Ewch i’r prif gynnwys

Gwleidyddiaeth ac Athroniaeth (BA)

Pam astudio'r cwrs hwn

location

Wedi'i deilwra i chi

Gyda modiwlau dewisol yn bennaf a'r gallu i ddewis modiwlau o ddisgyblaethau eraill mae gennych ryddid i ddewis gradd bersonol.

building

Profiad yn y diwydiant

Cewch ennill sgiliau, hyder a chysylltiadau drwy'r modiwl cyflogadwyedd, ynghyd ag amrywiaeth o interniaethau diwylliannol.

people

Cysylltiadau â sefydliadau gwleidyddol

Manteisiwch ar gysylltiadau â senedd San Steffan, Senedd Cymru, yr Undeb Ewropeaidd a NATO.

book

Cewch brofiad o wleidyddiaeth ar waith

Dewiswch fodiwl a addysgir ar y cyd â San Steffan, sy'n cynnwys addysgu gan glercod Tŷ'r Cyffredin ac ymweliadau astudio.

plane

Astudiwch Brydain a thu hwnt

Dysgwch am wleidyddiaeth ym Mhrydain a thu hwnt, a’r dylanwad sydd gan sefydliadau rhyngwladol.

Mae cyfuno Athroniaeth â Gwleidyddiaeth yn gwella’ch gallu i archwilio a phrofi’r credoau a’r gwerthoedd sylfaenol sydd wrth wraidd ein syniadau am wleidyddiaeth, ac mae’n rhoi i chi’r cyfarpar deallusol soffistigedig ar gyfer gwneud hynny.

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn canolbwyntio ar fodiwlau craidd. Yn eich ail flwyddyn a’r flwyddyn olaf, gallwch ddewis o blith amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol.

Mae gwleidyddiaeth fel maes astudio yn datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o lywodraethau, llywodraethu a chymdeithasau. Mae gwleidyddiaeth yn ganolog i'n bywydau bob dydd. Mae'n archwilio pobl a phŵer ac yn cynnwys drama a digwyddiadau o arwyddocâd mawr heddiw ac yn hanesyddol. Ystyriwch y frwydr etholiadol rhwng y Chwith a’r Dde, gemau pŵer y Rhyfel Oer, a menter fawr integreiddio Ewropeaidd.

Mae astudio ar gyfer gradd mewn gwleidyddiaeth yn golygu ymchwilio i sut mae gwleidyddiaeth yn gweithio ac mae’n archwilio sut mae seneddau a llywodraethau yn gweithredu, gan ganiatáu i chi hefyd werthuso syniadau gwleidyddol fel pŵer, rhyddid, democratiaeth, gwrthdaro, cyfreithlondeb ac atebolrwydd.

Mae Athroniaeth yng Nghaerdydd yn ymdrin â holl ystod yr ystyriaethau athronyddol, gyda phwyslais arbennig ar foeseg ac estheteg. Mae'r modiwlau yn ymdrin ag arddulliau dadansoddol a Chyfandirol athroniaeth y Gorllewin, sy'n anarferol yn y Deyrnas Unedig. 

Maes pwnc: Athroniaeth

Maes pwnc: Gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAB-ABB

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd B/6 neu gymhwyster cyfatebol (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd B neu radd 6 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 6.5 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 6.0 yn yr holl is-sgiliau eraill.

TOEFL iBT

O leiaf 90 ar y cyfan gydag o leiaf 22 ar gyfer ysgrifennu a 20 ar gyfer yr holl is-sgiliau eraill.

PTE Academic

O leiaf 69 yn gyffredinol gydag o leiaf 69 ar gyfer ysgrifennu ac o leiaf 62 ar gyfer yr holl sgiliau cyfathrebu eraill.

