dim ond at ddibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu eich galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o wahanol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol. Mae gweithdai pwrpasol ar draethodau a chyngor unigol yn eich galluogi chi i greu eich gwaith gorau, ac mae adborth ysgrifenedig ar draethodau’n cyfrannu at waith y dyfodol, gan eich galluogi chi i ddatblygu eich cryfderau a mynd i’r afael ag unrhyw faes gwannach.

Mae’r prosiect ymchwil yn y flwyddyn derfynol yn rhoi cyfle i chi ymchwilio’n drylwyr i bwnc penodol sydd o ddiddordeb i chi ac ennyn gwybodaeth fanwl am faes astudio penodol, defnyddio eich menter wrth gasglu a chyflwyno deunydd, a chyflwyno dadl glir a chadarn a llunio casgliadau priodol.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Gwybodaeth a dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Dehongli a gwerthuso rôl y system gynllunio mewn rheoli newid yn yr amgylchedd adeiledig a’r amgylchedd naturiol yn y tymor byr ynghyd â’r tymor hir, gan gyfeirio at bolisïau cynllunio llywodraethau canolog, llywodraethau lleol a sefydliadau eraill.
  • Dehongli a gwerthuso rôl y cyd-destun gwleidyddol, cyfreithiol a sefydliadol ym maes ymarfer cynllunio, gan wneud argymhellion ar sut y gall sefydliadau wella effeithlonrwydd drwy fynd i’r afael â mater cynllunio a nodwyd.
  • Adnabod, dewis a defnyddio sgiliau ymarferol sy’n seiliedig ar brosiect, a sgiliau dylunio ac arfarnu ariannol, o safbwynt dylunio trefol.
  • Diffinio mater neu broblem ymarferol yn gywir ar gyfer ymchwiliad, astudiaeth neu ymchwil a llunio strategaeth ar gyfer casglu, asesu, dadansoddi a chyflwyno data a gwybodaeth berthnasol.

Sgiliau deallusol:

Ar ôl cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu dehongli a gwerthuso dealltwriaethau ymarferol a damcaniaethol o ran y canlynol:

  • syniadau o gyfle cyfartal, amrywiaeth gymdeithasol a diwylliannol, a’r defnydd cynaliadwy o adnoddau naturiol a dynol
  • hawliau unigol a chyfunol a ellir eu cynrychioli drwy systemau a phenderfyniadau cynllunio a’u heffeithio ganddynt
  • rôl y llywodraeth a chyfranogiad y cyhoedd mewn cymdeithas ddemocrataidd ac wrth gydbwyso hawliau a buddiannau unigol a chyfunol
  •  ‘sgiliau pwnc’, gan gynnwys creadigrwydd, datrys problemau, rhagfynegi a monitro
  • diogelu iechyd a diogelwch personol yn y gwaith ynghyd ag iechyd a diogelwch eraill.

Sgiliau ymarferol proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu arddangos:

  • Dealltwriaethau ymarferol a damcaniaethol o fod yn ymarferydd myfyriol, gan adnabod y sgiliau a’r wybodaeth rydych yn eu caffael yn y dosbarth
  • Y gallu i gymryd cyfrifoldeb am ddatblygu ymagwedd hunanfeirniadol a heriol i’ch ymarfer cynllunio eich hun
  • Dehongli a gwerthuso’r cysyniad o hawliau a goblygiadau cyfreithiol ac ymarferol cynrychioli’r hawliau hyn yn y broses gwneud penderfyniadau cynllunio 

Sgiliau trosglwyddadwy/allweddol:

