Cerddoriaeth ac Athroniaeth (BA)

Blwyddyn Mynediad

2017 2018

This joint honours degree programme enables you to combine the study of Music and Philosophy.

Mae gradd gydanrhydedd yn cyffroi ac yn gwobrwyo llawer o fyfyrwyr wrth iddyn nhw weld yr hyn sy'n debyg a’r hyn sy’n wahanol rhwng y ddau bwnc. Yn aml ceir materion a safbwyntiau ategol, yn ogystal â sgiliau sy’n cysylltu’r pynciau, boed y rheiny’n ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol, neu’n ymchwil ddiweddar.

Byddwch yn treulio swm tebyg o amser ar bob pwnc, gan elwa ar ddatblygu eich dealltwriaeth a’ch sgiliau cerddorol wrth astudio pwnc cyfareddol a heriol Athroniaeth.

Mae'r Ysgol Cerddoriaeth a'r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth yn cynnig cyrsiau heriol o fodiwlau yn y naill bwnc a’r llall. Mae hyblygrwydd y cwrs yn eich galluogi i arbenigo a datblygu eich diddordebau eich hun, gan gaffael addysg gadarn ac eang a datblygu sgiliau trosglwyddadwy.

Mae dinas Caerdydd yn gartref i'r celfyddydau, ac yn lleoliad gwych ar gyfer yr astudio cerddoriaeth yn y Deyrnas Unedig. Mae gan y ddinas gwmni opera proffesiynol (Opera Cenedlaethol Cymru) a hefyd gerddorfa symffoni broffesiynol (Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC). Mae’r Ysgol Cerddoriaeth yn mwynhau perthynas gynhyrchiol gyda'r ddau sefydliad sy'n caniatáu, er enghraifft, i fyfyrwyr fynd i ymarferion gwisg a phrynu tocynnau rhad ar gyfer cyngherddau.

Mae Athroniaeth yng Nghaerdydd yn arbennig oherwydd ei phwyslais mawr ar foeseg, gwleidyddiaeth, ac athroniaeth y meddwl, a’r sylw cyfartal y mae’n ei roi i ddulliau ‘dadansoddol’ a ‘Chyfandirol’ o ymgymryd ag athroniaeth Orllewinol.

Mae disgwyl i chi fod wedi cyrraedd neu fod wedi dangos tystiolaeth o weithio tuag at Radd 8 mewn un neu ragor o offerynnau, neu lais, ar adeg gwneud eich cais. Efallai y cewch chi eich ystyried os nad ydych chi’n astudio Lefel-A Cerddoriaeth ond bod gennych chi Radd 8 Ymarferol a Gradd 7/8 Theori a’ch bod chi’n astudio pynciau dyniaethau priodol ar Safon Uwch.

Nid ydym yn cyfweld ymgeiswyr ar gyfer ein rhaglenni israddedig fel mater o drefn. Efallai y bydd ymgeiswyr sydd â chymhwyster anhraddodiadol yn cael eu gwahodd i gyfweliad anffurfiol yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, a fydd yn cael effaith ar y penderfyniad dethol.

Nodweddion nodedig

  • Mae'r cwrs hwn yn arbennig o addas ar gyfer rhai sydd â diddordeb mewn gweld cerddoriaeth o fewn cyd-destun diwylliannol eang, gan gofleidio'r llenyddol, y cymdeithasol a'r gwleidyddol
  • Nid oes modiwlau gorfodol yn y naill ddisgyblaeth na’r llall
  • Gall eich traethawd hir yn y drydedd flwyddyn ganolbwyntio ar y ddwy ddisgyblaeth
  • Pwyslais gref ar foeseg, gwleidyddiaeth ac estheteg
  • Mae'r hyfforddiant offerynnol yn cael ei ariannu'n llawn gan yr Ysgol Cerddoriaeth ar gyfer eich prif offeryn astudio
  • Mae’r modiwlau Busnes Cerddoriaeth yn cynnig lleoliad gwaith byr
  • Mae’r gweithdai cyfansoddi, y dosbarthiadau meistr ar berfformio, cyfres cyngherddau’r Brifysgol, darlithoedd John Bird gan academyddion gwadd a’r sgyrsiau gyrfaoedd yn cynnig llawer o gyfleoedd i ddod i gysylltiad â gweithwyr proffesiynol sy’n weithredol ym myd cerddoriaeth