Trinity ISE II/III

II: Rhagoriaeth mewn ysgrifennu ac o leiaf un Rhagoriaeth a dau Deilyngdod mewn cydrannau eraill.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDD-DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn unrhyw bwnc.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,700 Dim
Blwyddyn dau £22,700 Dim
Blwyddyn tri £22,700 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Bydd yr Ysgol yn cyflenwi unrhyw gyfarpar sydd ei angen.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Cwrs tair blynedd amser llawn yw hwn, yn cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Byddwch yn cwblhau nifer gyfartal o gredydau mewn modiwlau Gwleidyddiaeth ac Athroniaeth bob blwyddyn, gan ganiatáu i chi deilwra’ch gradd i adlewyrchu eich diddordebau penodol.

Blwyddyn ragarweiniol yw’r flwyddyn gyntaf, a bydd dosbarth eich gradd yn cael ei seilio ar ganlyniadau Blynyddoedd 2 a 3. Nodwedd arbennig yw'r opsiwn o gael ysgrifennu traethawd hir yn eich blwyddyn olaf. Mae hyn yn uchel ei barch ymhlith cyflogwyr oherwydd mae'n dangos y gallwch chi ymgymryd ag ymchwil gwreiddiol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Mae'r flwyddyn gyntaf yn pontio’n raddol i astudio athroniaeth a gwleidyddiaeth ar lefel gradd ac mae’n cynnig cyfarwyddyd ar y sgiliau, y technegau a’r dadleuon y byddwch yn eu defnyddio.

Byddwch yn astudio 60 credyd mewn Gwleidyddiaeth a 60 credyd mewn athroniaeth yn ystod eich blwyddyn gyntaf o astudio.

Blwyddyn dau

Byddwch yn cwblhau 60 credyd mewn modiwlau Athroniaeth dewisol a 60 credyd mewn modiwlau Gwleidyddiaeth dewisol

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Gender, Sex and DeathPL922020 Credydau
International Relations of the Cold WarPL922120 Credydau
Digital Technologies and Global PoliticsPL922320 Credydau
Global GovernancePL922420 Credydau
EU PoliticsPL922520 Credydau
From Espionage to Counter-Terrorism: Intelligence in Contemporary PoliticsPL922920 Credydau
Modern Welsh PoliticsPL923320 Credydau
Modern Political Thought: Machiavelli to MillPL923420 Credydau
Damcaniaethu a Dadfeilio'r Gymdeithas GyfalafolPL923820 Credydau
The Barbarians are Coming!: Cross-cultural Political TheoriesPL924020 Credydau
Ideas and Ideology in British PoliticsPL924120 Credydau
Animals, Air, and Areas beyond national jurisdiction - The Politics of Global Environmental RegimesPL924220 Credydau
Personality, prejudice, and polarisation: Political PsychologyPL924420 Credydau
Critical Approaches to Middle East PoliticsPL924520 Credydau
The Politics of Borders: Conflict and Cooperation in Modern EuropePL924620 Credydau
Revolutionising the Political Order: British Social Theory in the Eighteenth CenturyPL924920 Credydau
Doing Political ResearchPL925120 Credydau
The Politics of Climate (In)ActionPL925220 Credydau
Politics International ExchangePL926060 Credydau
Credoau'r CymryPL928620 Credydau
British Politics since 1945PL928720 Credydau
International Security: Concepts and IssuesPL928820 Credydau
Justice and Politics: Contemporary Political TheoryPL929120 Credydau
Global JusticePL929220 Credydau
International Law in a Changing WorldPL929920 Credydau
Philosophy of MindSE431320 Credydau
Philosophy of LanguageSE435820 Credydau
Philosophy of Contemporary PoliticsSE436320 Credydau
French ExistentialismSE436920 Credydau
Modern Moral PhilosophySE437320 Credydau
Contemporary Ethical TheorySE438820 Credydau
EpistemologySE439820 Credydau
Credoau'r CymrySE440020 Credydau
Ancient PhilosophySE440520 Credydau
What to Believe in the Age of the InternetSE440720 Credydau
Philosophy of PsychologySE442120 Credydau
Damcaniaethu a Dadfeilio'r Gymdeithas GyfalafolSE442320 Credydau
AestheticsSE442420 Credydau
Philosophy of Feminism (AUT)SE443620 Credydau
Philosophy of Feminism (SPR)SE443720 Credydau