  • Dangos sgiliau allweddol mewn gwrando, dadlau, arweinyddiaeth, eiriolaeth a datrys problemau. Adnabod, dewis a defnyddio sgiliau allweddol i gyfleu gwybodaeth ofodol ac sy’n ymwneud â chynllunio i gynulleidfaoedd gwahanol drwy gyflwyno gwybodaeth i gydweithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill
  • Cymryd cyfrifoldeb am gymryd rhan yn llwyddiannus mewn gwaith ar y cyd a gwaith amlddisgyblaethol drwy weithio fel rhan ·         o dîm, gan ymateb yn briodol i geisiadau cydweithwyr a gwneud gofynion eich hun ar gydweithwyr yn glir
  • Ymarfer annibyniaeth a beirniadaeth ar gyfer hunanreoli effeithiol drwy osod a chadw at flaenoriaethau gwaith, gan ddefnyddio amser yn effeithlon ac adnabod cyfleoedd ar gyfer mewnbwn gan gydweithwyr, gweithwyr proffesiynol eraill a rhanddeiliaid
  • Ymarfer cyfrifoldeb a beirniadaeth ar gyfer rheoli a chyflwyno gwybodaeth yn effeithiol gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau gwahanol a thrwy ddefnyddio technoleg gwybodaeth
  • Gwerthuso egwyddorion a phrosesau dylunio ar gyfer creu lleoedd o ansawdd uchel a gwella tir y cyhoedd er budd pawb yn y gymdeithas
  • Gwerthuso strategaethau datblygu gwahanol a’r defnydd ymarferol o gyllid datblygu; asesu goblygiadau cynhyrchu gwerth ychwanegol ar gyfer y gymuned

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Rydym wedi ymrwymo i’ch helpu chi i gyflawni eich dyheadau proffesiynol, gan roi’r sgiliau, y chwilfrydedd a’r hyder i chi ddylanwadu ar eich maes dewisol.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae 93% o’n graddedigion oedd ar gael i weithio mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis i raddio (Arolwg Ymadawyr Addysg Uwch 2016/17).

Mae nifer o gyfleoedd gyrfa cyffrous ac amrywiol yn agored i raddedigion y rhaglen radd hon, ac mae llawer mewn swyddi allweddol mewn ystod o sefydliadau yn y sector cyhoeddus, preifat ac yn y trydydd sector. Mae’r rhain yn cynnwys llywodraethau cenedlaethol a lleol, ymgyngoriaethau busnes, canolfannau ynni cynaliadwy, asiantaethau amgylcheddol, cwmnïau strategaeth tai, cwmnïau adeiladu a syrfewyr.

Mae llwybrau gyrfa cynllunio penodol yn cynnwys tirfesur, dylunio a datblygu yn ogystal â meysydd megis trafnidiaeth, datblygu economaidd ac adfywio trefol. Gallwch ymarfer mewn awdurdodau cynllunio lleol, llywodraeth leol a chenedlaethol, sefydliadau cynllunio cymdogaethau, sefydliadau trafnidiaeth, ymgyngoriaethau cynllunio lleol, datblygwyr preifat a sefydliadau amgylcheddol yn y Deyrnas Unedig, ar gyfandir Ewrop ac yn rhyngwladol.

Lleoliadau

Mae'r modiwl Daearyddiaethau Gwaith a Chyflogadwyedd yn rhoi cyfle i chi ymgymryd â lleoliad tymor byr i gymhwyso'ch dysgu yn ymarferol yn ystod eich ail flwyddyn

Mae hefyd opsiwn pedair blynedd i’r rhaglen radd amser llawn.

Mae pob blwyddyn academaidd hefyd yn cynnig ymweliad astudiaethau maes a ariennir yn rhannol sy’n eich galluogi chi i gynnal gwaith ymchwil ac ymchwilio i broblem fyw / astudiaeth achos ar leoliad.

Ym mlwyddyn un, mae’r ymweliadau astudiaethau maes hyn yn lleol i ranbarth dinas Caerdydd. Ym mlwyddyn dau a thri, gallwch ddewis ymweliad astudiaethau maes preswyl. Mae'r rhain yn aml yn cynnwys cyrchfannau yn y DU a thramor. Gweler yr adran ‘costau ychwanegol’ am ragor o wybodaeth.

Gwaith maes

Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ddysgu ymarferol. Mae pob blwyddyn academaidd yn cynnig ymweliad astudiaethau maes a ariennir yn rhannol sy’n eich galluogi chi i ymchwilio ac archwilio problem/astudiaeth achos ar leoliad.

Ym mlwyddyn un, mae’r ymweliadau astudiaethau maes hyn yn lleol i ranbarth dinas Caerdydd. Ym mlwyddyn dau, gallwch ddewis mwynhau ymweliad astudiaethau maes preswyl i ddinas yn Ewrop. Yn eich blwyddyn olaf, gallwch ddewis ymweliad astudiaethau maes i ddinas ledled y byd. Gweler yr adran ‘costau ychwanegol’ am ragor o wybodaeth.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.