Ffeithiau allweddol

Côd UCASVW53
Nifer Myfyrwyr newydd nesafMedi 2017
Hyd3 blwyddyn
FfurfAmser llawn
Darpariaeth iaith GymraegMae hyd at 33% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.
Lleoedd sydd ar gael fel arferFel arfer, mae 70 lle ar gael yn yr Ysgol Cerddoriaeth.
Nifer y ceisiadau a dderbynnir fel arferMae'r Ysgol Cerddoriaeth yn derbyn tua 350 o geisiadau.
Tiwtor(iaid) derbyniadau

Gofynion mynediad

Cynnig Lefel A nodweddiadolABB (gan gynnwys Cerddoriaeth ac eithrio Astudiaethau Cyffredinol). Disgwylir i bob ymgeisydd cydanrhydedd gyda cherddoriaeth fod wedi cyrraedd neu wedi dangos tystiolaeth o weithio tuag at Radd 8 mewn un offeryn neu lais ar adeg gwneud y cais. Rhoddir ystyriaeth i ymgeiswyr nad ydynt yn astudio Lefel-A Cerddoriaeth ond sydd gyda Gradd 8 Ymarferol a Gradd 7/8 Theori ac yn astudio pynciau y dyniaethau priodol fel Lefel-A.
Cynnig CBC nodweddiadolDerbynnir craidd CBC yn lle un pwnc Safon Uwch (ar y graddau a bennwyd uchod). Mae disgwyl i ymgeiswyr fod wedi cyrraedd neu fod wedi dangos tystiolaeth o weithio tuag at Radd 8 mewn un offeryn, neu lais, adeg gwneud y cais.
Cynnig Bagloriaeth Rhyngwladol nodweddiadol35 o bwyntiau, gan gynnwys 6 pwynt mewn Cerddoriaeth Lefel Uwch.
Cymwysterau amgeGallai cymwysterau amgen gael eu derbyn. Cewch ragor o wybodaeth am ofynion mynediad ar dudalen meini prawf derbyn Ysgol Astudiaethau Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth ac Ysgol Cerddoriaeth.
Gofynion Iaith SaesnegOs ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Gofynion eraillBydd croeso i geisiadau gan rai sy’n cynnig cymwysterau eraill.

Gradd dair blynedd lawn amser yw hon, yn cynnwys 120 credyd y flwyddyn, wedi eu rhannu rhwng y ddwy Ysgol. Mae mwyafrif y modiwlau’n werth 20 credyd.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2017/18. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2017

Blwyddyn un

Fe fyddwch chi’n astudio 60 credyd Cerddoriaeth a 60 credyd Athroniaeth.

Yn ei hanfod, mae’r flwyddyn hon mewn Cerddoriaeth yn flwyddyn sylfaen sy’n eich paratoi i fanteisio ar fuddion creadigol a deallusol addysg uwch. Byddwch yn cael hyfforddiant creiddiol mewn dadansoddi, harmoni a gwrthbwynt, hanes cerddoriaeth, cyfansoddi a gallu cerddorol ymarferol.

Yn y flwyddyn gyntaf mae’r Ysgol Cerddoriaeth yn cynnig hyfforddiant creiddiol mewn dadansoddi, harmoni a gwrthbwynt, hanes cerddoriaeth, cyfansoddi a gallu cerddorol ymarferol. Fel myfyriwr BA byddwch yn cael dewis rhydd o’r pynciau hyn.