Blwyddyn tri

Byddwch yn cwblhau 60 credyd mewn modiwlau Athroniaeth dewisol a 60 credyd mewn modiwlau Gwleidyddiaeth dewisol

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
The History of Thought in International RelationsPL931120 Credydau
International Politics in the Nuclear AgePL932020 Credydau
Bombs, Bullets and Ballot-boxes: the Northern Ireland Conflict, 1969 to 1998PL932420 Credydau
Political Economy: Rationality in an Irrational World?PL932520 Credydau
Popular Culture and World PoliticsPL932820 Credydau
War and SocietyPL933120 Credydau
The Politics of Violence and KillingPL933520 Credydau
Justice, Legitimacy and International LawPL933620 Credydau
Latin American PoliticsPL933720 Credydau
Sex, Drugs and Public PolicyPL933820 Credydau
Politics in Practice: Work Placement ModulePL934020 Credydau
Be the Change: Governing without the StatePL934620 Credydau
The Politics and Governance of BrexitPL934720 Credydau
Representing DevelopmentPL934820 Credydau
The Politics of Populism in EuropePL935020 Credydau
Governing Global Public Health: Viral Pandemics, and the Global Drugs 'Epidemic'PL935320 Credydau
Conflicts, rivalries and alliances in the "New Middle East"PL935420 Credydau
Anglo-American relations and Cold War defencePL935720 Credydau
China in the WorldPL935820 Credydau
Strategy in Theory and PracticePL935920 Credydau
The Political Economy of Wales: From Coal to Covid-19PL936120 Credydau
Economi Wleidyddol Cymru: o 'Oes y glo' i 'Oes y clo'PL936220 Credydau
Crisis and Commitment in Modern Political ThoughtPL936320 Credydau
The End of the World as We Know ItPL936420 Credydau
After the West: IR 2.0PL936520 Credydau
Dirty Hands: Problems of Political EthicsPL936620 Credydau
US Government and PoliticsPL937420 Credydau
Cyfiawnder Byd-eangPL937720 Credydau
Cenedlaetholdeb, Crefydd a Chyfiawnder: Hanes Athroniaeth yr 20fed Ganrif yng NghymruPL937820 Credydau
Parliamentary Studies ModulePL938020 Credydau
International Relations DissertationPL938520 Credydau
Politics DissertationPL938620 Credydau
Elections in the UKPL938720 Credydau
Global International Organisation in World PoliticsPL939120 Credydau
Personality and PowerPL939220 Credydau
MetaethicsSE436720 Credydau
The Problem of ConsciousnessSE437920 Credydau
Dissertation in PhilosophySE438520 Credydau
Cyfiawnder Byd-eangSE439420 Credydau
Hanes Athroniaeth yr 20fed Ganrif yng NghymruSE439620 Credydau
The Social ImaginationSE441220 Credydau
Belief & IrrationalitySE441920 Credydau
Ethics of KnowingSE442220 Credydau
Beauty & EthicsSE442520 Credydau
A Sense of the PossibleSE442720 Credydau
Aesthetic InjusticeSE443420 Credydau
Sociality OnlineSE443520 Credydau
Reasons and RelationshipsSE443820 Credydau
The Politics of Language DiversitySE443920 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill sgiliau amrywiol a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Mae ein cyrsiau’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu ac wrth drafod. Rydym hefyd yn eich helpu i ennill profiad mewn meysydd fel gweithio mewn tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser.

Byddwch yn cael eich addysgu mewn darlithoedd a seminarau. Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd.

Fel arfer, mae seminarau’n cynnwys tua 15 o fyfyrwyr ynghyd ag arweinydd y seminar (sef aelod o’r tîm addysgu). Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.

Mae Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn cynnig cyfleoedd i ddysgu ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae seminarau wedi’u haddysgu yn y Gymraeg ar gael mewn modiwlau ym mhob un o Flynyddoedd 1, 2 a 3. Gall myfyrwyr ddewis ysgrifennu’r cyfan neu rywfaint o’u gwaith a asesir ac arholiadau yn y Gymraeg.

Sut y caf fy nghefnogi?