Sylwer bod rhai modiwlau yn darparu paratoad hanfodol ('rhagofynion') ar gyfer modiwlau mwy datblygedig os ydych chi’n dymuno eu dilyn mewn blynyddoedd diweddarach.

I ategu eich astudiaethau academaidd, rydych chi’n cael eich annog yn weithredol i ymuno â Chôr neu Gerddorfa’r Brifysgol ac ensembles eraill.

Mewn Athroniaeth mae blwyddyn un yn flwyddyn sylfaen a luniwyd i roi i chi’r sgiliau ar gyfer astudiaethau uwch ac i roi trosolwg o’r pwnc i chi. Byddwch yn astudio tri modiwl craidd: Y Pen, y Meddwl a Realiti; Athroniaeth Foesol a Gwleidyddol; a Meddwl yn Feirniadol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Mind, Thought and RealitySE410120 credydau
Moral and Political PhilosophySE410320 credydau
Critical ThinkingSE410720 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Composition 1AMU110710 credydau
Ethnomusicology 1: Music in Human LifeMU112410 credydau
Elements of Tonal Music 1MU112520 credydau
The Full WorksMU112710 credydau
Composition 1BMU120810 credydau
A History of Popular MusicMU122610 credydau
Elements of Tonal Music 2MU122720 credydau
From Page to Stage: Dramaturgy in Musical TheatreMU123010 credydau
Composing the LandscapeMU123110 credydau
Practical Musicianship 1MU131410 credydau
Repertoire StudiesMU131720 credydau
Y Da, Drwg a'r GwleidyddolSE410620 credydau

Blwyddyn dau

Fe fyddwch chi’n astudio 60 credyd Cerddoriaeth a 60 credyd Athroniaeth.

O ran Cerddoriaeth, mae cyrsiau yn fwy datblygedig a byddwch yn canolbwyntio ar bynciau mwy arbenigol, gan ddewis o blith pedwar grŵp: Cyfansoddi ac Astudiaethau Electroacwstig, Dawn Gerddorol Ysgrifenedig ac Ymarferol, Sgiliau Dadansoddol a Beirniadol, ac Astudiaethau Hanesyddol.

Lluniwyd ein modiwlau blwyddyn dau, Busnes Cerddoriaeth I/II, i’ch helpu i ddeall gwahanol ganghennau o’r proffesiwn cerddoriaeth yn well ac i roi cyfle i chi gael lleoliad byr mewn maes sy’n ymwneud â cherddoriaeth neu’r celfyddydau, naill ai mewn un bloc neu ar ffurf cyfres o ymweliadau rheolaidd â gweithle.

O ran Athroniaeth, byddwch yn datblygu dealltwriaeth gadarn o feysydd craidd fel estheteg, epistemoleg, moeseg, iaith, metaffiseg, meddwl, seicoleg moesol ac athroniaeth wleidyddol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Analysing 20th Century MusicMU215210 credydau
Studio Techniques 1: Midi and SynthesisersMU215310 credydau
Formal Functions in the Classical TraditionMU215720 credydau
Issues in Popular MusicMU216010 credydau
OrchestrationMU216120 credydau
The Business of Music 1MU216410 credydau
Performance Practice and Organology: the Long Eighteenth Century, 1700-1830MU216710 credydau
Performance Practice and Organology: the Long Eighteenth Century, 1700-1830MU216820 credydau
Issues in Popular MusicMU217020 credydau
Harmonic Practice, 1725-1870MU217810 credydau
Reading Film SoundMU217910 credydau
Reading Film SoundMU218120 credydau
Opera from Handel to WeberMU225610 credydau
Introduction to Schenkerian AnalysisMU225710 credydau
Studio Techniques 1: Midi and SynthesisersMU226110 credydau
Ethnomusicology 2: Music in Cross-Cultural PerspectiveMU227120 credydau
The Business of Music 2MU227220 credydau
Opera from Handel to WeberMU227820 credydau
British Music in the 20th CenturyMU227910 credydau
British Music in the 20th CenturyMU228120 credydau
Contrapuntal Practice, 1725-1870MU228410 credydau
Composition 2MU232020 credydau
Music Sounded Out: Interpreting Oral and Recorded Genres and FormsMU235620 credydau
Practical Musicianship 2MU235810 credydau
Practical Musicianship 2BMU235910 credydau
Practical Contribution Portfolio 2MU236010 credydau
Philosophy of ScienceSE431220 credydau
Philosophy of MindSE431320 credydau
Philosophy of LanguageSE435820 credydau
Philosophy of Contemporary PoliticsSE436320 credydau
MetaphysicsSE436420 credydau
Contemporary Ethical TheorySE438820 credydau
Hanes Athroniaeth WleidyddolSE439520 credydau
EpistemologySE439820 credydau
Credoau'r CymrySE440020 credydau
Ancient PhilosophySE440520 credydau
Continental PhilosophySE440620 credydau
What to Believe in the Age of the InternetSE440720 credydau
Philosophy of CommunicationSE440820 credydau

Blwyddyn tri

Fe fyddwch chi’n astudio 60 credyd Cerddoriaeth a 60 credyd Athroniaeth.

Fe fyddwch chi unwaith eto’n dewis o blith y pedwar grŵp pwnc mewn Cerddoriaeth, a gallwch fynd ar drywydd un o'r tri phrosiect academaidd o bwys: Traethawd Hir, Prosiect mewn Ethnogerddoreg, neu Brosiect mewn Dadansoddi Cerddoriaeth. 

Cewch gwblhau portffolio cyfansoddiadau byr (Cyfansoddi IV) a/neu ddatganiad 'caeedig' o flaen arholwyr yn unig (Dawn gerddorol ymarferol IV).

Mewn Athroniaeth mae modiwlau arbenigol ar bynciau fel problem yr ymwybod, seicoleg foesol, meta-foeseg, ffeministiaeth ac aestheteg yn eich galluogi chi i ddilyn eich diddordebau ac ymgysylltu â materion cyfredol mewn ymchwil ac ysgolheictod, gan eich galluogi i ddatblygu sgiliau dadansoddi a chyflwyno y bydd cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi, yn ogystal â’ch paratoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig. 

Mae’r dewis yn y naill bwnc a’r llall i ysgrifennu traethawd hir yn rhoi’r cyfle i chi ddewis pwnc sy'n tynnu ar y ddwy ddisgyblaeth, os ydych chi’n dymuno.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Practical Musicianship 3 (Ensemble)MU313710 credydau
The Birth of ModernismMU314910 credydau
Studio Techniques 2: Audio and Hard Disk RecordingMU316320 credydau
20th Century Contrapuntal PracticeMU316410 credydau
The Birth of ModernismMU316520 credydau
Nineteenth Century Italian OperaMU316810 credydau
Nineteenth Century Italian OperaMU316920 credydau
Innovation and Tradition in French Music since 1920MU317210 credydau
Innovation and Tradition in French Music since 1920MU317320 credydau
Studio Techniques 2: Audio and Hard Disk RecordingMU326720 credydau
Wagner and Romantic OperaMU327410 credydau
Wagner and Romantic OperaMU327520 credydau
The Cultures of BeethovenMU328010 credydau
The Cultures of BeethovenMU328120 credydau
Performance Practice and Organology the Long Seventeenth Century, 1550-1700MU328410 credydau
Performance Practice and Organology the Long Seventeenth Century, 1550-1700MU328520 credydau
Jazz, Culture and PoliticsMU328610 credydau
Jazz, Culture and PoliticsMU328720 credydau
FugueMU333020 credydau
DissertationMU334030 credydau
Project in Music AnalysisMU334330 credydau
Practical Musicianship 4 (Performance)MU334420 credydau
Composition 4MU334520 credydau
Project in EthnomusicologyMU334630 credydau
Practical Contribution Portfolio 3MU334710 credydau
MetaethicsSE436720 credydau
Moral PsychologySE437220 credydau
The Problem of ConsciousnessSE437920 credydau
Dissertation in PhilosophySE438520 credydau
Feminist PhilosophySE438620 credydau
Cyfiawnder Byd-eangSE439420 credydau
Hanes Athroniaeth yr 20fed Ganrif yng NghymruSE439620 credydau
Philosophy and Modern ArtSE440220 credydau
Epistemic NormsSE440920 credydau
NietzscheSE530620 credydau
International Study Abroad (60 credits) AutumnSE625160 credydau
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Sut caf fy addysgu?