Yn ogystal â chael adborth rheolaidd gan eich tiwtor personol ym mhob cwrs, bydd gennych wythnos ddarllen bob semester ar gyfer astudio dan arweiniad a chyfle i ddal i fyny ar waith a asesir, darllen ac adolygu. Defnyddir yr wythnosau hyn hefyd gan y staff i ymweld â myfyrwyr ar eu blwyddyn dramor.

Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys adborth ar lafar gan diwtoriaid yn ystod tiwtorialau, adborth personol ar waith ysgrifenedig, darlithoedd adborth, adborth ysgrifenedig cyffredinol ac adborth ar berfformiad mewn tiwtorialau.

Bydd y gwaith cwrs yn cael ei farcio gan eich tiwtor modiwl a bydd eich tiwtor yn rhoi adborth ysgrifenedig i chi ar eich gwaith. Byddwch yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl cyfnod arholiadau mis Mai/mis Mehefin a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol fel rhan o gynllun hunanasesu myfyrwyr sy’n cael ei fonitro.

Sut caf fy asesu?

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau, portffolios ac aseiniadau creadigol.

Mae traethodau ac arholiadau yn cael eu defnyddio nid dim ond at ddibenion asesu ond hefyd fel ffordd o ddatblygu eich galluoedd i gasglu, trefnu, gwerthuso a defnyddio syniadau a gwybodaeth berthnasol o wahanol ffynonellau mewn dadleuon rhesymegol. Mae gweithdai pwrpasol ar draethodau a chyngor unigol yn eich galluogi chi i greu eich gwaith gorau, ac mae adborth ysgrifenedig ar draethodau’n cyfrannu at waith y dyfodol, gan eich galluogi chi i ddatblygu eich cryfderau a mynd i’r afael ag unrhyw faes gwannach.

Mae traethawd hir dewisol y flwyddyn derfynol yn rhoi cyfle i chi ymchwilio’n drylwyr i bwnc penodol sydd o ddiddordeb i chi, gan ennyn gwybodaeth fanwl am faes astudio penodol; defnyddio eich menter wrth gasglu a chyflwyno deunydd; a chyflwyno dadl glir a chadarn a llunio casgliadau priodol.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd i chi:

  • deall pynciau cymhleth gyda hyder
  • gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth
  • cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
  • nodi a defnyddio data perthnasol
  • datblygu sgiliau ymchwil ymarferol
  • cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
  • cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • gweithio yn ôl terfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • dysgu yn sgîl beirniadaeth adeiladol ac ymgorffori ei mewnwelediadau
  • gweithio’n rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • defnyddio rhaglenni TG a'r cyfryngau digidol, lle bo'n briodol
  • cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth

Mae graddedigion Athroniaeth yn enwog am eu sgiliau dadansoddol pendant a'u gallu i adeiladu a chyfathrebu dadleuon clir. Bydd astudio Athroniaeth yn datblygu’ch gallu i ganfod y rhesymau dros honiadau pobl, dod o hyd i dybiaethau gwaelodol y rhesymau hynny, asesu’r rhesymau a’r tybiaethau’n feirniadol, a chyfleu hynny i gyd yn glir ac yn effeithiol.

Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Mae Gwleidyddiaeth yng Nghaerdydd yn gronfa recriwtio uchel ei pharch ar gyfer amrywiaeth o gyflogwyr yn y sector, a bu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, yr Adran Addysg, Asiantaeth Ffiniau’r Deyrnas Unedig ac ystod o bleidiau gwleidyddol i gyd yn recriwtio myfyrwyr o’r flwyddyn raddio ddiwethaf.

Y tu allan i'r sector gwleidyddol, mae'r radd o ddiddordeb i gyflogwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, gyda graddedigion yn manteisio ar gyfleoedd hyfforddi ar gyfer bod yn rheolwyr yn EY, Enterprise Rent A Car, Zurich Insurance a King Worldwide.

Astudio yn Gymraeg

Mae hyd at 33% o'r cwrs hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cysylltwch â'r Tiwtor Derbyn am wybodaeth bellach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.