Mae Caerdydd yn cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle mae myfyrwyr yn cael eu galluogi i ennill sgiliau amrywiol a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Rydym hefyd yn eich helpu i ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.

O ran Cerddoriaeth, rydyn ni’n defnyddio amrywiaeth o arddulliau addysgu a dysgu, gan gynnwys darlithoedd, seminarau a gweithdai mewn grwpiau bach, sesiynau tiwtorial unigol, hyfforddiant offerynnol ensemble, ymarferion, portffolios, aseiniadau creadigol ac astudio annibynnol. Mae'r hyfforddiant offerynnol yn cael ei ariannu'n llawn gan yr Ysgol Cerddoriaeth ar gyfer  eich prif offeryn astudio. Mae hyn yn cynnwys cyfeiliant yn eich datganiad terfynol. Bydd myfyrwyr yn cael 24 gwers hanner awr yn ystod y flwyddyn.

Mewn Athroniaeth byddwch yn cael eich dysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg ar gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan.

Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y ddarlith, mewn grwpiau bach. Fel arfer, bydd y seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.
 

Sut y caf fy nghefnogi?

O ran Cerddoriaeth, ar ddechrau pob blwyddyn byddwch yn cael canllaw i nodau modiwlau, deilliannau dysgu, dulliau asesu, meysydd llafur modiwlau, a rhestrau darllen a gwrando. Bydd y tiwtoriaid personol a ddyrennir i chi yn gallu rhoi cyngor ac arweiniad ar ddewis modiwlau a byddwch yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda nhw.

Ar gyfer y prosiectau blwyddyn derfynol byddwch yn cael goruchwyliwr i fonitro cynnydd a darparu ymgynghoriadau unigol trwy drefniant.

Mae'r hyfforddiant offerynnol yn cael ei ariannu'n llawn gan yr Ysgol Cerddoriaeth ar gyfer y prif offeryn rydych chi’n ei astudio, gan gynnwys cyfeiliant yn eich datganiad terfynol. Cewch 24 o wersi hanner awr mewn blwyddyn.

Yn ogystal, bydd gennych chi diwtor personol yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth.

Trwy’r wefan Dysgu Canolog byddwch yn gallu cyrchu deunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Sut caf fy asesu?

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu ffurfiannol a chyfunol, gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, portffolios, perfformiadau ac aseiniadau creadigol.

Mae traethodau ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid dim ond at ddibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu eich galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o wahanol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol. Mae gweithdai pwrpasol ar draethodau a chyngor unigol yn eich galluogi chi i greu eich gwaith gorau, ac mae adborth ysgrifenedig ar draethodau’n cyfrannu at waith y dyfodol, gan eich galluogi chi i ddatblygu eich cryfderau a mynd i’r afael ag unrhyw faes gwannach.

Mae traethawd hir dewisol y flwyddyn derfynol yn rhoi cyfle i chi ymchwilio’n drylwyr i bwnc penodol sydd o ddiddordeb i chi, gan ennyn gwybodaeth fanwl am faes astudio penodol; defnyddio eich menter wrth gasglu a chyflwyno deunydd; a chyflwyno dadl glir a chadarn a llunio casgliadau priodol.

SYLWER: Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr anabl, ac mae’n bosibl y byddwn yn gallu cynnig dulliau asesu amgen. Fodd bynnag, ni fydd hyn bob amser yn bosibl o reidrwydd, er enghraifft pan fydd perfformiad yn ddull asesu mewn modiwl perfformiad. Gall safonau cymhwysedd o’r fath gyfyngu ar argaeledd addasiadau neu asesiadau amgen. I gael manylion am asesiadau, cyfeiriwch at y disgrifiadau o’r modiwlau. 

Pa sgiliau bydda i’n eu hymarfer a’u datblygu?

Byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol, fel:

  • gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth
  • nodi a chymhwyso data perthnasol
  • sgiliau beirniadol (rhesymu, gwerthuso tystiolaeth, datrys problemau, cysylltu theori ac ymarfer)
  • sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • ymdopi ag ansicrwydd/cymhlethdod
  • creadigrwydd a meddwl yn arloesol
  • llythrennedd cyfrifiadurol
  • sgiliau fel arweinyddiaeth, gwaith tîm a hunan-reoli
  • nodi, cofnodi a chyfathrebu eich cyraeddiadau gyrfa perthnasol

Yn 2013/14, adroddodd 98% o raddedigion yr Ysgol Cerddoriaeth oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis i raddio.

Mae'r sgiliau sy'n cael eu datblygu drwy ddilyn gradd mewn cerddoriaeth yn helpu'n myfyrwyr i symud ymlaen i amrywiaeth o yrfaoedd, yn y proffesiwn cerddoriaeth a thu hwnt.

Mae sgiliau cyflogadwyedd yn rhan o'r modiwlau  yn yr Ysgol Cerddoriaeth fel eich bod yn dysgu sgiliau sy'n benodol i gerddoriaeth a sgiliau academaidd hefyd y mae modd eu trosglwyddo i feysydd eraill, yn enwedig i'r gweithle. Mae ein modiwlau ar gyfer yr ail flwyddyn ar Fusnes Cerddoriaeth wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddeall y gwahanol ganghennau yn y proffesiwn cerddoriaeth yn well. Maen nhw hefyd yn rhoi cyfle i chi gael lleoliad gwaith byr mewn maes sy'n gysylltiedig â cherddoriaeth neu'r celfyddydau.

Mae ein cyfres flynyddol o sgyrsiau ar Yrfaoedd mewn Cerddoriaeth yn gyfle gwych i chi gwrdd â phobl broffesiynol mewn amryw feysydd fel perfformio, addysg cerddoriaeth, newyddiaduraeth cerddoriaeth, rheoli'r celfyddydau ac artistiaid, cynhyrchu a thrwyddedu, a chyfansoddi ar gyfer y cyfryngau.

Yn 2013/14, adroddodd 91% o raddedigion yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth oedd ar gael i weithio eu bod mewn cyflogaeth a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis i raddio.

Myfyrwyr y DU ac UE (2017/18)

Ffioedd DysguBlaendalBlaendal
£9,000Dim

Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Myfyrwyr tu allan i'r UE (2017/18)

Ffioedd DysguBlaendalBlaendal
£15,080Dim

Caiff y ffioedd i fyfyrwyr rhyngwladol eu pennu ar gyfer y mwyafrif o gyrsiau israddedig tair blynedd o hyd. Mae hyn yn golygu y byddwch yn talu'r un pris ym mlwyddyn un ag y byddwch chi ym mlynyddoedd dau a thri. Mae rhai cyrsiau wedi'u heithrio, yn cynnwys rhaglenni pedair a phum mlynedd o hyd. Ewch i'n tudalennau ffioedd dysgu i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf i astudio’r cwrs/ rhaglen?

Heblaw eich prif offeryn astudio, ni fydd angen unrhyw offer penodol.

Mae modiwlau Blwyddyn dau ar Fusnes Cerddoriaeth I/II yn rhoi cyfle am ymweliadau rheolaidd â gweithle, naill ai mewn un bloc neu fel cyfres fer.

Darganfod rhagor o gyrsiau